Drama Fawr ar LwyfannauLlai: Mae Opera Canolbarth Cymru yn cyflwyno’r ‘ddrama o fewn drama’ drasig a dwys, Pagliacci gan Leoncavallo yn yr hydref eleni!

0
165
Pagliacci Image Credit: Matthew Williams-Ellis

Paratowch am noson o densiwn dramatig a dwyster emosiynol wrth i Opera Canolbarth Cymru (OCC) gychwyn ar ei thaith LlwyfannauLlai ddiweddaraf gyda champwaith operatig Ruggero Leoncavallo, Pagliacci, neu Clowns. Daw hanes trasig cariad, brad, a’r ffiniau aneglur rhwng perfformiad a realiti i’r amlwg, gan swyno cynulleidfaoedd gyda phŵer emosiynol byw a cherddoriaeth syfrdanol. 

 Mae’n bleser gan Opera Canolbarth Cymru gyhoeddi bod y tocynnau bellach ar werth ar gyfer eu cynhyrchiad LlwyfannauLlai o Pagliacci, cynhyrchiad sy’n ymchwilio i agweddau tywyllach y cyflwr dynol, gan edrych ar themâu cenfigen, dial, a’r ffin denau rhwng celf a bywyd.

Mae’r profiad operatig grymus hwn yn addo swyno selogion opera a newydd-ddyfodiaid fel ei gilydd. Gyda stori afaelgar, sy’n cymylu’r ffin rhwng perfformiad a realiti, a cherddoriaeth fythgofiadwy sy’n cyfleu emosiynau dwys, mae Pagliacci yn parhau i fod yn un o’r operâu mwyaf poblogaidd ac fe’i perfformir yn eang ledled y byd. Mae archwiliad yr opera o fregusrwydd dynol, cenfigen a brad, ynghyd â’i strwythur ‘drama o fewn drama’ dramatig, yn sicrhau bod cynulleidfaoedd yn dal i berthnasu â’r opera a’i bod yn berthnasol ar draws gwahanol gelfyddyd a diwylliannau.

Adroddir hanes Canio yn Pagliacci, arweinydd criw teithiol o actorion, sy’n gorfod ymateb i newydd dinistriol am anffyddlondeb ei wraig Nedda. Ag yntau’n cael ei orfodi i berfformio ar y llwyfan yn ei ofid, mae anobaith bywyd go iawn Canio yn adleisio’r cymeriad mae’n ei chwarae, gan arwain at uchafbwynt trasig sy’n cymylu’r ffin rhwng y dychmygol a realiti.

Mae taith Pagliacci LlwyfannauLlai yn barhad o ymrwymiad Opera Canolbarth Cymru i ddod ag opera o ansawdd uchel i gymunedau ledled Cymru a’r Gororau a bydd yn cael ei pherfformio o Hydref 25ain tan fis Tachwedd 22ain, 2024. 

Mae’r cynhyrchiad newydd hwn yn cynnwys cast o bump o gantorion a phum cerddor, gyda chyfieithiad Saesneg gan Richard Studer a threfniant siambr gan Jonathan Lyness. Yn wahanol i ffurf draddodiadol opera, bydd y perfformiad yn cael ei gyflwyno mewn dwy ran. Bydd yr hanner cyntaf yn cael ei neilltuo i opera Pagliacci, tra bydd yr ail hanner yn cynnwys cabaret newydd o ddarnau cerddorol poblogaidd a difyr, gan roi cyfle i’r i gynulleidfa fwynhau amrywiaeth gyfoethog o berfformiadau mewn un noson. 

Pagliacci Image Credit: Matthew Williams-Ellis

Mae’r Cyfarwyddwr Cerdd Jonathan Lyness yn rhannu ei gyffro am y cynhyrchiad newydd: “Alla i ddim aros i ddechrau ar yr opera yma! Mae’n ddarn sy’n llawn egni a harddwch – yn afaelgar, yn gyflym, yn ddoniol ac yn drasig. Mae’n cynnwys yr orau o’r holl ariâu i denor o bosib – mae’n cynnwys popeth, a hynny o fewn tua 60 munud! Os nad ydych wedi gweld opera erioed o’r blaen, dewch i weld hon!” 


Soniodd y Cyfarwyddwr Artistig Richard Studer am y broses greadigol oedd yn sail i Pagliacci: ” Mae hon yn stori anhygoel ac yn gast anhygoel wedi eu harwain gan y soprano wych o Gymru, Elin Pritchard fel Nedda. Mae’n waith newydd i mi a bydd archwilio’r ddrama o fewn drama gyda grŵp mor dalentog o artistiaid ac i deithio i leoliadau cymunedol yn uchafbwynt fy mlwyddyn. Mae gweithio ar y raddfa hon yn caniatáu dull naturiolaidd o weithio, mae’r manylion yn bwysig pan mae’r gynulleidfa chwe throedfedd i ffwrdd!”

Mae’r cynhyrchiad arloesol hwn hefyd yn parhau â thraddodiad OCC o addasiadau creadigol er mwyn gwneud opera’n hygyrch i gynulleidfa ehangach. Daw’r trefniant siambr cryno a’r lleoliadau clyd yn dod â phersbectif newydd i sgôr eiconig Leoncavallo ac ehangu effaith weledol y ddrama.

Bydd noson agoriadol taith Pagliacci yn lansio yn Ystafelloedd Cynnull Llwydlo ddydd Gwener, 25 Hydref, 2024, ac yn gorffen yn Theatr Hafren, y Drenewydd ddydd Gwener, Tachwedd 22, 2024. Mae’r daith yn mynd i amrywiaeth o leoliadau; o neuaddau cymunedol i theatrau sefydledig, gan sicrhau bod cynulleidfaoedd ar draws y rhanbarth yn cael cyfle i brofi’r cynhyrchiad nerthol.

Pagliacci Image Credit: Matthew Williams-Ellis


Diolch i raff achub ariannol hanfodol gan Gyngor Sir Powys a haelioni anhygoel ei gefnogwyr, mae Opera Canolbarth Cymru yn agosach nag erioed at sicrhau dyfodol cynaliadwy. Ar ôl codi dros £36,000 tuag at eu nod o £50,000, mae OCC angen eich help o hyd! Gall eich rhoddion, mawr neu fach, wneud gwahaniaeth enfawr. Gallwch hefyd gefnogi OCC trwy brynu tocynnau i weld Pagliacci ar daith LlwyfannauLlai—mae pob tocyn sy’n cael ei werthu yn dod â’r sefydliad gam yn nes at sicrhau ffyniant opera fyw ledled Cymru!

Mae’r daith hon hefyd yn bosib gyda chefnogaeth hael Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gyngor Sir Powys, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Elusen Gwendoline a Margaret Davies, Sefydliad Millichope a llawer o roddwyr unigol. 

Pagliacci Image Credit: Matthew Williams-Ellis

Ynglŷn ag Opera Canolbarth Cymru: Ers ei sefydlu, mae Opera Canolbarth Cymru wedi ymroi i gyflwyno perfformiad operatig o’r safon uchaf i gynulleidfaoedd ledled Cymru. Mae’r cwmni wedi ei wreiddio’n ddwfn yn y gymuned leol, gyda chenhadaeth i feithrin talent ifanc a gwneud opera’n hygyrch i bawb. Mae ymroddiad OCC i ddyfeisgarwch a rhagoriaeth parhau i ysgogi cenedlaethau newydd o selogion opera. Heb os, mae cefnogi cantorion ifanc yn dal wrth wraidd cenhadaeth y cwmni, gyda hanner y cast fel arfer yn gantorion o dan 32 oed neu wedi gorffen eu hyfforddiant o fewn y bum mlynedd ddiwethaf. Ers ei sefydlu, Theatr Hafren yn y Drenewydd yw cartref Opera Canolbarth Cymru.  


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle