Bwrdd Iechyd yw’r cyntaf yng Nghymru i gael ei wobrwyo am ei waith gydag awtistiaeth

0
87
Angela Lowe

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw’r Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i ennill statws ‘Deall Awtistiaeth’.

Mae’r achrediad yn cael ei ddyfarnu gan y Tîm Niwro-ddargyfeirio Cenedlaethol, corff a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n ymroddedig i wella bywydau plant, pobl ifanc, oedolion a’u teuluoedd niwro-ddargyfeiriol.

Mae’r tîm yn ymgysylltu â rhanddeiliaid o bob sector ledled Cymru i helpu i ddatblygu polisi, deddfwriaeth, adnoddau, a gwybodaeth am niwroddargyfeirio. Mae hyn yn cynnwys awtistiaeth, helpu i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth a chael gwared ar rwystrau a allai atal pobl niwro-ddargyfeiriol rhag cyflawni eu potensial.

Er mwyn ennill statws ‘Deall Awtistiaeth’, bu’n rhaid i 85 y cant o 13,000 o staff Hywel Dda gwblhau modiwlau e-ddysgu. Mae’r wobr yn golygu bod Hywel Dda a’i weithwyr wedi cael eu cydnabod fel sefydliad sy’n deall awtistiaeth.

Autism Aware team collect their award in Cardiff

Y gobaith yw y bydd hyn, yn ei dro, yn galluogi staff niwro-ddargyfeiriol a chleifion i gael eu cefnogi’n well yn yr amgylchedd gwaith neu pan fydd gofal iechyd ar gael.

Fe wnaeth cynrychiolwyr o Wasanaethau Niwro-ddatblygiadol Hywel Dda derbyn y wobr mewn seremoni arbennig dydd Iau diwethaf (31 Hydref) yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd.

Dywedodd Catherine Vaughan, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau ar gyfer Gwasanaethau Niwro-ddatblygiadol yn Hywel Dda: “Mae bod yn niwro-ddargyfeiriol yn golygu bod y ffordd yr ydym yn profi’r byd yn wahanol.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda Thîm Niwro-ddargyfeirio Cenedlaethol Cymru a gwasanaethau ar draws y Bwrdd Iechyd, gan ein bod am gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth a chyflyrau niwro-ddargyfeiriol eraill ledled y sefydliad.

“I hwyluso hyn, rydym wedi datblygu strategaeth niwro-ddargyfeirio sy’n cynnwys gweithio mewn partneriaeth â’r tîm cenedlaethol i ddatblygu a darparu gweminarau, ynghyd â datblygu a darparu pecynnau hyfforddi pwrpasol i lawer o feysydd gwasanaeth ar draws y Bwrdd Iechyd.

“Rydym hefyd yn y broses o ddatblygu grŵp diddordeb arbennig i annog ymgysylltiad ehangach ar draws y Bwrdd Iechyd.”

Mae Catherine yn cydnabod bod mwy o waith i’w wneud yn Hywel Dda.

“Mae modiwl e-ddysgu Deall Awtistiaeth yn fan cychwyn. Rydym bellach yn sefydliad ‘Deall Awtistiaeth’ ond ymhen amser, y weledigaeth yw i adrannau ddatblygu hyd yn oed mwy o wybodaeth a sgiliau i fod yn fwy gwybodus a medrus am awtistiaeth gan fod mynychder awtistiaeth ac ADHD, er enghraifft, yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn.

“Mae’n bosibl y bydd un o bob saith gweithiwr yn niwro-ddargyfeiriol, felly fel cyflogwr sy’n meddwl am ddatblygu’r gweithlu, sut mae cadw’r staff sydd gennym drwy wneud yr addasiadau rhesymol angenrheidiol yn y gweithle?

“Ymhellach, sut mae denu pobl niwro-ddargyfeiriol i ddod i weithio i ni ac ennyn hyder ynddynt y cânt eu cefnogi a’u gwerthfawrogi am y cryfderau a’r setiau sgiliau sydd ganddynt?”

Mae Catherine yn credu y bydd bod yn sefydliad ‘Deall Awtistiaeth’ yn dod â buddion i’r cleifion a’r teuluoedd y mae Hywel Dda yn eu gwasanaethu.

“Lle bynnag yr ydych yn gweithio yn y sefydliad a beth bynnag fo’ch rôl, rydych yn debygol iawn o ddod ar draws cleifion niwro-ddargyfeiriol a/neu eu teuluoedd. Mae’n bwysig bod niwro-ddargyfeiriad yn cael ei gydnabod, ynghyd ag unrhyw anghenion ychwanegol, er mwyn helpu i wneud profiad a chanlyniadau’r claf yn un cadarnhaol.”

Dywedodd Liz Carroll, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Hywel Dda: “Rydym yn falch iawn o gael ein cydnabod fel sefydliad ‘Deall Awtistiaeth’. Mae’n gydnabyddiaeth o holl waith caled, ymrwymiad, ymroddiad a brwdfrydedd yr holl staff sy’n gweithio ar draws Gwasanaethau Niwro-ddargyfeiriol yn Hywel Dda. Llongyfarchiadau i Catherine a’r timau.

“Mae mor bwysig ein bod ni fel cyflogwyr yn cofleidio’r amrywiaeth yn ein cymuned ac rydym yn gwybod bod mwy o waith i’w wneud. Mae gen i ffydd yn Catherine a’r tîm rydyn ni’n cymryd camau breision tuag ato tuag at ble rydyn ni eisiau bod fel sefydliad sy’n cefnogi ac yn annog y rhai sy’n byw gyda chyflyrau niwro-ddargyfeiriol.”

LLUN: O’r chwith i’r dde – Aelodau o’r tîm yn casglu eu gwobr – Trica Roberts (Nyrs Clinigol Arbenigol Gwasanaeth ADHD Oedolion), Wendy Thomas (Pennaeth Tîm Niwro-ddargyfeiriol Cenedlaethol yng Nghymru)) Catherine Vaughan (Rheolwr Cyflenwi Gwasanaeth Gwasanaethau Niwro-Ddatblygiadol) ac Emily Dwyer (Arweinydd Tîm Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig).

ASTUDIAETH ACHOS: ANGELA LOWE

Astudiaeth Achos: Mae Angela Lowe yn Weithiwr Cymorth Arbenigol Niwro-ddargyfeirio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a gafodd ddiagnosis o awtistiaeth yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae hi wedi gweithio i’r bwrdd iechyd ers saith wythnos yn unig ond mae eisoes yn teimlo manteision gweithio i sefydliad sy’n ymwybodol o awtistiaeth.

“Dim ond saith wythnos rydw i wedi bod yma, ond rwyf wedi cael dechrau da – mae’n debyg bod hynny’n dyst i ba mor hawdd y bu i mi ymuno â’m gweithle newydd, sy’n gallu achosi pryder,” meddai Angela.

“Mae dod i’r awyrgylch yma lle mae pobl yn niwro-gadarnhau ac yn gwneud i chi deimlo’n gartrefol yn barhaus ac yn dweud ymadroddion fel ‘jyst byddwch chi’ – mae’n chwa o awyr iach, oherwydd nid dyna fy mhrofiad arferol.”

Ni chafodd Angela, sy’n 49 oed, ddiagnosis o awtistiaeth tan ei bod yn 47 oed. Mae hi wedi wynebu rhai sefyllfaoedd heriol yn y gweithle dros y blynyddoedd ond roedd gwybod bod Hywel Dda yn sefydliad sy’n ymwybodol o awtistiaeth wedi’i denu i’w rôl bresennol.

“Cefais frwydrau mawr trwy gydol fy addysg. Ac roedd cael gwaith yn anodd iawn i mi, yn bennaf oherwydd pryder,” meddai Angela. “Allwn i ddim hyd yn oed wneud cyfweliad pan oeddwn yn ifanc. Mae wedi cymryd amser hir i mi gyrraedd lle rydw i nawr.”

Mae Angela wedi gweithio mewn lleoliadau addysg a gofal dros y blynyddoedd mewn rolau amrywiol a byddai wedi bod wrth ei bodd yn dod yn athrawes gymwysedig ond wedi dioddef pwl o banig yn ystod ei harholiadau terfynol ac yn teimlo na allai gwblhau ei hastudiaethau.

“Felly dechreuais yn gadarn iawn ar y gwaith o roi cymorth i anghenion dysgu ychwanegol, ac yn naturiol fe ddechreuais eirioli dros blant a phobl ifanc sy’n niwroddargyfeiriol,” meddai Angela.

“Ond fe wnes i ddarganfod nad oedd staff yn aml yn fy neall- roedd rhai yn deall ond roedd wastad rhai nad oedd. Roedd rhai yn ei gwneud hi’n eithaf anodd i mi ar adegau, ac rydw i wedi cael rhai profiadau negyddol iawn.

“Mae fy rheolwr a chydweithwyr yn y tîm niwroamrywiaeth yn Hywel Dda wedi bod yn gefnogol iawn, yn ymwybodol iawn ac yn deall. Mae’n gwneud byd o wahaniaeth” meddai Angela.

Dywedodd Angela y gall dechrau swydd newydd a chwrdd â phobl newydd fod yn wirioneddol heriol iddi hi ac i’r rhai sy’n byw gyda niwroddargyfeirio.

“Dim ond trio dod i adnabod pobol ydyn ni, ond weithiau, gyda wynebau newydd – dw i’n gallu bod yn eithaf dall wyneb ar adegau.

“Ac efallai na fyddaf yn ymgysylltu’n llawn i ddechrau, ond rwy’n ceisio lleddfu’r pryder hwnnw a gwirio pwy yw pobl.

“A dwi’n meddwl weithiau gall cydweithwyr deimlo fel petaech chi’n cadw’ch hun i chi’ch hun. A dweud y gwir, rydych chi’n ceisio hunanreoli, rheoleiddio, ymlacio’n raddol i’r diwrnod.”

Dywedodd Angela ei bod yn edrych ymlaen at weithio yn Hywel Dda.

“Tra o’r blaen roeddwn i’n arfer bod â chymaint o bryder ynghylch cyrraedd y gwaith – byddwn i dan straen am gael fy nghamddeall gan rai aelodau o staff, a byddai gen i hefyd lefelau blinder uchel o guddio drwy’r amser. Nid oes angen i mi wneud hynny yma.

“O’r blaen, byddwn i’n mynd adref a byddai’n rhaid i mi ddadlwytho drwy’r amser. Llawer o brofiadau negyddol a oedd yn dolennu yn fy meddwl ac roedd yn eithaf ofnadwy a dweud y gwir. Rwy’n dod adref nawr yn gyffrous iawn i fod adref ac yn edrych ymlaen at weld fy nheulu ac yn hapus iawn.

“Mae wedi bod yn newid bywyd i mi, gweithio yma.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here