Gwiriwch pa gymorth ariannol y gallech fod â hawl iddo

0
218
Cabinet Secretary for Social Justice, Jane Hutt

Gyda’r Wythnos Siarad Arian yn mynd rhagddi, mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, yn annog pobl i wirio pa gymorth ariannol y maent yn gymwys i’w dderbyn, oherwydd gallai fod cymorth ar gael, gan gynnwys credyd pensiwn, nad ydynt wedi ei hawlio

Ers 2022, mae rhaglenni a chymorth Llywodraeth Cymru i bobl yng Nghymru, wedi targedu at rheini sydd â’r angen mwyaf, a rhoi arian yn ol ym mhocedi pobl, wedi bod gwerth bron i £5bn.

Mae’r ymgyrch Yma i Helpu – Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi, y Gronfa Gynghori Sengl, y Gronfa Cymorth Dewisol, cymorth gyda’r dreth gyngor, a Chymorth i Aros yn rhai o’r rhaglenni sy’n parhau i fod yn allweddol o ran darparu cefnogaeth.

Rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, mae cynghorwyr Yma i Helpu – Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi wedi helpu dros 36,800 o bobl gyda dros 120,000 o faterion – mwy na 9,600 ohonynt yn ymwneud â phroblemau dyled.

Mae’r Gronfa Gynghori Sengl, a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2020, wedi helpu dros 280,000 o bobl i ddelio â mwy nag 1.1 miliwn o broblemau lles cymdeithasol. Cafodd y rhai a gafodd gymorth eu helpu i hawlio incwm ychwanegol gwerth £137 miliwn, a chafodd dyledion gwerth £38.5 miliwn eu dileu.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi neilltuo £12m y flwyddyn am dair blynedd o Ebrill 2025 ar gyfer gwasanaethau sy’n helpu pobl i reoli costau byw a datrys problemau gyda’u tai, budd-daliadau lles, ac ymrwymiadau ariannol. Bydd £300,000 ychwanegol hefyd yn darparu mwy o hyfforddiant am ddim yn benodol ar gyfer gweithwyr rheng flaen i helpu eu defnyddwyr gwasanaeth.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt: “Mae’n hanfodol bod pobl yng Nghymru, gan gynnwys pensiynwyr, yn hawlio pob £1 y mae ganddynt hawl i’w chael.

“Mae rhaglenni Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan allweddol drwy gefnogi pobl ledled Cymru, gan helpu i roi arian yn ôl mewn pocedi ac yn rhoi cyngor a chymorth hanfodol pan fo angen.

“Rydyn ni hefyd wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod mwy o bobl yn manteisio ar gredyd pensiwn a fydd yn datgloi mynediad at nifer o fudd-daliadau eraill hefyd.

“Mae cefnogaeth ar gael, a dw i’n annog pawb i geisio’r cymorth ariannol y maen nhw’n gymwys i’w dderbyn.”

Dywedodd Simon Hatch, Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru: “Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl ledled Cymru yn parhau i gael trafferth fforddio costau byw bob dydd a thalu biliau hanfodol. Gyda’r gaeaf yn prysur agosáu, bydd yn gyfnod pryderus i lawer, ond mae cymorth ar gael. Mae ein swyddfeydd Cyngor ar Bopeth lleol ledled Cymru eisoes wedi helpu mwy na dwywaith nifer y bobl i gael cyngor ar Gredyd Pensiwn, o’i gymharu â’r adeg hon y llynedd.”

“Gallwn helpu i wneud yn siŵr eich bod yn derbyn pob ceiniog y mae gennych hawl iddi, er mwyn gwneud y gaeaf hwn ychydig yn haws.”

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i ganfod pa gymorth y gallent ei gael, drwy ffonio Advicelink Cymru am ddim ar 0808 250 5700 neu ymweld â gwefan Cyngor ar Bopeth. Gall y rheini na allant glywed neu siarad, ddefnyddio’r ffôn drwy deipio’r hyn y maent am ei ddweud – dylent ffonio 18001 ac yna 08082 505 720 trwy Relay UK.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle