Bydd diwydiant gwyddorau bywyd ffyniannus Cymru yn cael ei ddathlu a’i hyrwyddo yn un o’r ffeiriau masnach busnes-i-fusnes mwyaf yn y byd yn ystod Wythnos Masnach Ryngwladol.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, yn arwain cynrychiolwyr o Gymru yn ffair fasnach MEDICA, sy’n cael ei chynnal yn Düsseldorf o ddydd Llun 11 Tachwedd tan ddydd Iau 14 Tachwedd 2024.
Gyda thros 30 o gwmnïau o Gymru a 50 o gynrychiolwyr yn bresennol, dyma fydd presenoldeb mwyaf Cymru yn MEDICA ers cyn pandemig Covid-19.
Gyda thros 5,300 o arddangoswyr o bron i 70 o wledydd, yn ogystal â 83,000 o ymwelwyr, mae’r digwyddiad yn gyfle i dynnu sylw at lwyddiannau masnach a buddsoddi diweddar yng Nghymru, hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael i gwmnïau yng Nghymru, ac arddangos cynhyrchion a gwasanaethau arloesol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
“Mae diwydiant gwyddorau bywyd Cymru yn cynyddu’n gyflym, gan ei wneud yn un o’n sectorau twf mwyaf cyffrous a dynamig. Ar hyn o bryd mae ganddo drosiant o dros £2.85bn y flwyddyn, gyda llawer ohono’n canolbwyntio ar allforio.
“Rydym wedi cefnogi llawer o fusnesau’r sector ar eu teithiau allforio ac mae’n wych cefnogi presenoldeb mor fawr o Gymru yn MEDICA eleni.
“Bydd ein presenoldeb yn codi proffil Cymru a busnesau Cymru ymhellach ar lwyfan byd-eang, ac yn cryfhau ein partneriaeth â’r Almaen – un o’r marchnadoedd allforio mwyaf ar gyfer nwyddau o Gymru.”
Ymhlith y cwmnïau o Gymru sy’n mynychu MEDICA y mae cwmni hirsefydlog CellPath yn y Drenewydd, sy’n arbenigo mewn cynhyrchu a chyflenwi cyfarpar a gwasanaethau a ddefnyddir ym maes diagnosteg ar gyfer canser. Yn ddiweddar, mae CellPath wedi dyblu ei drosiant allforio yn y Dwyrain Canol a De Asia o ganlyniad i raglen ehangu strategol, gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Cwmni arall sy’n arddangos yw Health & Her o Gaerdydd, sy’n gwerthu amrywiaeth o atchwanegiadau i helpu menywod wrth iddynt brofi newidiadau hormonaidd. Yn ddiweddar mae wedi mynd i mewn i farchnadoedd proffidiol yr Unol Daleithiau a Tsieina ar ôl mynychu sioe fasnach gofal iechyd fyd-eang arall – sef Arab Health, yn Dubai – fel rhan o daith fasnach Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Gervase Fay, a gyd-sefydlodd Health & Her gyda Kate Bache:
“Cael mynediad i farchnadoedd byd-eang enfawr oedd ein nod o’r cychwyn cyntaf. Wedi’r cyfan, er gwaethaf y gwahaniaethau sydd rhyngom, ni waeth pwy ydych chi, neu ymhle rydych chi’n byw, bydd menywod ymhobman yn profi newidiadau a heriau o ran iechyd hormonaidd o hyd.
“Mae’r cymorth a gawsom gan y tîm allforio yn Llywodraeth Cymru wedi bod heb ei ail. Ac mae wedi bod yn broses gydweithredol iawn rhyngom. Byddwn yn eu hargymell i unrhyw gwmni o Gymru sy’n ystyried rhoi cynnig ar allforio.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle