Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu blychau atgofion ar gyfer teuluoedd mewn profedigaeth sydd wedi cael cymorth gan y Gwasanaeth Gofal Lliniarol Pediatrig.
Mae’r blychau atgofion yn cynnwys eitemau fel teganau meddal, blychau cerddoriaeth, fframiau lluniau, dyddlyfrau, canhwyllau a chalonnau pren.
Mae’r blychau wedi’u hariannu gan roddion i’r Gronfa Ddymuniadau, ymgyrch sy’n creu atgofion parhaol i’r plant a’r bobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n bygwth bywyd ac sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd.
Dywedodd Rachel Brown, Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol Pediatrig: “Rydym mor ddiolchgar am y rhoddion tuag at y Gronfa Ddymuniadau sydd wedi caniatáu i ni brynu’r blychau atgofion hyn.
“Mae blwch atgofion yn bersonol ac yn ystyrlon iawn ac mae’n anrhydeddu bywyd person. Mae’r blychau yn gysylltiad rhwng y teuluoedd a’u hanwyliaid, maent yn dilysu emosiynau a mynegiant o feddyliau a theimladau yn ogystal â chynorthwyo yn y broses alaru.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar iawn am roddion i’r Gronfa Ddymuniadau sydd wedi ein galluogi i brynu eitemau mor bwysig i deuluoedd a gefnogir gan Gwasanaeth Gofal Lliniarol Pediatrig.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Dysgwch fwy am y Gronfa Ddymuniadau yma:https://elusennauiechydbihyweldda.gig.cymru/ymgyrchoedd/cronfa-dymuniad/
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch iwww.hywelddahealthcharities.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle