Gyrfa Cymru yn lansio her Criw Mentrus ar gyfer ysgolion cynradd ledled Cymru

0
63
Enterprise Troopers
Mae Gyrfa Cymru, mewn cydweithrediad â rhaglen Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru, Syniadau Mawr Cymru, yn lansio Her Ysgolion Cynradd y Criw Mentrus ar gyfer 2024-25. Gwahoddir ysgolion cynradd ledled Cymru i gofrestru a chystadlu mewn tri chategori, gyda gwobrau ariannol o hyd at £2,500 a gwobrau ychwanegol i oreuon y gweddill.
Mae’r her yn cynnig cyfle unigryw i ysgolion cynradd yng Nghymru arddangos nid yn unig eu hysbryd entrepreneuraidd, ond eu creadigrwydd, eu hymrwymiad i gynaliadwyedd, a’u cymunedau lleol. Bydd ysgolion sy’n cymryd cam ychwanegol wrth feithrin agwedd arloesol at entrepreneuriaeth yn cael eu cydnabod a’u gwobrwyo yn y categorïau canlynol:
  • Gwobr ECO / Effaith Cynaliadwyedd
  • Gwobr Effaith Cymdeithasol / Cymunedol
  • Gwobr Creadigrwydd / Arloesedd
Gall ysgolion gofrestru eu diddordeb a dod o hyd i ragor o wybodaeth drwy ymweld â gwefan Y Criw Mentrus | Busnes Cymru – Syniadau Mawr.
Nod her y Criw Mentrus yw datblygu agweddau entrepreneuraidd hanfodol ymhlith dysgwyr ifanc, gan annog creadigrwydd, datrys problemau, a sgiliau cyfathrebu a threfnu, wrth feithrin eu hyder mewn llythrennedd a rhifedd.
Bydd pob ysgol sy’n cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth ar-lein yn derbyn pecyn mynediad digidol gyda mynediad at adnoddau’r Criw Mentrus, sydd â’r nod o ysbrydoli plant ac athrawon fel ei gilydd gyda’r llawenydd o ddod o hyd i syniad busnes gwych, y wefr o wneud eu gwerthiant cyntaf, a’r boddhad o gefnogi eu cymuned leol. Mae’r adnoddau dysgu hwyliog hyn ar gyfer grwpiau oedran cynradd is ac uwch yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru.
Yn ogystal, bydd ysgolion sy’n rhannu lluniau o’u prosiect menter ar gyfer oriel y Criw Mentrus hefyd yn cael eu cynnwys mewn raffl fisol i ennill gwobrau arbennig i’w hysgol.
Dywedodd Mark Owen, Pennaeth Gwasanaethau i Randdeiliaid Gyrfa Cymru: “Rydym yn falch iawn o agor Her Ysgolion Cynradd y Criw Mentrus ar gyfer 2024-25. Ers dros ddeng mlynedd, mae’r gystadleuaeth hon wedi parhau i roi cyfle unigryw i ddysgwyr brofi byd menter, datblygu sgiliau hanfodol, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau. Mae hefyd yn gyfle i ysgolion gael eu cydnabod am y gwaith entrepreneuraidd anhygoel y maent yn ei wneud ac i rannu eu llwyddiannau ag eraill.
“Rydym yn annog ysgolion ledled Cymru i gymryd rhan, gan ddefnyddio adnoddau’r Criw Mentrus i gefnogi eu dysgwyr a’u helpu i archwilio posibiliadau cyffrous entrepreneuriaeth.”
Dywedodd Carys Davies, Arweinydd Menter Ysgol Gynradd Halfway, a gymerodd ran yn her y llynedd: “Cafodd disgyblion gyfleoedd i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd mewn ffordd ddilys a hwyliog. Hyfryd oedd gweld hyder dysgwyr yn tyfu. O ddysgwyr â dawn fathemategol i’r rhai creadigol, cafodd pawb gyfle i gymryd rhan, cyfrannu, a dysgu o’r prosiect.
Enterprise Troopers
Hoffem ddatblygu a thyfu fel ysgol entrepreneuraidd a rhoi mwy o gyfleoedd i ddysgwyr gael profiadau dysgu dilys trwy gymryd rhan yn y Criw Mentrus.”
Manylion allweddol Her y Criw Mentrus:
  • Ar agor i bob ysgol gynradd yng Nghymru, yn y cyfnodau cynradd is ac uwch.
  • Mae’n ddelfrydol ar gyfer ysgolion sydd â chlybiau menter sefydledig, y rhai sydd wedi ymuno â heriau’r gorffennol, neu’r rhai sy’n awyddus i ddechrau eu gweithgareddau menter cyntaf.
  • Gall ysgolion gyflwyno unrhyw brosiect a arweinir gan ddisgyblion ac yn seiliedig ar waith tîm sydd wedi bod yn weithredol ar unrhyw adeg rhwng 1 Ionawr 2024 a’r dyddiad cau, sef 16 Mehefin 2025.
  • Cyhoeddir yr enillwyr ym mis Gorffennaf 2025.
  • Cofrestrwch nawr ar gyfer her y Criw Mentrus yma.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here