Gyda gweithlu o weldwyr sy’n heneiddio yn y DU – amcangyfrifir y bydd 50% ohonynt yn ymddeol yn y tair blynedd nesaf – bydd angen mwy na 35,000 o weithwyr medrus ar y sector, yn ôl adroddiad gan y Rhwydwaith Adeiladu a Sgiliau (CSN).
Dywedodd Tony Commins, darlithydd Gwneuthuro a Weldio yn Cambria Glannau Dyfrdwy, bod cynnydd wedi bod yn nifer y myfyrwyr ar y cwrs y flwyddyn academaidd hon.
Fodd bynnag, mae angen i lawer mwy o ddysgwyr ddilyn weldio fel gyrfa os mai’r bwriad yw cau’r bwlch sgiliau.
“Mae mwy o bobl wedi ymuno â ni ond yn genedlaethol mae gostyngiad wedi bod yn nifer y bobl ifanc sy’n dilyn gyrfa peirianneg, yn enwedig weldio,” meddai Tony.
“Mae ‘na lawer o alw – yn enwedig dramor – a chymaint o gyfleoedd yn y proffesiwn medrus iawn yma.
“Mae galw mawr am weldwyr ar draws y byd, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau ac Awstralia, yn ogystal â’r DU, felly mae’n llwybr y dylen nhw feddwl amdano.”
Ychwanegodd: “O ystyried symud tuag at roboteg, mae rhaglennu peiriannau a gweithredu yn faes arall lle bydd cynnydd sylweddol yn y blynyddoedd i ddod.
“I ni mae’n ymwneud â dangos i ddysgwyr bod weldio yn fasnach lle mae amrywiaeth, gyda gwahanol rolau ac opsiynau i’w hystyried.”
Yn ogystal â’r niferoedd yn ffynnu, mae gan y coleg dri myfyriwr ymysg yr 20 prentis weldio a gwaith metel adeiladu gorau yn y DU.
Yn ddiweddar, bu Jimmy Smith, Zac Winn a Mark Wright yn cymryd rhan yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK ym mis Tachwedd, gyda phob un wedi ennill medal – daeth Zac â medal aur adref.
“Mae’r tri yn hynod ddawnus, ac roedd cyrraedd y rowndiau terfynol o ystyried y sefydliadau, y cwmnïau gweithgynhyrchu a’r academïau hyfforddi roedden ni’n cystadlu yn eu herbyn yn gamp anhygoel,” meddai Tony.
“Fe wnaethon nhw gystadlu yn erbyn y goreuon, a gwneud mor dda – roedden nhw’n haeddu bod yno a bydd ennill y medalau hynny’n cael effaith gadarnhaol ar eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”
Mae technoleg arloesol gan gynnwys torwyr plasma, peiriannau plygu metel a setiau weldio arbenigol hefyd wedi denu dysgwyr, a meithrin partneriaethau gyda rhai o’r enwau blaenllaw ym maes peirianneg yng ngogledd ddwyrain Cymru a thu hwnt.
Ewch i www.cambria.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth am yr ystod eang o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle