Mae rhoddion elusennol yn ariannu stiliwr ysgyfaint o’r radd flaenaf ar gyfer Ysbyty Tywysog Philip

0
114
Pictured with the new probe, l-r: Dr Fisher-Black and Dr Robin Ghosal

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi prynu stiliwr o’r radd flaenaf gwerth dros £46,000 ar gyfer y gwasanaeth meddygaeth anadlol yn Ysbyty Tywysog Philip.

Mae cleifion o dair sir Hywel Dda – Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro – yn cael eu cyfeirio at Ysbyty Tywysog Philip ar gyfer biopsïau’r ysgyfaint, a byddan nhw’n elwa o’r offer newydd.

Mae’r prosesydd EBUS rheiddiol newydd yn stiliwr uwchsain bach a hyblyg sy’n cael ei basio i lawr trwy broncosgop, sef tiwb tenau gyda golau a chamera arno.

Gall y stiliwr gyrraedd rhannau o’r ysgyfaint na ellir cael mynediad iddynt gan broncosgop safonol. Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws i glinigwyr berfformio biopsi ar rannau o’r ysgyfaint sy’n anodd eu cyrraedd.

Cyfrannodd ymgyrch Canser yr Ysgyfaint Sir Gaerfyrddin £18,000 tuag at y stiliwr newydd, a chododd cyn glaf £1,500 tuag at y gwariant. Daeth y £26,500 a oedd yn weddill o gronfeydd y Gwasanaethau Canser ac fe’i codwyd gan gleifion canser yr ysgyfaint.

Dywedodd Cyfarwyddwr yr Ysbyty Dr Robin Ghosal, Ymgynghorydd Anadlol ac Arweinydd Canser yr Ysgyfaint: “Rydym mor ddiolchgar bod rhoddion hael gan ein cymunedau lleol wedi ein galluogi i brynu’r stiliwr newydd.

“Mae EBUS rheiddiol yn dechneg ddiagnostig ddatblygedig sy’n ein galluogi i samplu masau a nodiwlau sydd y tu hwnt i olwg y broncosgop safonol. Bydd yr offer newydd yn ein galluogi i wneud diagnosis o fasau ysgyfaint mwy ymylol sy’n rhy bell allan ar gyfer broncosgopi safonol ac yn rhy bell y tu mewn i’r ysgyfaint ar gyfer biopsïau dan arweiniad sganiwr CT.

“Bydd yr offer newydd yn gwella ein gallu i wneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint, yn cynorthwyo diagnosis cynharach, ac yn ein helpu i gyflawni canlyniadau gwell i gleifion. Bydd hefyd yn darparu gweithdrefn fwy diogel sy’n lleihau’r risg o niwed i’r ysgyfaint.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here