Ym mis Ionawr, fe wnaethom lansio cyfres o sesiynau galw heibio cymunedol gyda’r nod o gasglu mewnbwn gwerthfawr gan breswylwyr a rhanddeiliaid, i helpu i nodi unrhyw faterion neu heriau y gallai’r Gwasanaeth eu hwynebu wrth gyflawni Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2040 (CRMP 2040).
Fel rhan o’r broses ymgysylltu a chynllunio bydd ein Dirprwy Brif Swyddog Tân, Iwan Cray, yn cynnal dwy weminar allanol. Bydd y sesiynau gweminar rhyngweithiol hyn yn rhoi llwyfan ar gyfer deialog agored, gan ganiatáu i aelodau’r gymuned rannu eu syniadau, eu pryderon a’u hawgrymiadau.
Rydym yn eich annog chi i gyd i ymuno ag un o’r gweminarau a rhoi gwybod i ni beth yw eich barn, trwy rannu eich safbwyntiau i helpu i siapio dyfodol eich Gwasanaeth Tân ac Achub.
Gweler y dyddiad, yr amseroedd a’r dolenni i’r gweminarau isod:
Dydd Llun, 10 Chwefror am 19:00pm – Gweminar 1
Dydd Llun, 10 Mawrth 19:00pm – Gweminar 2
Drwy gydweithio, ein nod yw creu Gwasanaeth Tân ac Achub cyfoes sy’n adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau ein cymunedau. Mae eich mewnbwn yn amhrisiadwy i’n helpu i greu Canolbarth a Gorllewin Cymru mwy diogel a chydnerth.
Am fwy o wybodaeth am y Sesiynau Galw Heibio Cymunedol neu i lenwi ein harolwg ar-lein, ewch i: Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2040
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle