Pecyn ap dwyieithog i helpu cymunedau LHDTC+ sy’n byw gyda dementia yng Nghymru

0
750

#

Bydd pecyn ap newydd sy’n dwyn i gof atgofion o Hanes LHDTC+ Cymru yn cael ei lansio y mis hwn, wrth i amgueddfeydd ledled Cymru ddod ynghyd i ddatblygu cynnwys i bobl sy’n byw gyda dementia yn y gymuned gwiar.

Cafodd y pecyn ap LHDTC+ yng Nghymru ei greu drwy raglen dementia House of Memories Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl, ac mae’n defnyddio atgofion cymunedau o bob cwr o Gymru ac eitemau a geir yng nghasgliadau amgueddfeydd Cymru.

Prif nod y prosiect hwn yw sbarduno sgyrsiau rhwng pobl sy’n byw gyda dementia a’u hanwyliaid. Gan ddefnyddio eitemau a geir yn yr ap fel sbardunau a thestun sgwrs, gall pobl sy’n byw gyda dementia gael sgyrsiau ystyrlon, yn ogystal â phersonoli’r ap i ganolbwyntio ar eitemau sydd ag arwyddocâd arbennig iddynt hwy.

Mae LHDTC+ yng Nghymru yn cael ei lansio yn ystod Mis Hanes LHDTC+, ac mae’n archif ddigidol o atgofion gan gymunedau LHDTC+ Cymru, gyda phrofiadau o dafarndai, gorymdeithiau Pride, ymgyrchedd cwiar, artistiaid drag a mwy. Mae’r pecyn newydd hwn yn ychwanegiad at raglen House of Memories Cymru a lansiwyd yn y Senedd yn 2023.

Mae amgueddfeydd ledled Cymru wedi cefnogi a chyfrannu at y prosiect i greu detholiad o ysgogiadau cof o ddiwylliant cwiar yng Nghymru.

Yr amgueddfeydd dan sylw yw: Canolfan Ddiwylliant Conwy, Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Archifau Morgannwg, Archifau Gorllewin Morgannwg, Amgueddfa Castell Cyfarthfa ac Oriel Gelf ac Amgueddfa Caerdydd.

Mae digwyddiadau allweddol fel y gefnogaeth i lowyr Cymru gan gymunedau LHDTC+ yn 1984 yn cael eu cynnwys yn yr ap gan ddefnyddio cymysgedd o sain, fideo a delweddau o eitemau hanesyddol. Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill i bobl eu harchwilio mae placardiau a wnaed â llaw ar gyfer terfysgoedd Adran 28, ffotograffau o fannau eiconig i’r gymuned a dathliadau Pride Cymru.

Mae House of Memories Cymru ar gael drwy ap My House of Memories Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl. Ynghyd â chyfraniad y gymuned dementia, mae’r ap yn cael ei gyd-greu drwy raglen arobryn House of Memories ac mae’n cynnwys atgofion gan ystod o grwpiau cymunedol yn y DU a thu hwnt.

Meddai Dawn Carroll, pennaeth House of Memories: “Yn dilyn llwyddiant House of Memories Cymru, roedd yn bwysig i ni archwilio straeon o gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac amgueddfeydd o bob cwr o’r wlad, rydym wedi creu casgliad o atgofion LHDTC+ a fydd, gobeithio, yn helpu pobl LHDTC+ sy’n byw gyda dementia yng Nghymru.

“Mae cymunedau cwiar wrth graidd y pecyn ap LHDTC+ yng Nghymru ac rydym am ddiolch i bawb sydd wedi rhannu atgofion. Bydd eu mewnbwn yn helpu i wella bywydau pobl sy’n byw gyda dementia a’u helpu i ddatblygu cysylltiadau ystyrlon rhwng eu teuluoedd neu eu gofalwyr.”

Bydd y pecyn LHDTC+ yng Nghymru yn cynnwys eitemau sy’n ymwneud â rhannau penodol o Gymru. Bydd eitemau sydd eisoes yn bodoli mewn casgliadau amgueddfeydd yn cael eu dwyn ynghyd i arddangos hanes cwiar cyfoethog ac amrywiol y wlad.

Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog sy’n gyfrifol am ddiwylliant yng Nghymru: “Bydd y pecyn ap LHDTC+ yng Nghymru hwn yn adnodd mor ddefnyddiol, gan ddathlu hanes cyfoethog a phrofiadau byw cymunedau LHDTC+ ledled ein gwlad.

“Mae’r fenter hon a gefnogir gan Lywodraeth Cymru nid yn unig yn helpu i warchod ein treftadaeth a rennir, ond hefyd yn rhoi cefnogaeth amhrisiadwy i bobl sy’n byw gyda dementia a’u hanwyliaid allu cysylltu trwy atgofion ystyrlon. Mae prosiectau fel hyn yn dangos grym treftadaeth ac adrodd straeon cynhwysol wrth gryfhau cymunedau ledled Cymru.

“Mae Cymru’n ymdrechu i fod y genedl fwyaf ystyriol o bobl LHDTC+ yn Ewrop. Mae ein Cynllun Gweithredu LHDTC+ yn nodi camau i gryfhau cydraddoldeb, herio gwahaniaethu, a chreu cymdeithas fwy diogel a chynhwysol.”

Mae pecyn ap LHDTC+ yng Nghymru House of Memories ar gael yn awr drwy ap My House of Memories. Am fwy o wybodaeth am y prosiect, gweithdai House of Memories ac i ddarganfod sut y gallwch lawrlwytho’r ap, ewch i: www.liverpoolmuseums.org.uk/house-of-memories.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here