Dormice – work with volunteers
This winter valuable work to help dormice in the county has been carried out with the help of grant funding from the Countryside Council for Wales via the Environment Partnership of the county’s Community Strategy.
Â
The Wildlife Trust of South and West Wales (WTSWW) and volunteers have planted up a gappy hedgerow to provide dormice with valuable habitat and help link up existing habitats and local dormouse ecologist, Jacqueline Hartley, with the help of volunteers, have erected dormouse boxes and nest tubes at key sites, which will be monitored.
Llyn Llech Owain Country Park had records of dormice on site and a habitat assessment was undertaken by Jacqueline in order to site the dormouse boxes within the most suitable habitat. Fifty dormouse boxes were then erected within these woodland areas near the existing dormouse records. Five volunteers and two of the Llyn Llech Owain wardens helped out.
Carmel National Nature reserve is another site where there have been records of dormouse found recently. Dormice feed on hazelnuts and leave distinctive marks on the chewed nuts and this is a good way of establishing their presence.
They also like scrub and bramble and the most suitable habitat with the most significant areas of dense scrub and bramble were located and 50 dormouse boxes were erected in the western half of the Carmel reserve with three volunteers and the warden. In addition 50 dormouse tubes were erected in suitable hedgerows. Dormice will use the tubes to make nests in and so this is another way of establishing their presence on a site.
During both visits the rangers and volunteers were shown how to erect dormouse boxes and tubes and the habitat requirements and ecology of dormice were discussed. One of the wardens from Llyn Llech Owain, one from Carmel NNR and a volunteer at both sites will undertake training to obtain a dormouse licence to enable them to monitor the boxes and tubes that have been erected.
The WTSWW undertook some hedgerow restoration at a site to provide a key local habitat linkage for dormice close to Wildlife Trust’s Rhos Cefn Bryn nature reserve near Llannon. The hedgerow had been reduced to a line of fairly mature oak trees, offering poor structure and very limited resource to dormice.
The base of the hedge was open to fairly heavy grazing by livestock (ponies) and so no young tree or shrub growth was possible. The hedgebank was fenced and the gaps planted up with locally typical hedgerow species (hazel and blackthorn). Hopefully this will in a few years time proved additional habitat for dormice and provide useful connectivity in an area important for dormice.
A Facebook page called Carmarthenshire Dormice has been set up to connect all those interested in dormice within the county and within the South-West Wales area as a whole.
Pathewod – gwaith gan wirfoddolwyr
Mae gwaith gwerthfawr wedi ei wneud yn ystod y gaeaf diwethaf er mwyn rhoi hwb i bathewod yn y sir, a hynny gydag arian grant gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru drwy gyfrwng Partneriaeth yr Amgylchedd sy’n elfen o Strategaeth Gymunedol y sir.
Bu Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru gyda chymorth gan wirfoddolwyr yn plannu coed mewn perth fylchog er mwyn darparu cynefin addas i bathewod ac er mwyn helpu i gysylltu’r cynefinoedd presennol. Mae Jacqueline Hartley (ecolegydd lleol sy’n arbenigo ar bathewod), gyda chymorth gan wirfoddolwyr, wedi bod yn gosod blychau a thiwbiau nythu i bathewod mewn safleoedd allweddol, a bydd y rhain yn cael eu monitro.
Roedd y cofnodion yn dangos bod pathewod ym Mharc Gwledig Llyn Llech Owain felly cynhaliodd Jacqueline asesiad cynefin o’r safle er mwyn sicrhau bod blychau i bathewod yn cael eu lleoli yn y cynefin mwyaf addas. Yna gosodwyd hanner cant o flychau yn y coetiroedd oedd yn agos i’r mannau hynny lle’r oedd y cofnodion yn dangos bod pathewod yn bresennol. Bu pump o wirfoddolwyr a dau o wardeiniaid Llyn Llech Owain yn cynorthwyo â’r gwaith hwn.
Safle arall lle cofnodwyd pathewod yn ddiweddar yw Gwarchodfa Natur Genedlaethol Carmel. Mae pathewod yn bwydo ar gnau cyll. Gan fod pathewod yn naddu’r masgl â’u dannedd mewn modd unigryw er mwyn gallu cael y gneuen, mae chwilio am fasgl sydd ag olion dannedd pathewod yn ffordd dda o wybod a yw pathewod yn bresennol mewn llecyn.
Gan eu bod yn hoffi prysgwydd a mieri hefyd, chwiliwyd am y cynefin mwyaf addas lle’r oedd llecynnau helaeth o brysgwydd a mieri. Felly aeth y warden a thri gwirfoddolwr ati i osod 50 o flychau i bathewod yn hanner gorllewinol gwarchodfa Carmel. Yn ogystal gosodwyd 50 o diwbiau nythu mewn perthi addas. Gan taw’r gobaith yw y bydd pathewod yn nythu yn y tiwbiau hyn, mae hon yn ffordd arall o sefydlu a ydynt yn bresennol ar safle.
Yn ystod y ddau ymweliad dangoswyd i’r wardeiniaid a’r gwirfoddolwyr sut oedd gosod y blychau a’r tiwbiau, a thrafodwyd ecoleg pathewod a’u gofynion o ran cynefin. Bydd un o wardeiniaid Llyn Llech Owain, un o wardeiniaid Gwarchodfa Natur Genedlaethol Carmel, ynghyd â gwirfoddolwr o’r naill safle a’r llall safle, yn derbyn hyfforddiant i’w galluogi i gael trwydded i drafod pathewod fel eu bod yn gallu monitro’r blychau a’r tiwbiau a osodwyd.
Bu Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn gwneud rhywfaint o waith yn adfer perth ar safle ger gwarchodfa natur yr Ymddiriedolaeth Natur yn Rhos Cefn Bryn yng nghyffiniau Llannon, a hynny er mwyn darparu cynefin cyswllt allweddol i bathewod.
Yr hyn oedd yn weddill o’r hen berth oedd rhesaid o goed deri a oedd bron â chyrraedd eu llawn dwf a phrin oedd yr adnoddau i bathewod. Gan fod bôn y berth yn cael ei bori’n grop gan ferlod nid oedd modd i goed na llwyni dyfu o’r newydd. Gosodwyd ffens ar hyd y clawdd a phlannwyd rhywogaethau a oedd yn nodweddiadol o berthi lleol (cyll a draenen ddu).
Y gobaith yw y bydd y berth hon yn gynefin ychwanegol i bathewod ymhen ychydig flynyddoedd ac yn llwybr cyswllt defnyddiol mewn ardal sy’n bwysig i bathewod.
Mae tudalen Facebook o’r enw Pathewod Sir Gaerfyrddin (Carmarthenshire Dormice) wedi ei sefydlu er mwyn cysylltu’r holl bobl yn y sir, yn ogystal ag yn Ne-orllewin Cymru, sydd â diddordeb mewn pathewod.
Carmarthenshire Biodiversity March/April 2012 eNewsletter
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle