Cael blas ar ddysgu am ddim

0
581

Cael blas ar ddysgu am ddim!

Gall mudiadau’r trydydd sector sy’n cefnogi pobl ddi-waith ar raglenni cyflogaeth a sgiliau gysylltu eu gwaith yn awr â chyfleoedd addysgol a gynigir yn rhad ac am ddim gan y Brifysgol Agored.

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn awyddus i ddatblygu partneriaethau cymunedol gyda mudiadau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol i gefnogi pobl ar fudd-daliadau ac incwm isel a’u harwain at addysg.

Dywedodd Gayle Hudson, Swyddog Datblygu gyda’r Brifysgol Agored, wrth WCVA: ‘Drwy ein Rhaglen Openings ceir amrywiaeth o gyrsiau sydd wedi’u datblygu’n arbennig ar gyfer y rheini sy’n newydd i astudio, y rheini sy’n dychwelyd i addysg neu bobl nad ydynt o bosib wedi ennill dim cymwysterau ffurfiol yn yr ysgol.

‘Eu nod yw helpu pobl i gael blas ar bynciau, datblygu sgiliau dysgu a magu hyder.  Maent yn llwybrau dilyniant delfrydol o ddysgu yn y gymuned i addysg fwy ffurfiol a gallent fod yn gamau datblygu delfrydol o brosiectau megis y Porth Ymgysylltu a’r Farchnad Lafur Drosiannol.

‘Rydym yn awyddus i weithio gyda chymunedau lleol a mudiadau’r trydydd sector i helpu i ddatblygu sgiliau a dyheadau.  Efallai y gallwn gynnig sesiynau gwybodaeth a sesiynau blasu am ddim hefyd.’

Mae cyrsiau Rhaglen Openings y Brifysgol Agored yn para am 20 wythnos ac yn dechrau pedair gwaith y flwyddyn ym mis Medi, mis Tachwedd, mis Mawrth a mis Mehefin.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Gayle Hudson (Gogledd a Chanolbarth Cymru) ar 01691 671648 ag.hudson@open.ac.uk neu Eleri Chilcot (De Cymru) ar 029 2026 2798 a r.e.chilcot@open.ac.uk. New ewch i www.open.ac.uk/openings


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle