Tenders invited for mobile catering units

0
1399

Gwahodd Tendrau am unedau arlwyo symudol
Mae busnesau bwyd yn cael cynnig cyfle i weithredu unedau arlwyo bwyd twym ac oer ym Mharc Arfordirol y Mileniwm yn Llanelli.
Bellach gwahoddir ceisiadau am ddwy uned i’w gweithredu yn y maes parcio ym Mharc Dŵr y Sandy a dwy yn y Meysydd Gŵyl. Mae dwy o unedau arlwyo bwyd twym a hyd at ddwy o unedau bwyd oer hefyd ar gael yn Harbwr Porth Tywyn.
Yn ogystal mae tendrau wedi cael eu gwahodd gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer gweithredu hyd at dair o unedau arlwyo symudol ar gyfer gwerthu hufen iâ ac eitemau oer eraill ym Mharc Gwledig Pen-bre ac un uned arlwyo i’w gweithredu o’r maes parcio y tu allan i brif fynedfa’r parc.
Gwahoddir ymgeiswyr hefyd i gyflwyno cais am lecyn arlwyo bwyd twym ym mhrif ardal y Parc o dan gontract 12 mis. Mae’n rhaid i dendrwyr ddarparu eu hadeiladau dan do dros dro eu hunain sy’n cyd-fynd â’r unedau a’r parc.
Dylai tendrau gael eu cyflwyno erbyn 12 canol dydd ddydd Mawrth, 21 Chwefror. Gellir cael rhagor o wybodaeth a ffurflenni tendro o’r Ganolfan Ymwelwyr, Parc Gwledig Pen-bre neu drwy ffonio 01554 742434 neu drwy e-bostio camppembrey@sirgar.gov.uk.
Mae caffi’r Ganolfan Sgïo sydd wedi cael ei adnewyddu wedi agor yn ddiweddar ac mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu llecyn eistedd wedi’i adnewyddu wrth siop fach y traeth ynghyd ag uned arlwyo symudol sydd â llecyn eistedd dan do a bydd y datblygiadau hyn ar gael ym Mharc Gwledig Pen-bre yn nhymor yr haf tra bydd y gwaith o adnewyddu’r prif fwyty yn mynd rhagddo.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn buddsoddi dros £2 filiwn yn y parc ac mae cynlluniau cyffrous ar y gweill ar gyfer bwyty a llecyn chwarae dan do newydd ger y maes gwersylla prysur. Mae’r dyluniadau bron wedi’u cwblhau a bydd y gwaith yn dechrau cyn bo hir.
Dywedodd y Cynghorydd Meryl Gravell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Hamdden: “Mae cynlluniau yn mynd yn eu blaenau’n dda ar gyfer gwneud gwaith adnewyddu mawr ar y prif fwyty er mwyn darparu cyfleuster modern i bobl o bob oedran.
“Roeddem ni wedi gobeithio dechrau’r gwaith yn gynt ond daeth y contractwyr o hyd i ystlumod yn yr adeilad presennol ac felly bu’n rhaid gohirio’r gwaith tan y gwanwyn.
“Rydym newydd agor y caffi sydd wedi cael ei adnewyddu yn y Ganolfan Sgïo ac sydd bellach yn cynnwys cownter bwyd twym ac oer a bydd gennym gyfleusterau arlwyo dros dro eraill yn y parc i bobl brynu bwyd tra byddant yn mwynhau’r awyr agored arbennig yma.”
Mae’r buddsoddiad gwerth £2 filiwn yn y parc yn cynnwys gwella mynedfa’r parc a’r system atalfa; yn ogystal â chreu adeilad cawodydd a thoiledau newydd ar gyfer y maes carafanio a gwersylla.
Yn y cyfamser, mae contractwyr wedi cael eu penodi i adnewyddu’r bwyty a chreu adeilad cawodydd a thoiledau newydd yn ogystal â gosod gwasanaethau newydd ar rai lleiniau carafannau a gosod goleuadau newydd.
Bydd y gwaith yn dechrau o fewn yr wythnosau nesaf ac yn cael ei gwblhau yn ystod misoedd yr haf. Ceisir tarfu cyn lleied â phosibl ar wersyllwyr ac ymwelwyr.

Tenders invited for mobile catering units
Food businesses are being offered a chance to operate hot and cold food catering units across Llanelli’s Millennium Coastal Park.
Applications are now being taken for two units to operate from the car park in Sandy Water Park and two in Festival Fields. Two mobile hot catering units and up to two cold units are also available at Burry Port Harbour.
In addition, tenders have also been issued by Carmarthenshire County Council for operating up to three mobile catering units to sell ice cream and other cold items at Pembrey Country Park and one catering unit to operate from the car park outside the park’s main entrance.
Applicants are also invited to apply for a hot food catering area to be located in the main park area under a 12-month contract. Tenderers must supply their own covered temporary building which complements the outlet and the park.
Tenders should be submitted by 12 noon on Tuesday, February 21. Further information and forms of tender can be obtained from The Visitor Centre, Pembrey Country Park, or call 01554 742434 or email camppembrey@carmarthenshire.gov.uk.
A newly refurbished Ski Centre café has recently opened and a re-furbished beach kiosk seating area together with a mobile catering unit with a covered seating area is planned and will be available at Pembrey Country Park for the summer season whilst renovation of the main restaurant area gets underway.
Carmarthenshire County Council is investing over £2million in the park, with exciting plans for a new restaurant and indoor play area near the busy camp site. Designs are nearing completion, and work will begin shortly.
Cllr Meryl Gravell, Executive Board Member for Leisure, said: “Plans are progressing well for a major refurbishment of the main restaurant to provide a modern facility for all ages.
“We had hoped to start work sooner, but contractors discovered bats within the existing building which has pushed back the schedule of works until the spring.
“We have just opened the newly refurbished café at the Ski Centre with a hot and cold food counter, and we will have other temporary catering facilities elsewhere within the park to have food whilst soaking up the stunning outdoor environment.”
The £2million investment in the park includes an improved park entrance and barrier system; as well as a new shower and toilet block for the caravan and camping site.
Meanwhile, contractors have been appointed for the restaurant refurbishment and new shower and toilet block, as well as new services to some caravan pitches and new lighting.
Work will start within weeks and will be completed during the summer months. Disruption to campers and visitors will be kept to a minimum.

Allison

Swyddog Y Wasg a Chyfathrebu | Press and Communications Officer
Tîm Marchnata a’r Cyfryngau | Marketing and Media Team
Cyngor Sir Gâr | Carmarthenshire County Council

01267 224469 | AThomas-David@sirgar.gov.uk| AThomas-David@carmarthenshire.gov.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle