Hywel Dda University Health Board launches consultation on the future of adult mental health services | Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn rhannu ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau iechyd meddwl oedolion
Yn dilyn proses dwy-flynedd gynhwysfawr o ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, gofalwyr, staff a’r cyhoedd, heddiw (22 Mehefin) mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus newydd yn swyddodgol er mwyn helpu newid gwasanaethau iechyd meddwl oedolion er gwell ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae ‘Y Daith at Adferiad’ yn gofyn barn pobl ar gynigion i newid sut yr ydym yn darparu gofal a thriniaeth er mwyn diwallu anghenion iechyd meddwl pobl nawr yn ogystal â chenedlaethau’r dyfodol.
Ar ôl trafod ac archwilio’r materion y mae ein gwasanaethau cyfredol yn dod ar eu traws, ynghyd â’r bobl yr effeithir arnynt fwyaf, rydym wedi cyd-weithio i gyd-gynllunio model sy’n cwmpasu:
Gwasanaethau 24 awr – rydym am i unrhyw un y mae arno angen help allu cael cymorth yn syth gan ganolfan iechyd meddwl, a hynny ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos
Dim rhestrau aros – pan fydd pobl yn cael eu hatgyfeirio at ein gwasanaethau rydym am iddynt gael eu cyswllt cyntaf â’r gwasanaethau hynny o fewn 24 awr, ac rydym am i’w gofal dilynol gael ei gynllunio mewn ffordd sy’n sicrhau bod y cymorth y maent yn ei gael yn gyson
Ffocws cymunedol – rydym am symud i ffwrdd oddi wrth dderbyn pobl i’r ysbyty os nad dyna’r dewis gorau; rydym am ddarparu gwasanaethau cymunedol lle gall pobl aros pan fydd arnynt angen ychydig o amser oddi cartref, cymorth ychwanegol neu ddiogelwch.
Adfer a chydnerthedd – nid ydym am i’n gwasanaethau ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar drin neu reoli symptomau; rydym am i bobl â phroblemau iechyd meddwl fyw bywydau annibynnol, sy’n rhoi boddhad iddynt, gyda’n cymorth a’n cefnogaeth.
Dywedodd Libby Ryan-Davies, Cyfarwyddwr Trawsnewid: “Mae’r gwaith yr ydym wedi ei wneud ar Drawsnewid Iechyd Meddwl wedi ein helpu i feddwl yn wahanol am y ffordd rydym yn dylunio, cynllunio ac yn darparu gwasanaethau yn lleol. Rydym yn gwybod nad ydym bob amser yn helpu pobl ag anawsterau iechy dmeddwl yn ddigon cynnar, ac nid oes teimlad cydgysylltiedig i’n gwasanaethau bob amser gyda phobl yn gorfod dioddef asesiadau ailadroddus cyn eu bod yn cael y gofal cywir. Rydym am i ddefnyddwyr gwasanaeth gael mynediad gwell at wasanaethau o ansawdd uwch yn eu cymunedau, a fydd yn eu helpu i gadw’n iach ac allan o’r ysbyty lle bo’n bosibl.
“Yr wyf yn falch iawn ein bod yn lansio’r ymgynghoriad hwn i ofyn barn pobl ar y cynigion yr ydym wedi eu cyd-gynllunio. Rydym am wneud ein gorau i bob un sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl oedolion ar draws ein siroedd, a gwyddom mai’r ffordd orau o wneud hyn yw i gymryd barn cymaint o bobl â phosibl i ystyriaeth er mwyn ein helpu i ddatblygu cynlluniau sy’n diwallu anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth, eu gofalwyr, eu ffrindiau a’u teuluoedd.”
Dywedodd Angie Darlington, Cyfarwyddwr Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru: “Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi gweithio gyda nifer o ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, sefydliadau a grwpiau diddordeb, ac rwy’n annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, i leisio’u barn. Mae’n wych gweld egni a phenderfyniad o’r fath i gyd-weithio i wella gwasanaethau iechy dmeddwl ar draws Cymru. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle arbennig i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl blaengar sy’n canolbwyntio ar adferiad, sy’n cynnig gofal, tosturi a chefnogaeth tosturiol. Trwy gydweithio i lunio’r gwaith hwn gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth cadarnhaol.”
Dr Warren Lloyd, Associate Medical Director and Clinical Director for Mental Health and Learning Disabilities: “Mae anghenion iechyd meddwl ein trigolion lleol wedi newid yn sylweddol ac rydym am sicrhau bod ein gwasanaethau’n cael eu cyflunio mewn ffordd sy’n helpu pobl i gael y cymorth sydd ei angen arnynt mor agos i’w cartrefi â phosibl. Mae’n hanfodol ein bod yn cael cefnogaeth gan ddefnyddwyr gwasanaeth, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn ogystal â’r cyhoedd, fel y gallwn roi ar waith fodel gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion sy’n wirioneddol wedi’i gydgynllunio gan y rheiny sy’n defnyddio ac yn darparu’r gwasanaethau.”
I gymryd rhan, gofynnir i drigolion ddarllen ein papur materion a llenwi’r holiadur. Mae fersiwn hawdd ei ddeall ar gael hefyd.
Gellir gweld dogfennau neu gofyn amdanynt:
Ebost: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk
Gwefan: www.bihyweldda.wales.nhs.uk/iechydmeddwl
Ysgrifennu: FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD
Ffôn: 01554 899 056 (gadewch neges i ni)
Gallwch hefyd lenwi ein holiadur yn: www.bihyweldda.wales.nhs.uk/iechydmeddwl
Neu gymryd rhan yn un o’n digwyddiadau:
Gweithdy Cyhoeddus – Sir Gaerfyrddin – 17 Gorffennaf – https://www.eventbrite.co.uk/e/hywel-dda-university-health-board-transforming-mental-health-consultation-event-gweithdy-tickets-35219659951
Gweithdy Cyhoeddus – Sir Benfro – 19 Gorffennaf – https://www.eventbrite.co.uk/e/hywel-dda-university-health-board-transforming-mental-health-consultation-event-gweithdy-tickets-35219861554
Gweithdy Cyhoeddus – Ceredigion – 1 Awst – https://www.eventbrite.co.uk/e/transforming-mental-health-consultation-event-tickets-35219931764
————————————————————————–
Following a comprehensive two year process of engagement with service users, families, carers, staff and members of the public, today (22 June) Hywel Dda University Health Board has officially launched a new public consultation to help change adult mental health services for the better across Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire.
‘The Journey to Recovery’ asks people for their opinions on proposals to change how we provide care and treatment to meet the mental health needs of people now as well as future generations.
Having discussed and explored the issues that our current services encounter together with the people most affected we have worked together to co-design a model that encompasses:
24 hour services – ensuring anyone who needs help can access a mental health centre for support at any time of the day or night
No waiting lists – so that people receive first contact with mental health services within 24 hours and for their subsequent care to be planned for in a consistent and supportive way
Community focus – to stop admitting people to hospital when it isn’t the best option and provide support in the community when people need time away from home, extra support or protection
Recovery and resilience – services that don’t purely focus on treating or managing symptoms, but instead help people to live independent, fulfilling lives with the help and support they need
Libby Ryan-Davies, Director of Transformation, said: “The work we have done on Transforming Mental Health has helped us to think differently about how we design, plan and deliver services locally. We know we do not always help people with mental health difficulties at an early enough stage and services do not always feel joined up with people having to endure repeat assessments before they get the right care. We want service users to have better access to higher quality services in their communities, helping them stay well and out of hospital where possible.
“I am delighted that we are launching this consultation to ask people for their opinions on the proposals that we have jointly designed. We want to do our best for everyone who needs adult mental health services across our counties and we know the best way to do this is to take into account the views from as many people as possible to help us develop plans that meet the needs of our services users, their carers, friends and families.”
Angie Darlington, Director of West Wales Action for Mental Health (WWAMH) said: “Over the last two years we have worked with a variety of service users, carers, organisations and interest groups, I would encourage everyone to get involved with this consultation, to make their views known. It is great to see such energy and determination to work together to improve mental health services across Wales. This consultation offers a fantastic opportunity to develop forward thinking recovery focused mental health services, that offer care, compassion and proactive support. By working together to shape this work we can all make a positive difference.”
Dr Warren Lloyd, Associate Medical Director and Clinical Director for Mental Health and Learning Disabilities: “The mental health needs of local residents have changed significantly and we want to ensure that our services are configured in a way that helps people to receive the support that they need as close to home as possible. It’s vital for the future that we have the backing of our service users, healthcare professionals and the public, so that we can implement an adult mental health service model that is truly co-designed by those who both access and provide the services.”
To take part, residents are asked to read our issues paper and answer an accompanying questionnaire. An easy read version is also available.
Documents can be accessed or requested by:
Emailing: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk
Visiting our website: www.hywelddahb.wales.nhs.uk/mentalhealth
Writing to us at: FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD
Calling us on: 01554 899 056 (please leave a message for us)
You can also complete our questionnaire online at: www.hywelddahb.wales.nhs.uk/mentalhealth
Or take part in one of our events:
Public Workshop – Carmarthen – 17th July – https://www.eventbrite.co.uk/e/hywel-dda-university-health-board-transforming-mental-health-consultation-event-gweithdy-tickets-35219659951
Public Workshop – Pembrokeshire – 19th July – https://www.eventbrite.co.uk/e/hywel-dda-university-health-board-transforming-mental-health-consultation-event-gweithdy-tickets-35219861554
Public Workshop – Ceredigion – 1st August – https://www.eventbrite.co.uk/e/transforming-mental-health-consultation-event-tickets-35219931764
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle