New town centre loan scheme | Cynllun Benthyciadau newydd Canol Trefi

0
831

New town centre loan scheme

OVER £400,000 is being made available to help bring empty sites and premises in Llanelli and Ammanford town centres back into use.

A new funding pot has been set up by Carmarthenshire County Council, with support from the Welsh Government, to support the regeneration of the town centres.

Developers will be able to apply for interest free loans towards their redevelopment projects, but must be able to prove that they will be creating town centre floor space for commercial, leisure or residential use.

The pot of funding is split equally between Llanelli and Ammanford, with people able to apply for a loan worth £25,000 or more, up to a maximum of 75 per cent ‘loan to value’ of their project cost, repayable over a period of five years.

Leader of Carmarthenshire County Council, Cllr Emlyn Dole, chairs town centre taskforce groups in both Llanelli and Ammanford.

He said: “This loan fund is part of an overall plan to support the regeneration of the town centres and encourage more private sector investment.

“We hope it will give developers the foot up the ladder they need to get their ideas off the ground, and in turn provide something new for shoppers and visitors to Llanelli and Ammanford.”

For further information visit the business section of www.carmarthenshire.gov.wales

· To enquire about a loan for Llanelli Town Centre, contact Barry Hale on bhale@carmarthenshire.gov.uk or 01554 748813

· To enquire about a loan for Ammanford Town Centre, contact Wyn Maskell on WMaskell@carmarthenshire.gov.uk or 01554 748814
 

· Applicants who are aiming to develop properties for the purpose of residential use only can also explore options of applying for the
Houses to Homes Loan Fund by contacting Leighton Evans, Empty Property Coordinator on 01554 899247 or LeEvans@carmarthenshire.gov.uk

Cynllun Benthyciadau newydd Canol Trefi

 

MAE dros £400,000 ar gael er mwyn helpu i sicrhau bod safleoedd gwag yng nghanol trefi Llanelli a Rhydaman yn cael eu defnyddio unwaith eto.

Mae cronfa gyllid newydd wedi cael ei sefydlu gan Gyngor Sir Caerfyrddin gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi adfywio canol y trefi.

Bydd datblygwyr yn gallu gwneud cais am fenthyciadau di-log ar gyfer eu prosiectau ailddatblygu ond bydd yn rhaid iddynt brofi y byddant yn creu arwynebedd llawr at ddibenion masnachol, hamdden a phreswyl yng nghanol y dref. 

Rhennir y gronfa gyllid yn gyfartal rhwng Llanelli a Rhydaman.  Bydd pobl yn gallu gwneud cais am fenthyciad gwerth £25,000 neu fwy, hyd at uchafswm o 75% o werth y prosiect, i’w ad-dalu dros gyfnod o bum mlynedd.

Mae’r Cynghorydd Emlyn Dole sef Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadeirio grwpiau tasglu canol y dref yn Llanelli a Rhydaman.

Dywedodd: “Mae’r benthyciad hwn yn rhan o gynllun cyffredinol i gefnogi adfywio canol trefi ac annog mwy o fuddsoddiad gan y sector preifat.

“Rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi’r hwb sydd ei angen ar ddatblygwyr i ddatblygu eu syniadau ymhellach ac, yn ei dro, yn darparu rhywbeth newydd ar gyfer siopwyr ac ymwelwyr sy’n dod i Lanelli a Rhydaman.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i adran fusnes www.sirgar.llyw.cymru

· I gael rhagor o wybodaeth ynghylch benthyciad ar gyfer Canol Tref Llanelli, cysylltwch â Barry Hale drwy e-bostio bhale@sirgar.gov.uk
neu drwy ffonio 01554 748813

· I gael rhagor o wybodaeth ynghylch benthyciad ar gyfer Canol Tref Rhydaman, cysylltwch â Wyn Maskell drwy e-bostio
WMaskell@sirgar.gov.uk neu drwy ffonio 01554 748814

· Gall ymgeiswyr sy’n bwriadu datblygu eiddo at ddibenion preswyl yn unig hefyd archwilio’r opsiynau o ran gwneud cais i’r Gronfa
Benthyciadau Troi Tai’n Gartrefi drwy gysylltu â Leighton Evans, Cydgysylltydd Eiddo Gwag, drwy ffonio 01554 899247 neu drwy e-bostio
LeEvans@sirgar.gov.uk
 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle