Tourism summit returns to Parc Y Scarlets | Uwch-gynhadledd twristiaeth ym Mharc y Scarlets

0
800

Tourism summit returns to Parc Y Scarlets

 

EXCITING plans for Carmarthenshire’s tourism industry will be unveiled at the ninth annual Carmarthenshire Tourism Summit.

The summit, due to be held at Llanelli’s Parc Y Scarlets on October 12, is an important event in the calendar for anyone working in the county’s tourism, leisure and hospitality industry.

A full day exhibition will showcase a variety of product and service suppliers, alongside a programme of guest speakers and panel sessions, one-to-one advice appointment slots, and opportunities for networking.  

The event is organised by the Carmarthenshire Tourism Association and supported by Carmarthenshire County Council.

Cllr Peter Hughes Griffiths, executive board member for culture, leisure and tourism, is set to share information about a number of exciting new plans for the county – including those for Pendine, Pembrey Country Park and the new Tywi Valley Path.

“I am excited to present at the Tourism Summit and looking forward to sharing with the delegates the exciting plans we have for Carmarthenshire,” he said.

“Tourism is worth over £370million to Carmarthenshire and supports over 5,600 jobs. We’ve just secured the biggest ever investment for south west Wales with the ground-breaking Swansea Bay City Deal and we have an ambitious tourism masterplan in place.

“We are well set to play a major part in Visit Wales’s Year of the Sea campaign during 2018, and look forward to working with the Welsh Government to develop the Wales brand and tourism in Carmarthenshire.”  

Nia Ball, Carmarthenshire Tourism Association chief executive, added: “Our flagship, annual tourism summit is a one-stop-shop for those involved in tourism and hospitality in the region. From marketing to planning and from IT to fire safety, we’ll have information and advice that’s beneficial to anyone working in this fast-growing and increasingly competitive industry. Feedback from those who came along last year showed us that 99 per cent of delegates would come to the summit again, which really highlights its importance to the industry.”

Guest speakers will include Roger Pride, managing partner of international

marketing agency Heavenly and previously Director of Marketing for Visit Wales and Wales Tourist Board, who will talk about how visitor destinations and tourism businesses need to aim for distinction in these changing times, where visitor demands are becoming more personal and more complex.

Delegates will also have the opportunity to hear from a panel of experts who will highlight top tips and advice in terms of rights and responsibilities as a tourism, leisure and hospitality business operator, and they will hear from award-winning tourism representatives who will share why they think entering awards is great for business.

 

·         For full details on the summit and to book tickets visit www.carmarthenshiretourism.co.uk/tourism-summit or call 01269 598140.

Uwch-gynhadledd twristiaeth ym Mharc y Scarlets

 

BYDD cynlluniau cyffrous ar gyfer diwydiant twristiaeth Sir Gaerfyrddin yn cael eu datgelu yn ystod nawfed Uwch-gynhadledd Twristiaeth flynyddol Sir Gaerfyrddin.

Mae’r uwch-gynhadledd, a fydd yn cael ei chynnal ym Mharc y Scarlets, Llanelli ar 12 Hydref, yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr unrhyw un sy’n gweithio yn niwydiant twristiaeth, hamdden a lletygarwch yn y sir.

Bydd arddangosfa diwrnod llawn yn arddangos amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaethau a chynnyrch, ochr yn ochr â rhaglen o siaradwyr gwadd a sesiynau panel, apwyntiadau i gael cyngor un i un, a chyfleoedd i rwydweithio.  

Caiff y digwyddiad ei drefnu gan Gymdeithas Twristiaeth Sir Gâr a’i gefnogi gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Bydd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth, yn rhannu gwybodaeth am nifer o gynlluniau cyffrous newydd ar gyfer y sir – gan gynnwys y cynlluniau ar gyfer Pentywyn, Parc Gwledig Pen-bre a’r Llwybr Dyffryn Tywi newydd.

Dywedodd, “Rwy’n gyffrous ynghylch yr Uwch-gynhadledd Twristiaeth ac yn edrych ymlaen at rannu’r cynlluniau cyffrous sydd gennym ar gyfer Sir Gaerfyrddin â’r cynadleddwyr.

“Mae’r diwydiant Twristiaeth yn werth dros £370 miliwn i Sir Gaerfyrddin ac yn cefnogi dros 5,600 o swyddi. Rydym newydd sicrhau’r buddsoddiad mwyaf erioed ar gyfer de-orllewin Cymru drwy’r Fargen Ddinesig Bae Abertawe arloesol ac mae gennym brif-gynllun twristiaeth uchelgeisiol ar waith.

“Rydym mewn sefyllfa dda i chwarae rhan bwysig yn ymgyrch Blwyddyn y Môr Croeso Cymru yn 2018, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu brand a thwristiaeth Cymru yn Sir Gaerfyrddin.”  

Ychwanegodd Nia Ball, Prif Weithredwr Cymdeithas Twristiaeth Sir Gâr: “Mae ein huwch-gynhadledd twristiaeth flaenllaw sy’n cael ei chynnal yn flynyddol yn siop un stop i’r rheiny sy’n ymwneud â thwristiaeth a lletygarwch yn y rhanbarth. O farchnata i gynllunio, ac o dechnoleg gwybodaeth i ddiogelwch rhag tân, bydd gennym wybodaeth a chyngor sy’n fuddiol i unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant hwn sy’n tyfu’n gyflym ac sy’n fwyfwy cystadleuol. Yn ôl adborth y cynadleddwyr a oedd yn bresennol y llynedd, byddai 99 y cant ohonynt yn dychwelyd i’r uwch-gynhadledd eto, sydd wir yn pwysleisio pa mor bwysig ydyw i’r diwydiant.”

Bydd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Roger Pride, Partner Rheoli asiantaeth marchnata ryngwladol Heavenly, a Chyn Gyfarwyddwr Marchnata Croeso Cymru a Bwrdd Croeso Cymru. Bydd yn sôn am sut y mae angen i gyrchfannau ar gyfer ymwelwyr a busnesau twristiaeth anelu at fod yn wahanol mewn cyfnod o newidiadau, gan fod gofynion ymwelwyr yn mynd yn fwy personol a chymhleth.

Hefyd, bydd gan y cynadleddwyr gyfle i glywed gan banel o arbenigwyr a fydd yn cynnig awgrymiadau a chyngor mewn perthynas â hawliau a chyfrifoldebau unigolion sy’n gweithredu busnesau lletygarwch, a byddant yn clywed gan gynrychiolwyr twristiaeth sydd wedi ennill gwobrau a fydd yn datgelu pam y maen nhw’n credu bod ennill gwobrau yn wych i fusnes.

 

·         I gael manylion llawn am yr uwch-gynhadledd ac i archebu tocynnau ewch i www.carmarthenshiretourism.co.uk/tourism-summit neu ffoniwch 01269 598140.
 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle