Shadow Cabinet Secretary for Energy, Climate Change and Rural Affairs Simon Thomas AM has won a green ‘oscar’ for his work in promoting renewable energy in Wales.
Mid and West AM Simon Thomas won the Green Energy Political Award in a ceremony at St David’s Hotel Cardiff Bay on Friday (10 November). He was congratulated by Plaid Cymru Leader Leanne Wood.
The award recognises the most outstanding contribution by a politician (councillor, AM, MP or MEP) to the development of the renewable energy industry in Wales.
Rhondda AM Leanne Wood, said:
“I’d like to congratulate Simon on winning the Green Energy Political Award. He has been a vocal champion for renewable energy of all kinds consistently over many years.
“This award demonstrates how the Plaid Cymru team is coming up with innovative ideas and providing the real opposition to the Welsh Government.
“Our latest budget agreement takes us towards achieving half a billion pounds worth of manifesto pledges since the 2016 Assembly election. No other opposition party in Wales has ever achieved this.
“The Cabinet Secretary for Finance admitted that without this deal, the money for those Plaid Cymru commitments would not have been found.
“In Simon’s portfolio we have secured business rate relief on community hydro-energy schemes, new investment in electric vehicle charging points, grant support for new entrants into the farming industry and money for a Deposit Return Scheme.
“Our next job is to make sure those agreed commitments are implemented. In this sector it is disappointing the Labour Government has now dropped the plan to create a not-for-profit energy company Ynni Cymru to benefit people in Wales, something that defies belief in a country so rich in natural resources.”
Leanne yn llongyfarch Simon Thomas ar ennill gwobr Ynni Gwyrdd
Mae’r Ysgrifennydd Cabinet cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Simon Thomas AC wedi ennill ‘oscar’ gwyrdd am ei waith yn hybu ynni adnewyddol yng Nghymru.
Enillodd AC y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas Wobr Wleidyddol Ynni Gwyrdd mewn seremoni yng Ngwesty Dewi Sant ym Mae Caerdydd ar ddydd Gwener (10 Tachwedd). Fe’i llongyfarchwyd gan Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood.
Mae’r wobr yn cydnabod y cyfraniad mwyaf eithriadol gan wleidydd (cynghorydd, AC, AS neu ASE) i ddatblygu’r diwydiant ynni adnewyddol yng Nghymru.
Meddai AC y Rhondda Leanne Wood:
“Hoffwn longyfarch Simon ar ennill Gwobr Wleidyddol Ynni Gwyrdd. Bu’n codi ei lais dros ynni adnewyddol o bob math yn gyson dros flynyddoedd lawer.
“Mae’r wobr hon yn dangos sut y mae tîm Plaid Cymru yn esgor ar syniadau arloesol a bod yn wir wrthblaid i Lywodraeth Cymru.
“Mae ein cytundeb diweddaraf ar y gyllideb yn mynd a ni tuag at gyrraedd gwerth hanner biliwn o addewidion maniffesto ers etholiad y Cynulliad yn 2016. Nid oes yr un wrthblaid arall wedi llwyddo i wneud hyn.
“Cyfaddefodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid, heb y fargen hon, ni fyddai’r arian ar gyfer yr ymrwymiadau hynny o eiddo Plaid Cymru wedi ei ganfod.
“Ym mhortffolio Simon, yr ydym wedi sicrhau rhyddhad ardrethi busnes ar gynlluniau ynni hydro, buddsoddiad newydd mewn pwyntiau gwefru cerbydau trydan, grantiau i gefnogi newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant ffermio ac arian ar gyfer Cynllun Blaendal Dychwelyd.
“Ein tasg nesaf yw gwneud yn siŵr y gweithredir ar yr ymrwymiadau hynny y cytunwyd arnynt. Yn y sector hwn, mae’n siomedig fod y Llywodraeth Lafur yn awr wedi gollwng y cynllun i greu cwmni ynni nid-am-elw Ynni Cymru i fod o fudd i bobl yng Nghymru, rhywbeth sydd yn anhygoel mewn gwlad mor gyfoethog ei hadnoddau naturiol.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle