Emergency works may cause disruptions/Gwaith brys yn tarfu ar wasanaethau

0
1014

Emergency works may cause disruptions

A NUMBER of council buildings will be without mains power for a period this afternoon due to essential emergency works to a sub-station adjacent to Ty Elwyn, Llanelli.

The council’s emergency arrangements have been implemented to ensure minimal impact on services and members of the public, however some council buildings – Ty Elwyn and Llanelli Town Hall – are currently closed to staff and public.

Alternative power supplies have been arranged by the council and Western Power Distribution to ensure services continue at a number of other buildings in the vicinity, including Llanelli Leisure Centre, Caemaen Care Home and Day Centre, the Coleshill Centre and the cash desk at 2-4 Coleshill Terrace.

Telephone lines will however be affected at these buildings, as well as at Llanelli Library, Dafen Equipment Store, Maes Lliedi, Maes Y Morfa Integrated Children Centre, and Llanelli area Flying Start offices.

The council’s main contact centre is unaffected and customers can still access many council services and make contact with the council online at www.carmarthenshire.gov.wales, as well as calling 01267 234567.

Whilst emergency works are underway, further disruptions may be possible.

Updated information will be made available on the council’s website, Newsroom and social media channels – search Cyngor Sir Gar, Carmarthenshire County Council, on Facebook and Twitter.

Gwaith brys yn tarfu ar wasanaethau

 

BYDD nifer o adeiladau’r cyngor heb brif gyflenwad pŵer am gyfnod y prynhawn yma am fod gwaith brys hanfodol yn digwydd mewn is-orsaf ar bwys Tŷ Elwyn, Llanelli.

Mae trefniadau brys y cyngor wedi cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod cyn lleied o effaith â phosibl ar wasanaethau ac ar y cyhoedd, ond bydd rhai o adeiladau’r Cyngor – Tŷ Elwyn a Neuadd y Dref Llanelli – ar gau i’r staff a’r cyhoedd heddiw.

Mae’r Cyngor a Western Power Distribution wedi trefnu cyflenwadau eraill o bŵer i sicrhau y bydd gwasanaethau’n parhau mewn nifer o adeiladau eraill yn y cyffiniau, gan gynnwys Canolfan Hamdden Llanelli, Cartref Gofal a Chanolfan Ddydd Caemaen, Canolfan Coleshill a’r ddesg dalu yn 2-4 Teras Coleshill.

Serch hynny, bydd y toriad yn cael effaith ar y llinellau ffôn yn yr adeiladau hyn yn ogystal ag yn Llyfrgell Llanelli, Storfa Offer Dafen, Maes Lliedi, Canolfan Blant Integredig y Morfa a swyddfeydd Dechrau’n Deg ar gyfer ardal Llanelli.

Ni fydd yn cael effaith ar brif ganolfan gyswllt y Cyngor a gall cwsmeriaid barhau i gael mynediad i lawer o wasanaethau’r Cyngor a chysylltu â’r Cyngor drwy fynd ar-lein i  www.sirgar.llyw.cymru neu drwy ffonio 01267 234567.

Wrth i’r gwaith brys fynd rhagddo mae’n bosibl y bydd yn cael rhagor o effaith.

Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar gael yn y Stafell Newyddion ar wefan y Cyngor ac ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor – chwiliwch am Gyngor Sir Gâr ar Facebook a Twitter.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle