Panel yn rhoi sylw i derfysgaeth ac yfed a gyrru
BYDD Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn trafod gwytnwch yr Heddlu wrth ddelio ag ymosodiadau terfysgol posibl a’r rheswm dros gynnal llai o brofion yfed a gyrru.
Bydd y panel yn cwrdd ddydd Iau (16 Tachwedd) ac yn trafod cwestiynau y mae aelodau o’r panel wedi eu rhoi gerbron y Comisiynydd, gan gynnwys problemau’n ymwneud â modurwyr ifanc yn gyrru’n wrthgymdeithasol yn rhai o ardaloedd yr Heddlu, yn ogystal â holi ble yn union y mae patrolau heddlu ar droed yn digwydd.
Bydd aelod o’r panel, y Cynghorydd Jim Jones, yn gofyn i’r Comisiynydd a ydyw wedi gofyn i’r Prif Gwnstabl pa drefniadau sydd gan yr Heddlu ar waith i ymateb i ymosodiadau terfysgol tebyg i’r rhai a ddigwyddodd ym Manceinion ac yn Llundain. Dywedodd fod y digwyddiadau ofnadwy hyn yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi fod unedau arfog yr Heddlu yn gallu ymateb yn gyflym i ymosodiadau o’r fath.
Bydd y Cynghorydd Jones hefyd yn holi ynghylch yr adroddiadau yn y wasg sy’n nodi bod nifer y profion yfed a gyrru sy’n cael eu gwneud wedi gostwng o 2,751 i 1,133 yn y 12 mis diwethaf yn ardal yr Heddlu, a bod hyn mae’n debyg oherwydd pwysau ariannol a gostyngiad yn nifer y swyddogion traffig ar batrôl.
Mae’r Panel yn cynnwys aelodau a enwebwyd gan y pedwar cyngor yn ardal yr Heddlu: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys; ac o leiaf ddau aelod annibynnol. Cyngor Sir Caerfyrddin yw awdurdod arweiniol y Panel.
Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r wasg a’r cyhoedd, ac os cânt ganiatâd ymlaen llaw gan y Cadeirydd, gall pobl ofyn cwestiynau neu wneud datganiad ynghylch mater sy’n cael ei ystyried gan y panel, ac eithrio materion personél.
Hefyd, gellir cyflwyno cwestiynau i’r panel yn ysgrifenedig neu drwy’r ffurflen gyswllt ar y wefan.
- Mae gwybodaeth am y panel, agendâu, dyddiadau cyfarfodydd, aelodaeth a newyddion ar gael ar y wefan: http://panelheddluathroseddudp.cymru/
Crime panel focus on terror attacks and drink driving
DYFED Powys Police and Crime Panel is to discuss the force’s robustness for tackling potential terrorist attacks and reasons for carrying out fewer drink driving checks.
Meeting on Thursday (Nov 16), questions from panel members to the Commissioner also include issues of anti-social driving by young motorist’s in parts of the force area and a challenge to show where police foot patrols are being carried out.
Panel member Cllr Jim Jones will ask the commissioner if he has asked the chief constable what arrangements the force has in place to respond to terrorist attacks of the nature of those carried out in Manchester and London. The tragic incidents he says highlighted the importance of armed police units to be able to respond quickly to such attacks.
Cllr Jones is also querying media reports that drink driving tests having fallen from 2,751 to 1,133 in the last 12 months in the force area allegedly attributable to budgetary pressures and the numbers of traffic officers on patrol
The panel is made of up of members nominated by the four councils in the force area: Carmarthenshire, Ceredigion, Pembrokeshire and Powys; and at least two independent members. Carmarthenshire County Council is the lead authority for the panel.
The meetings are open to the press and public, and with the prior permission of the chair, people can ask questions or make a statement in relation to a matter being considered by the panel, with the exception of personnel matters.
Questions can also be submitted to the panel either in writing or via the website contact form.
- Information about the panel, agendas, meeting dates, membership and news is available on the website at http://www.dppoliceandcrimepanel.org.uk/
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle