Hywel Dda Health Board – Supporting World AIDS Day / Bwrdd Iechyd Hywel Dda – Cefnogi Diwrnod AIDS y Byd

0
660

Hywel Dda Health Board – Supporting World AIDS Day / Bwrdd Iechyd Hywel Dda – Cefnogi Diwrnod AIDS y Byd

Mae Gwasanaeth Iechyd Rhywiol a Gwasanaeth Nyrsio Feirysau a Gludir yn y Gwaed Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn nodi Diwrnod AIDS y Byd heddiw.

Yn ddiwrnod sydd wedi cael ei nodi ar yr un dyddiad bob blwyddyn er 1988, mae Diwrnod AIDS y Byd yn rhoi cyfle i bobl ledled y byd ddod ynghyd yn y frwydr yn erbyn HIV, i ddangos cefnogaeth i bobl sy’n byw â HIV, ac i goffáu’r rhai sydd wedi marw o ganlyniad i salwch sy’n gysylltiedig ag AIDS. Mae gwisgo rhuban coch wedi dod yn gyfystyr â’r diwrnod, a hwn yw’r symbol byd-eang o ymwybyddiaeth o AIDS a chefnogaeth i bobl sy’n byw ag AIDS.

Ar hyn o bryd, mae yna dros 100,000 o bobl yn y DU yn byw ag AIDS, a bron 37 miliwn ledled y byd. Er na chafodd y feirws ei adnabod tan 1984, mae dros 35 miliwn o bobl wedi marw o HIV neu AIDS, gan olygu ei fod yn un o’r pandemigau mwyaf distrywiol mewn hanes.

Dywedodd y Nyrs Iechyd Rhywiol, Polly Zipperlen, “Y neges bwysicaf i’w throsglwyddo yw y gall HIV effeithio ar unrhyw un, ni waeth beth fo’i oedran, ei gyfeiriadedd rhywiol, ei liw, ei grefydd neu ei rywedd. Nid yw llawer o bobl yn cael symptomau am beth amser ar ôl cael eu heintio – ac eto, maent yn heintus iawn ar yr adeg hon. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n teimlo y gallai fod wedi cael ei heintio i gael prawf, ni waeth pa mor fach yw’r risg  – mae’r gwasanaeth yn gwbl gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim.”

Mae Janice Rees, Nyrs Feirysau a Gludir yn y Gwaed Arbenigol Arweiniol, yn ymhelaethu: “Rwyf wedi gweld datblygiadau enfawr yn y gwaith o drin HIV ers i mi ddechrau yn 1995. Gall pobl sy’n cael diagnosis o HIV ‘nawr gael eu trin yn llwyddiannus, a byddant yn byw bywyd cwbl normal. Gallant hyd yn oed gael eu plant eu hunain yn ddiogel, ac mae’r risg o drosglwyddo’r feirws yn fach iawn.”

Mae HIV yn cael ei drosglwyddo yn y ffyrdd canlynol:

  • Trwy gael rhyw heb ddiogelwch â rhywun sydd wedi’i heintio; felly gwisgwch gondom bob amser. Maent ar gael yn rhad ac am ddim o glinigau iechyd rhywiol, a hefyd gan nyrsys Feirysau a Gludir yn y Gwaed.
  • Trwy i waed wedi’i heintio fynd i lif eich gwaed. Gall hyn ddigwydd o ganlyniad i rannu offer chwistrellu neu offer sniffian; neu am fod tatŵs neu dyllau yn y corff wedi cael eu gwneud mewn amodau anhylan; neu am fod gwaed heintus wedi mynd i mewn i anafiadau agored. Peidiwch BYTH â rhannu unrhyw offer chwistrellu, gan gynnwys hidlyddion, llwyau a dŵr. Mae’n bosibl cyfnewid nodwyddau ar hyd a lled y siroedd, a gall fferyllfeydd sy’n cymryd rhan yn y cynllun gael eu hadnabod gan y saeth felen a gwyrdd ar eu drws.  Pan fyddwch yn cael tyllau yn y corff neu datŵs, gwnewch yn siŵr bod offer di-haint yn cael eu hagor o’ch blaen, ac, yn achos tatŵs, sicrhewch fod pot inc di-haint yn cael ei ddefnyddio, nid un ‘cymunol’. Os oes gennych unrhyw amheuon – peidiwch â mynd ymlaen â’r broses!
  • Gall mamau drosglwyddo’r feirws i’w babanod – ond mae’n bosibl osgoi hyn gan fod triniaethau bellach ar gael.

Os oes unrhyw un yn credu ei fod wedi bod mewn perygl o gael HIV, gall profion, gan gynnwys gwiriad iechyd rhywiol llawn, gael eu cynnal yn eich clinig iechyd rhywiol lleol – ffoniwch 01267 248674 rhwng 0915 a 1630 – o ddydd Llun i ddydd Gwener, i drefnu apwyntiad cyfrinachol. Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau Gwasanaethau Iechyd Rhywiol Hywel Dda ar y wefan: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/page/52860/

Gall y gwasanaeth Nyrsio Feirysau a Gludir yn y Gwaed hefyd gynnig prawf cyfrinachol, sy’n rhad ac am ddim. Ffoniwch Janice Rees ar 01437 773125 / 07899915835 ar gyfer Sir Benfro, Donna Blinston ar 01970 635614 ar gyfer Ceredigion, neu Nicola Reeve ar 01554 899016 / 07977 486665 ar gyfer Sir Gâr.

Gallwch gysylltu â nyrsys y ddau dîm hefyd os bydd arnoch angen cyngor ar HIV, neu os bydd gennych unrhyw gwestiynau.

I gloi, dywedodd y Nyrs Iechyd Rhywiol, Helen Rollins: “Mae Diwrnod AIDS y Byd yn hanfodol bwysig o hyd gan ei fod yn atgoffa’r cyhoedd a’r llywodraeth nad yw HIV wedi diflannu – mae yna angen hanfodol i godi arian, i gynyddu ymwybyddiaeth, i ymladd yn erbyn rhagfarn, ac i wella addysg.”

 

Hywel Dda University Health Board’s Sexual Health Service and Blood-borne Virus Nursing Service are marking World AIDS Day today.

Marked on the same date every year since 1988, World AIDS Day provides an opportunity for people worldwide to unite in the fight against HIV, to show support for people living with HIV, and to commemorate those who have died from an AIDS-related illness. The wearing of a red ribbon has become synonymous with the day and is the universal symbol of awareness and support for people living with HIV.

Currently there are over 100,000 people in the UK living with HIV and nearly 37 million people worldwide. Despite the virus only being identified in 1984, more than 35 million people have died of HIV or AIDS, making it one of the most destructive pandemics in history.

Sexual Health Nurse Polly Zipperlen said “The most important message to relay is that HIV can affect anyone regardless of age, sexual orientation, colour, religion or gender. Many people do not get symptoms for some time after they become infected – yet they are very infectious at this time. I would urge anyone who feels they may have been at risk, however small to get tested – the service is completely confidential and free of charge.”

Janice Rees, Lead Blood-borne Virus Specialist Nurse continues: “I have seen huge developments in the treatment of HIV since I started in 1995. People diagnosed with HIV can now be successfully treated and will live a perfectly normal life. They can even have their own children safely and with minimal risk of transmission.”

HIV is transmitted in the following ways:

  • By having unprotected sex with someone who is infected, so always use a condom. They can be obtained free from sexual health clinics and the Blood-borne Virus nurses.
  • By getting infected blood into your blood stream. This may be through sharing any injecting equipment; sharing snorting equipment; having tattoos or piercings done in unhygienic conditions or by infected blood getting into open wounds. NEVER share any injecting equipment including filters, spoons, water. Needle exchange is available throughout the counties and pharmacies taking part can be identified by the yellow and green arrow on their door. When having piercings and tattoos make sure that sterile equipment is opened in front of you and in the case of tattoos make sure a sterile ink pot is used and not a ‘communal’ inkpot. If in doubt – don’t have it done!
  • Mothers can transmit the virus to the babies – but with treatments now available, this can be prevented.

If anyone thinks they may have been at risk of contracting HIV, tests, including a full sexual health check up, can be undertaken at your local sexual health clinic – call 01267 248674 between 0915hrs and 1630hrs – Monday to Friday to book a confidential appointment. For further information please visit the Hywel Dda Sexual Health Services website pages: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/page/52860/

The Blood-borne Virus Nursing service also offer free confidential testing, call Janice Rees on 01437 773125 / 07899915835 for Pembrokeshire, Donna Blinston for Ceredigion on 01970 635614 or Nicola Reeve for Carmarthenshire on 01554 899016 / 07977 486665.

The nurses from both teams can also be contacted if you want any advice or have any questions about HIV.

Sexual Health Nurse Helen Rollins concluded: “World AIDS day is still vitally important because it reminds the public and government that HIV has not gone away – there is still a vital need to raise money, increase awareness, fight prejudice and improve education.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle