Trosglwyddo Asedau ym Mhorth Tywyn / Burry Port Asset Transfer

0
661
Caption: Burry Port RFC Chair Wyn Morgans (left) with Carmarthenshire County Council executive board member for assets Cllr David Jenkins at the playing fields at Burry Port Memorial Park following the asset transfer. Pennawd: Wyn Morgans, Cadeirydd Clwb Rygbi Porth Tywyn gyda’r Cynghorydd David Jenkins, yr aelod o’r bwrdd gweithredol dros asedau, ar y caeau chwarae ym Mharc Coffa Porth Tywyn ar ôl trosglwyddo’r ased.

Trosglwyddo Asedau ym Mhorth Tywyn

 

Mae Clwb Rygbi Porth Tywyn wedi croesawu’r ffaith ei fod wedi cymryd cyfrifoldeb dros reoli ei gartref oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae’r Clwb Rygbi wedi llofnodi prydles 99 mlynedd mewn perthynas â’r meysydd chwarae a’r ystafelloedd newid ym Mharc Coffa Porth Tywyn, fel rhan o raglen trosglwyddo asedau’r cyngor sir.

Hefyd, mae’r clwb wedi cael Grant Cynnal a Chadw i helpu i gynnal a chadw’r ased a Grant Gwella i helpu i wneud unrhyw waith gwella y gall fod am ei wneud.

Mae oddeutu 80 y cant o asedau hamdden y cyngor sir eisoes wedi’u trosglwyddo i gynghorau tref a chymuned neu grwpiau cymunedol, neu maent yn agos at gael eu trosglwyddo.

Ddwy flynedd yn ôl cytunodd Bwrdd Gweithredol y Cyngor ar becyn i gynnig cyfle i gynghorau cymuned neu grwpiau gymryd cyfrifoldeb dros reoli’r cyfleusterau yn eu hardaloedd.

Mae’r cynghorwyr yn credu bod hyn yn rhoi mwy o reolaeth i bobl leol ar ddyfodol eu hardal a’u cymuned.

Dywedodd Jonathan Davies, ysgrifennydd Clwb Rygbi Porth Tywyn, fod y clwb yn derbyn bod yn rhaid gwneud newidiadau, er na fyddai wedi dewis hynny.

“Ar ôl meddwl mwy am y mater, rwy’n credu ei fod yn beth cadarnhaol i’r clwb. Mae wedi cynyddu asedau’r clwb a rhoi ymdeimlad o berthyn i’r parc i’r aelodau.”

Dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Asedau: “Yn anffodus, ni allwn mwyach fforddio cynnal a chadw’r holl asedau hamdden yn ein portffolio.

“Fodd bynnag, nid ymarferiad arbed arian yn unig yw hwn – yn aml, cymunedau sydd yn y sefyllfa orau i reoli cyfleusterau yn eu hamgylchedd lleol.

“Rwy’n falch bod Clwb Rygbi Porth Tywyn wedi cymryd yr ased drosodd a’i fod yn edrych ymlaen at y dyfodol.”

 

Burry Port Asset Transfer

 

Burry Port RFC has welcomed its takeover of its home base from Carmarthenshire County Council.

The Rugby Club has signed a 99 year lease for the playing fields and changing rooms at Burry Port Memorial Park as part of the county council’s asset transfer programme.

The club has also been awarded a Maintenance Grant to assist with maintaining the asset and an Improvement Grant to assist with making any improvement works they may wish to undertake.

Around 80 per cent of the county council’s recreation assets have already been transferred, or are nearing completion, to town or community councils, or community groups.

Two years ago the council’s executive board agreed a package to offer community councils or groups the opportunity to take over the running of facilities in their areas.

Councillors believe it gives local people greater control in the future of their area and their community.

Burry Port RFC secretary Jonathan Davies said the club accepted that changes had to be made although it would not have chosen it.

“In hindsight I think it is a positive thing for the club. It has increased the assets of the club and given members a sense of belonging to the park.”

Executive board member for assets Cllr David Jenkins said: “Unfortunately, we can no longer afford to maintain all the recreational assets in our portfolio.

“However, this is not just a cost saving exercise – communities are often best placed to manage facilities in their local environment.

“I’m pleased that Burry Port RFC has taken over and is looking forward to the future.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle