Topping out ceremony marks key milestone in the construction of Ysgol Gymraeg Bro Dur / Seremoni gosod carreg gopa yn nodi carreg filltir allweddol wrth adeiladu Ysgol Gymraeg Bro Dur

0
1358

Ysgol Gymraeg Bro Dur

Pupils, teachers, builders and representatives from Bouygues UK, the Welsh Government and Neath Port Talbot Council marked a key milestone in the building of Ysgol Gymraeg Bro Dur, a new Welsh medium secondary campus by attending a ‘topping out’ ceremony in Sandfields.

On arrival, guests were greeted with background music provided by pupils from Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur.  Guests were then welcomed by Bouygues UK Regional Managing Director, Rob Bradley who spoke of the long history and tradition of ‘topping-out’ ceremonies.

Topping out is a phrase used to describe the traditional celebration of the completion of a building’s main structure.

Rob Bradley, Regional Managing Director of Bouygues UK, said: “Topping out is a significant milestone that celebrates a building reaching its full structural height and marks the start of a countdown to completion. Having delivered a number of schools in the area, we’re excited to be working with Neath Port Talbot Council and making rapid progress on this project that will provide another exceptional learning environment for the county borough’s children”.

During the ceremony, Aled Evans, Director of Education, Leisure and Lifelong Learning praised and thanked everyone involved in the construction of the new school building, a £19m, state of the art development that will help secure the future of Welsh-medium education in the county borough. The project is being jointly funded by Neath Port Talbot Council and the Welsh Government, as part of its 21st Century Schools and Education Programme.

Aled Davies, a former pupil of Tyle’rYnn and Year 7 pupil of the new Welsh medium campus was also congratulated for coming up with the new school name, Ysgol Gymraeg Bro Dur, which roughly translates as ‘steel community’ school.The Leader of Neath Port Talbot Council, Councillor Rob Jones presented Aled Davies with an engraved slate award in recognition of his achievement.

The name was chosen in a competition by pupils for the new Welsh medium campus in Port Talbot. Matthew Evans, Head of Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur, said: “We received a number of great ideas for the new name, but pupils, parents and staff opted for Ysgol Gymraeg Bro Dur in order to show the community links with the industry and also the qualities of strength and durability of steel found in the character of our wider community.

“Ysgol Gymraeg Ystalyfera is very proud of its sister campus in the south, which will aim to forge new and strong community relationships with communities of the south of the county borough in the years ahead”.

The grand finale of the celebrationevent ended with guests witnessinga yew tree being hoisted over the new school building.

Councillor Peter Rees, Cabinet Member for Education, Skills and Culture said: “The Topping out ceremony at Ysgol Gymraeg Bro Dur underlines another key landmark in Neath Port Talbot Council’s ambitious plan for creating the best environment for teaching and learning to help us improve standards, making sure the right schools are in the right place, and they are fit for 21st Century learners.

“The new Welsh medium campus together with the redevelopment of the existing Ysgol Gymraeg Ystalyfera site in the north will form a key part of the Council’s plans to strengthen the provision of Welsh medium education across the county borough”.

Minister for Welsh Language and Lifelong Learning, Eluned Morgan said: “I am very pleased the construction of this new school has reached such an important milestone. Increasing the number of Welsh medium schools, as well as supporting English medium schools to increase their Welsh provision, is crucial to our aim of a million Welsh speakers by 2050.

I am delighted the Welsh Government has been able to support the development with funding of nearly £11 million from the 21st Century Schools and Education Programme.   It is an excellent example of what the Welsh Government is achieving by working in partnership with local government and schools.

The construction of the new school is expected to be completed by August 2018 and will eventually accommodate up to 650 pupils aged 11 to 16.  The new school is being built on the site of the former Sandfields Comprehensive and Traethmelyn Primary Schools.

the topping out ceremony in Sandfields marks a key milestone

Seremoni gosod carreg gopa yn nodi carreg filltir allweddol wrth adeiladu

 Ysgol Gymraeg Bro Dur

Nododd disgyblion, athrawon, adeiladwyr a chynrychiolwyr o Bouygues UK, Llywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot garreg filltir allweddol wrth adeiladu Ysgol Gymraeg Bro Dur, campws uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd, drwy fod yn bresennol mewn seremoni ‘gosod carreg gopa’ yn Sandfields.

Wrth gyrraedd, croesawyd y gwesteion gyda cherddoriaeth gefndir a ddarparwyd gan ddisgyblion Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur. Yna, croesawyd y gwesteion gan Reolwr-gyfarwyddwr Rhanbarthol Bouygues UK, Rob Bradley, a oedd yn trafod hanes hir a thraddodiad y seremonïau ‘gosod carreg gopa’.

Gosod carreg gopa yw’r ymadrodd a ddefnyddir i ddisgrifio dathliad traddodiadol cwblhau prif adeiledd adeilad.

Meddai Rob Bradley, Rheolwr-gyfarwyddwr Rhanbarthol Bouygues UK, “Mae gosod carreg gopa’n garreg filltir arwyddocaol sy’n dathlu bod adeilad wedi cyrraedd ei uchder strwythurol llawn ac mae’n nodi dechrau’r cyfnod cyn cwblhau. Wedi i ni gyflwyno nifer o ysgolion yn yr ardal, rydym yn gyffrous ein bod yn gweithio gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot ac yn gwneud cynnydd cyflym ar y prosiect hwn a fydd yn darparu amgylchedd dysgu rhagorol arall ar gyfer plant y fwrdeistref sirol.”

Yn ystod y seremoni, canmolodd a diolchodd Aled Evans, Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, i bawb a oedd yn rhan o adeiladu’r ysgol newydd, datblygiad o’r radd flaenaf gwerth £19m, a fydd yn helpu i ddiogelu dyfodol addysg cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref sirol. Ariennir y prosiect gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Llywodraeth Cymru, fel rhan o Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.

Llongyfarchwyd Aled Davies, cyn-ddisgybl Tyle’r Ynn a disgybl blwyddyn 7 y campws cyfrwng Cymraeg newydd hefyd am feddwl am enw newydd yr ysgol, sef Ysgol Gymraeg Bro Dur, sy’n cyfeirio at ddiwydiant dur yr ardal. Cyflwynodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Y Cynghorydd Rob Jones, wobr o lechen wedi’i hysgythru er mwyn cydnabod ei lwyddiant.

Dewiswyd yr enw mewn cystadleuaeth gan ddisgyblion ar gyfer y campws Cymraeg newydd ym Mhort Talbot. Meddai Matthew Evans, Pennaeth Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur, “Derbyniom nifer o syniadau gwych ar gyfer yr enw newydd, ond dewisodd y disgyblion, y rhieni a’r staff yr enw Ysgol Gymraeg Bro Dur er mwyn dangos y cysylltiadau cymunedol cryf â’r diwydiant a hefyd gryfder a gwydnwch dur sy’n bresennol yng nghymeriad ein cymuned ehangach.

“Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera yn falch iawn o’i champws arall yn y de, a fydd yn anelu i ffurfio perthnasoedd cymunedol newydd a chryf gyda chymunedau yn ne’r fwrdeistref sirol yn y blynyddoedd i ddod.”

Daeth uchafbwynt y digwyddiad dathlu i ben gyda gwesteion yn gwylio coeden ywen yn cael ei chodi dros adeilad yr ysgol newydd.

Meddai’r Cynghorydd Peter Rees, Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant,  “Mae’r seremoni gosod carreg gopa yn Ysgol Gymraeg Bro Dur yn nodi carreg filltir bwysig arall yng nghynlluniau uchelgeisiol Cyngor Castell-nedd Port Talbot er mwyn creu’r amgylchedd gorau ar gyfer dysgu ac addysgu i’n helpu i wella safonau, sicrhau bod yr ysgolion cywir yn y lleoedd cywir, a’u bod yn addas ar gyfer dysgwyr yr 21ain ganrif.

“Bydd y campws Cymraeg newydd, yn ogystal ag ailddatblygu safle presennol Ysgol Gymraeg Ystalyfera yn y gogledd, yn rhan allweddol o gynlluniau’r cyngor i gryfhau darpariaeth addysg Gymraeg yn y fwrdeistref sirol”.

Meddai Eluned Morgan, y Gweinidog dros yr Iaith Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, “Rwy’n falch iawn bod adeiladu’r ysgol newydd hon wedi cyrraedd carreg filltir mor bwysig. Gan gynyddu nifer yr ysgolion Cymraeg, yn ogystal â chefnogi ysgolion cyfrwng Saesneg er mwyn cynyddu eu darpariaeth Gymraeg, mae’n hanfodol ar gyfer ein nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i gefnogi’r datblygiad gyda chyllideb o bron £11 miliwn gan y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.   Mae hyn yn enghraifft wych o’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol ac ysgolion.

Disgwylir i’r ysgol newydd gael ei chwblhau erbyn Awst 2018 a bydd lle ar gyfer hyd at 650 o ddisgyblion 11-16 oed yn y pen draw. Mae’r ysgol newydd yn cael ei hadeiladu ar safle hen Ysgol Gyfun Sandfields ac Ysgol Gynradd Traethmelyn.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle