Llanelli gym owner’s hefty cost for fly posting/Cosb i berchennog campfa am hysbysebu heb ganiatâd

0
1050

Llanelli gym owner’s hefty cost for fly posting

A Llanelli gym owner has felt the full weight of the law after advertising a couples only special offer illegally.

Michael John Davies and his company Robert Davies Health and Fitness have been faced with heavy costs totalling over £1,000 in a prosecution led by Carmarthenshire County Council.

The boss of the Dafen firm admitted fly posting by placing a trailer advertisement hoarding on a grass verge without permission when he appeared at Llanelli Magistrates Court on Friday.

The court heard that acting on a complaint on June 30 last year, council enforcement officers visited the area adjacent to the roundabout on the A4138 at Trosserch Road, Llangennech. The sign advertised a special offer price for couples. The contact number and web address belonged to the company.

Following an interview with council enforcement offices in August, Davies explained he was unaware of the need to obtain permission from the highways authority.

Davies was fined £200 and told to pay £122 costs and £20 victim surcharge and his company Robert Davies Health and Fitness must pay £376, £246 in costs and £38 victim surcharge.

The council’s executive board member for enforcement, Cllr Philip Hughes said: “We have a statutory duty to keep the county clean. Fly-posting makes an area look messy and untidy and if not removed, the posters slowly rot, becoming more unsightly and causing litter. They also have the potential to distract motorists causing road traffic collisions; not to mention the additional burden on the council budget. In addition, the businesses involved are gaining an unfair advantage over their law abiding competitors by not paying for advertising space.”

For further information on fly posting, visit our website http://www.carmarthenshire.gov.wales/home/residents/recycling-bins-litter/litter/fly-posting.aspx

Cosb i berchennog campfa am hysbysebu heb ganiatâd

Mae perchennog campfa yn Llanelli wedi cael ei erlyn am hysbysebu cynnig arbennig i gyplau yn unig yn anghyfreithlon.

Mae Michael John Davies a’i gwmni Robert Davies Health and Fitness wedi gorfod wynebu costau mawr o dros £1,000 mewn erlyniad dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin.

Pan ymddangosodd rheolwr y cwmni yn Nafen yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener cyfaddefodd ei fod wedi gosod posteri’n anghyfreithlon drwy osod bwrdd hysbysebu ar gefn trelar ar ymyl y ffordd heb ganiatâd.

Clywodd y llys fod swyddogion gorfodi y Cyngor wedi ymweld â’r ardal ger y gylchfan ar yr A4138 yn Heol Troserch, Llangennech, yn dilyn cwyn a dderbyniwyd ar 30 Mehefin y llynedd. Roedd yr arwydd yn hysbysebu “6 mis yn ystod yr adegau llai prysur i gyplau am £19.99 yn unig”. Roedd y rhif cyswllt a’r gwe-gyfeiriad yn perthyn i’r cwmni.

Yn dilyn cyfweliad â swyddogion gorfodi y Cyngor ym mis Awst, esboniodd Davies nad oedd yn gwybod bod angen cael caniatâd gan yr awdurdod priffyrdd.

Cafodd Davies ddirwy o £200 a dywedwyd wrtho am dalu £122 o gostau a gordal dioddefwr o £20, ac mae’n rhaid i’w gwmni, Robert Davies Health and Fitness, dalu £376, £246 o gostau a £38 o ordal dioddefwr.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Orfodaeth: “Mae’n ddyletswydd statudol arnon ni i gadw’r sir yn lân. Mae gosod posteri’n anghyfreithlon yn gwneud i ardal edrych yn anniben ac os nad ydyn nhw’n cael eu tynnu i lawr maen nhw’n pydru’n araf, sy’n golygu eu bod yn edrych yn fwy diolwg ac yn achosi sbwriel. Maen nhw hefyd yn gallu tynnu sylw modurwyr gan achosi damweiniau ffordd; heb sôn am y baich ychwanegol ar gyllideb y Cyngor. Yn ogystal, mae’r busnesau dan sylw yn cael mantais annheg ar eu cystadleuwyr sy’n cydymffurfio â’r gyfraith gan nad ydyn nhw’n talu am le hysbysebu.”

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch gosod posteri yn anghyfreithlon, ewch i’n gwefan http://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/preswylwyr/biniau-ailgylchu-a-sbwriel/sbwriel/gosod-posteri-ac-ati-yn-anghyfreithlon.aspx#.WlSHhv54hto

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle