Carmarthenshire’s first Celebration of Culture Awards | Gwobrau Dathlu Diwylliant cyntaf Sir Gaerfyrddin

0
801

Carmarthenshire’s first Celebration of Culture Awards

THOSE who enrich our lives through music, arts and literature will be recognised in Carmarthenshire’s first Celebration of Culture Awards.

Launched by Carmarthenshire County Council, the awards aim to celebrate excellence in arts and culture, and showcase our county-wide cultural achievements.

The awards will be held in April, and will highlight the importance of culture in our region.

They are open to anyone living, working or originating from Carmarthenshire who made a significant contribution to Carmarthenshire’s cultural landscape during 2017.

Individuals, groups and organisations will all be considered for awards across a range of categories designed to shine a spotlight on all areas of cultural arts in Carmarthenshire.

Cllr Peter Hughes Griffiths, executive board member for culture, sport and tourism, is behind the awards scheme and believes it could be the start of an annual celebration.

“We are blessed with a rich cultural heritage here in Carmarthenshire with many distinguished artists, literary greats and stars of stage and screen who continue to inspire us to this day,” he said.

“In launching these awards, we want to celebrate those who enrich our lives and add vibrancy to this great county today.

“We hope this will be the start of something big, a way for our gifted people to be recognised and their talents enjoyed.”

Six award categories are being opened up for nominations. They are:

 

  • Excellence in Performing Arts 

 

    • Recognising a performer or group of performers or organisation who have stood out in 2017. This can include (but is not limited to) theatre, dance, spoken word, and comedy.
  • Excellence in Visual Arts and Crafts 

 

    • Recognising an individual, group or organisation working in the visual arts, design, photography, or crafts whose work has left a lasting impression in 2017.
  • Excellence in Creative Media 

 

    • Recognising the achievements of an individual, group or organisation in creative media during 2017. This could be for (but is not limited to) Film, Animation, Graphic Design, Games Design, and Digital Art.
  • Excellence in Literature 

 

    • Acknowledgement of an outstanding individual, group or organisation working in creative writing, literature, prose or poetry who stood out during 2017.
  • Excellence in Heritage 

 

    • Recognising excellence from an individual, group, or organisation which raised the profile or celebrated Carmarthenshire’s history and heritage in 2017.
  • Excellence in Music  

 

  • Two special awards will be awarded at the judges’ selection:
  • Recognising the achievements of an individual, group or organisation in music during 2017. This can include (but is not limited to) musicians, singers, conductors and composers.
  • Young Talent  

 

    • An individual or group, aged under 25, working in any discipline, who are displaying real talent and potential at a relatively young age.
  • Outstanding Contribution to Culture The closing date for nominations is Friday, February 23, at 5pm. People can enter an individuals, group or organisation online at www.surveymonkey.co.uk/r/cultureawards2018 or call into your local library, theatre box office or The Hub in Llanelli. 

 

  • The awards will presented at a ceremony at the Ffwrnes Theatre, Llanelli, on Friday April 6, 2018.
  • A judging panel will select a long list, and then a short list, before choosing the award winner and two finalists in each category.
  • This is an award for someone who has made a significant contribution to arts and culture in Carmarthenshire over a long period.

Gwobrau Dathlu Diwylliant cyntaf Sir Gaerfyrddin

 

BYDD y rheiny sy’n cyfoethogi ein bywydau drwy gerddoriaeth, y celfyddydau a llenyddiaeth yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Dathlu Diwylliant cyntaf Sir Gaerfyrddin.

Nod y gwobrau, a lansiwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin, yw dathlu rhagoriaeth ym maes diwylliant a’r celfyddydau, ac arddangos ein cyflawniadau diwylliannol ym mhob rhan o’r sir.

Cynhelir y gwobrau ym mis Ebrill a byddant yn tynnu sylw at bwysigrwydd diwylliant yn ein rhanbarth.

Maent yn agored i unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn Sir Gaerfyrddin, neu sy’n hanu o’r sir, a wnaeth gyfraniad sylweddol i ddiwylliant Sir Gaerfyrddin yn ystod 2017.

Bydd unigolion, grwpiau a sefydliadau i gyd yn cael eu hystyried ar gyfer gwobrau mewn amrywiaeth o gategorïau gyda’r nod o hoelio sylw ar bob math o’r celfyddydau diwylliannol yn Sir Gaerfyrddin.

Y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, sy’n hyrwyddo’r cynllun gwobrau ac mae’n credu y gallai fod yn ddathliad blynyddol.

“Rydym yn ffodus o fod â threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog yma yn Sir Gaerfyrddin lle mae llawer o artistiaid nodedig, mawrion llenyddol a sêr y llwyfan a’r sgrin yn parhau i’n hysbrydoli heddiw,” meddai.

“Wrth lansio’r gwobrau hyn, rydym am ddathlu’r rheiny sy’n cyfoethogi ein bywydau ac yn bywiogi’r sir wych hon heddiw.

“Ein gobaith yw mai megis dechrau yw hyn, ac y bydd y gwobrau’n ffordd i gydnabod ein pobl ddawnus a mwynhau eu talentau.”

Mae chwe chategori yn agored ar gyfer enwebiadau. Dyma nhw:

 

  • Rhagoriaeth yn y Celfyddydau Perfformio 

 

    • Cydnabod perfformiwr neu grŵp o berfformwyr neu sefydliad a wnaeth argraff arbennig yn ystod 2017. Gall hyn gynnwys theatr, dawns, iaith lafar, a chomedi (ond nid yw’n gyfyngedig i hynny).
  • Rhagoriaeth yn y Celfyddydau Gweledol a Chrefftau 

 

    • Cydnabod unigolyn, grŵp neu sefydliad sy’n gweithio ym maes y celfyddydau gweledol, dylunio, ffotograffiaeth neu grefftau y mae eu gwaith wedi gadael argraff a fydd yn para yn ystod 2017.
  • Rhagoriaeth yn y Cyfryngau Creadigol 

 

    • Cydnabod cyflawniadau unigolyn, grŵp neu sefydliad yn y cyfryngau creadigol yn ystod 2017. Gallai hyn gynnwys Ffilm, Animeiddio, Dylunio Graffeg, Dylunio Gemau, a Chelf Ddigidol (ond nid yw’n gyfyngedig i hynny).
  • Rhagoriaeth mewn Llenyddiaeth 

 

    • Cydnabod unigolyn, grŵp neu sefydliad rhagorol sy’n gweithio ym maes ysgrifennu creadigol, llenyddiaeth, rhyddiaith neu farddoniaeth a wnaeth argraff arbennig yn ystod 2017.
  • Rhagoriaeth mewn Treftadaeth 

 

    • Cydnabod rhagoriaeth gan unigolyn, grŵp neu sefydliad sydd wedi codi proffil neu wedi dathlu hanes a threftadaeth Sir Gaerfyrddin yn ystod 2017.
  • Rhagoriaeth mewn Cerddoriaeth  

 

  • Bydd y beirniaid yn cyflwyno dwy wobr arbennig:
  • Cydnabod cyflawniadau unigolyn, grŵp neu sefydliad ym maes cerddoriaeth yn ystod 2017. Gall hyn gynnwys cerddorion, cantorion, arweinwyr a chyfansoddwyr (ond nid yw’n gyfyngedig i hynny).
  • Talent Ifanc 

 

    • Unigolyn neu grŵp, o dan 25 oed, sy’n gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth, sy’n dangos gwir botensial a thalent yn gymharol ifanc.
  • Cyfraniad Eithriadol i Ddiwylliant Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener, 23 Chwefror am 5pm. Gall pobl enwebu unigolion, grŵp neu sefydliad ar-lein drwy fynd i www.surveymonkey.co.uk/r/cultureawards2018 neu drwy fynd i’ch llyfrgell leol, swyddfa docynnau’r theatr neu Yr Hwb yn Llanelli.

 

  • Cyflwynir y gwobrau mewn seremoni yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli, ddydd Gwener 6 Ebrill, 2018.
  • Bydd panel beirniadu yn dewis rhestr hir, ac yna rhestr fer, cyn dewis enillydd y wobr a dau arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ym mhob categori.
  • Mae’r wobr hon ar gyfer rhywun sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r celfyddydau a diwylliant yn Sir Gaerfyrddin dros gyfnod hir.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle