Proposed police precept to be scrutinised by panel | Panel yn rhoi sylw i braesept arfaethedig yr heddlu

0
535

Proposed police precept to be scrutinised by panel

 

THE proposed precept for Dyfed Powys Police will be put under scrutiny at the first meeting of the Dyfed Powys Police and Crime Panel in 2018.

Panel members will meet at the Ceredigion County Council offices in Aberaeron on January 26 to discuss the precept and challenge Police and Crime Commissioner Dafydd Llywelyn on his budget plans for the coming year.

The panel, made up of members nominated by the four councils in the force area plus two independent members, has the power to approve or veto decisions on issues such as the council tax precept.

Local policing is funded from a Home Office grant, as well as contributions from the public via the Council Tax, known as the police precept.

During the meeting Mr Llywelyn will inform the panel of the findings of a recent public consultation on police funding

Panel chair, Cllr Alun Lloyd Jones, said: “We are interested to hear what the Commissioner is prioritising in the coming year, and will be keen to ensure that these plans will benefit the people of Dyfed Powys.

“Aware of the burden increased taxes has on households we will want reassurance that residents of the force area will be getting good value for money.”

The Dyfed Powys Police and Crime Panel meets every three months.

Meetings are open to the press and public, and with the prior permission of the chair, people can ask questions or make a statement in relation to a matter being considered by the panel, with the exception of personnel matters.

Questions should be submitted in advance either in writing or via the panel website www.dppoliceandcrimepanel.wales 

Panel yn rhoi sylw i braesept arfaethedig yr heddlu

 

BYDD praesept arfaethedig Heddlu Dyfed-Powys yn destun craffu yng nghyfarfod cyntaf Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn 2018.

Bydd aelodau’r Panel yn cyfarfod yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion yn Aberaeron ar 26 Ionawr i drafod y praesept ac i herio’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn ynghylch ei gynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Mae’r panel yn cynnwys aelodau a enwebwyd gan bedwar Cyngor rhanbarth yr heddlu a dau aelod annibynnol, ac mae ganddynt y pŵer i gymeradwyo neu roi feto ar benderfyniadau ynghylch materion fel praesept treth y cyngor.

Caiff plismona lleol ei ariannu gan grant o’r Swyddfa Gartref yn ogystal â chyfraniadau gan y cyhoedd drwy Dreth y Cyngor, sy’n cael ei adnabod fel praesept yr heddlu.

Yn ystod y cyfarfod bydd Mr Llywelyn yn rhoi gwybod i’r panel am ganfyddiadau ymgynghoriad cyhoeddus diweddar ar gyllido’r heddlu.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lloyd Jones, Cadeirydd y Panel: “Bydd yn ddiddorol clywed beth mae’r Comisiynydd yn ei flaenoriaethu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, a byddwn yn awyddus i sicrhau bod y cynlluniau hyn o fudd i bobl Dyfed-Powys.

“Rydym yn ymwybodol o’r baich cynyddol y mae trethi yn ei osod ar aelwydydd a byddwn eisiau sicrwydd bod trigolion rhanbarth yr heddlu yn cael gwerth am arian.”

Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cyfarfod bob tri mis.

Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r wasg a’r cyhoedd ac os cânt ganiatâd ymlaen llaw gan y Cadeirydd gall pobl ofyn cwestiynau neu wneud datganiad ynghylch mater sy’n cael ei ystyried gan y panel, ac eithrio materion personél.

Dylid cyflwyno cwestiynau o flaen llaw, naill ai’n ysgrifenedig neu drwy wefan y panel www.panelheddluathroseddudp.cymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle