Lung Cancer in West Wales – What you need to know / Canser yr Ysgyfaint yng Ngorllewin Cymru – Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

0
563

Lung cancer is the most common cancer in the world and is the most common cause of cancer death in the UK for both men and women and for women specifically this is on the increase. In the UK alone 44,000 new cases are diagnosed each year. It is more common in smokers but 1 person in 8 have never smoked. Smoking is responsible for 90% of cancer cases in men and 78% of cases in women. Finding lung cancer early improves the chances of cure, but only 17% are found early.  70% of patients diagnosed with lung cancer die within the first year because they present late. It is a sad fact that lung cancer patients in Wales have the lowest survival rates in Europe. More locally in the Hywel Dda region a report by Public Health Wales – Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit in 2015 noted patients have the highest late stage presentation of lung cancer in the country (Wales) 68.8% against a national average of 63.6% and the lowest figure of 15% for early stage presentation against a national average of 17%. These variances may seem small but they are significant in relation to survival rates. The good news is that there are lots of things you can do to drastically improve your chances of survival if you are diagnosed with this potentially life threatening condition but the key is to recognise the signs early on and get yourself checked out. There are a number of symptoms you should look out for including; a cough that won’t go away, feeling breathless for no reason, chest or shoulder pain, chest infection(s), coughing up blood or having blood in your spit, hoarseness in your voice, a cough that you always have or changes and gets worse, unexplained tiredness or lack of energy and weight loss that you can’t understand. Commenting on this Robbie Ghosal, Royal College of Physicians Specialty Advisor for Respiratory Medicine in Wales and Consultant Physician, says “If you are experiencing any of these symptoms don’t delay visiting your GP, even if you don’t smoke. It is most likely that this will be nothing serious and will put your mind at rest. If it is lung cancer, early diagnosis means that there are more treatment options available to you which are generally more effective and could ultimately save your life.” Adding to this, Respiratory Consultant and Lung Cancer Specialist, Dr Gareth Collier says, “You are not wasting your doctor’s time by getting your symptoms checked. Your doctor is likely to ask for more information about your cough and other symptoms and may suggest a chest X-ray which is a standard procedure. This may be followed by a CT scan even if the chest X-ray is normal. It is vital to recognise the warning signs and get medical attention promptly. The earlier lung cancer is found, the more likely it is to be successfully treated.” So what can you do to minimise your risk of cancer; get help to stop smoking, reduce your exposure to second hand smoke, diet and exercise can be important, eat five portions of fruit and vegetables every day, reduce your fat intake, eat less salt and sugar, reduce how much alcohol you drink and take regular exercise. This campaign has been aligned with World Cancer Day which is taking place on 4th February. World Cancer Day unites the world’s population in the fight against cancer and aims to save millions of preventable deaths each year by raising awareness and education about the disease, pressing governments and individuals across the world to take action

Canser yr Ysgyfaint yng Ngorllewin Cymru – Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Canser yr ysgyfaint yw’r canser mwyaf cyffredin yn y byd a dyma’r achos mwyaf cyffredin o farwolaeth canser yn y DU mewn dynion a menywod, ac i ferched yn benodol mae hyn ar gynnydd. Yn y DU yn unig, mae 44,000 o achosion newydd yn cael eu diagnosio bob blwyddyn. Mae’n fwy cyffredin mewn ysmygwyr ond nid yw 1 person mewn 8 ohonynt erioed wedi ysmygu. Mae ysmygu yn gyfrifol am 90% o achosion canser mewn dynion a 78% o achosion mewn menywod. Mae canfod canser yr ysgyfaint yn gynnar yn gwella’r siawns o wella, ond dim ond 17% o achosion a geir yn gynnar. Mae 70% o gleifion sy’n cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint yn marw o fewn y flwyddyn gyntaf, oherwydd eu bod yn hwyr yn mynd i weld meddyg. Mae’n ffaith drist bod cleifion canser yr ysgyfaint yng Nghymru â’r cyfraddau goroesi isaf yn Ewrop. Yn fwy lleol, nododd adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru – Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru yn 2015 mai canran cleifion canser yr ysgyfaint yn ardal Hywel Dda oedd yn hwyr yn mynd i weld meddyg oedd 68.8% yn erbyn cyfartaledd cenedlaethol o 63.6%, ac yma hefyd mae’r canran isaf o gleifion sy’n mynd i weld meddyg yn gynnar sef 15% yn erbyn cyfartaledd cenedlaethol o 17%. Efallai bod yr amrywiadau hyn ymddangos yn fach, ond maen nhw’n arwyddocaol o ran cyfraddau goroesi. Y newyddion da yw bod yna lawer o bethau y gallwch eu gwneud i wella’n sylweddol eich siawns o oroesi os cewch ddiagnosis o’r cyflwr hwn sy’n bygwth bywyd, ond yr allwedd yw adnabod yr arwyddion yn gynnar a mynd i weld meddyg. Mae yna nifer o symptomau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt gan gynnwys; peswch nad yw’n pallu, teimlo’n fyr o anadl heb unrhyw reswm, poen yn y frest neu’r ysgwydd, haint y frest, codi gwaed wrth beswch neu waed yn eich poer, llais cryglyd, peswch parhaus sy’n newid neu’n gwaethygu, blinder heb esboniad neu ddiffyg egni a cholli pwysau heb ddeall pam. Wrth sôn am hyn, dywedodd Robbie Ghosal, Meddyg Ymgynghorol ac Ymgynghorydd Arbenigol Coleg Brenhinol y Meddygon ar Feddygaeth Resbiradol yng Nghymru:”Os ydych chi’n profi unrhyw un o’r symptomau hyn, peidiwch ag oedi cyn ymweld â’ch meddyg teulu, hyd yn oed os nad ydych chi’n ysmygu. Mae’n fwyaf tebygol na fydd hyn yn unrhyw beth difrifol a bydd yn rhoi tawelwch meddwl i chi. Os ydyw’n ganser yr ysgyfaint, mae diagnosis cynnar yn golygu bod mwy o opsiynau o ran triniaeth ar gael i chi sydd, yn gyffredinol, yn fwy effeithiol ac a allai achub eich bywyd yn y pen draw.” Ychwanegodd Dr Gareth Collier, Ymgynghorydd Resbiradol ac Arbenigwr Canser yr Ysgyfaint, “Nid ydych chi’n gwastraffu amser eich meddyg trwy wirio’ch symptomau. Mae’n debygol y bydd eich meddyg yn gofyn am fwy o wybodaeth am eich peswch ac unrhyw symptomau eraill ac efallai y bydd yn awgrymu i chi gael pelydr-X o’r frest sy’n weithdrefn safonol. Yn dilyn hyn, efallai bydd angen sgan CT, hyd yn oed os yw’r pelydr-X o’r frest yn normal. Mae’n hanfodol adnabod yr arwyddion rhybudd a chael sylw meddygol yn brydlon. Mae canfod canser yr ysgyfaint yn gynnar yn golygu ei bod yn fwy tebygol y bydd yn cael ei drin yn llwyddiannus.” Felly, beth allwch chi ei wneud i leihau eich risg o ganser; cael help i roi’r gorau i ysmygu, lleihau ar ddod i gysylltiad â mwg ail-law, gall deiet fod yn bwysig, bwyta pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd, bwyta llai o fraster, bwyta llai o halen a siwgr, yfed llai o alcohol a gwneud ymarfer corff rheolaidd. Mae’r ymgyrch hon wedi ei halinio â Diwrnod Canser y Byd sy’n digwydd ar 4 Chwefror. Mae Diwrnod Canser y Byd yn uno poblogaeth y byd yn y frwydr yn erbyn canser â’r nod o arbed miliynau o farwolaethau y gellir eu hatal bob blwyddyn trwy godi ymwybyddiaeth ac addysgu am y clefyd, gan roi pwysau ar lywodraethau ac unigolion ar draws y byd i weithredu.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle