Our secret’s out…
YOU know that quiet woodland walk you love so dearly, the breath-taking views of the sea you drink in at the beach on a Sunday stroll, or that stunning historic castle you love to roam and wonder when you need some inspiration?
Well, prepare to share it with a few more people because Carmarthenshire’s best kept secrets are out.
People all over the world are about to fall in love with our wonderful county as they are captivated by wanderlust for the place we’re lucky to call home.
Some of the UK’s biggest travel publications are featuring Carmarthenshire on their pages, which are a source of holiday inspiration for thousands of people.
Lonely Planet, the largest travel guide book publisher in the world, is just one of those to recognise what we have to offer on our doorstep.
The beautiful Towy Valley is featured in its latest edition, with readers encouraged to pack a flask and blanket for a wintry al-fresco lunch in the great outdoors amongst spectacular scenery.
Holiday Living magazine suggests a winter walk at Scott’s Bay in Llansteffan and stylish lunch dates at Llandeilo and Llanarthne.
Guardian travel writers have chosen Pendine Sands as one of its ‘finds of the year’, picked from their favourite trips of 2017. The sands had been featured in the paper’s British Boltholes section back in September.
The features are worth thousands of pounds in advertising value equivalent, and were secured by the council’s marketing and media team who work with national publications to help boost Carmarthenshire’s tourism economy.
Cllr Peter Hughes Griffiths, executive board member for culture, sport and tourism, said:
“As well as putting Carmarthenshire on the map as a must-see destination for 2018, the features are sure to help attract new visitors to the area and in turn boost the local economy.”
The value of tourism in Carmarthenshire increases every year, and is now worth £370million.
Visitors staying in our hotels, bed and breakfasts, self-catering and tourism caravan sites contribute some £260million, with an additional £40million spent in the area by people who take advantage of staying with friends and family.
- Whether you live in Carmarthenshire or are planning a visit, check out www.discovercarmarthenshire.com for things to do, places to stay, guides and inspirational itineraries.
Find lots of pictures to go with your article at https://www.flickr.com/photos/discovercarms/albums
Mae’r gair ar led…
RYDYCH yn gwybod am y tro hyfryd yna drwy dawelwch y goedwig sy’n golygu cymaint i chi, y golygfeydd godidog o’r môr sy’n eich gwefreiddio wrth i chi gerdded ar hyd y traeth ar ddydd Sul, neu’r castell trawiadol llawn hanes yna y byddwch chi’n cerdded o’i amgylch ac yn rhyfeddu ato pan fydd angen ysbrydoliaeth arnoch?
Wel, byddwch yn barod i’w rhannu â mwy o bobl oherwydd mae’r gair yn mynd ar led am gyfrinachau gorau Sir Gaerfyrddin.
Mae pobl o bob cwr o’r byd ar fin cwympo mewn cariad â’n sir arbennig wrth iddynt gael eu cyfareddu gan y lle yr ydym yn ddigon ffodus i’w alw’n gartref.
Mae rhai o gyhoeddiadau teithio mwyaf y DU yn cynnwys eitemau am Sir Gaerfyrddin ar eu tudalennau, sy’n ysbrydoliaeth i filoedd o bobl ynglŷn â ble i fynd ar eu gwyliau.
Lonely Planet, cyhoeddwr teithlyfrau mwyaf y byd, yw un o’r rheiny sydd wedi sylweddoli’r hyn sydd gennym i’w gynnig ar stepen ein drws.
Caiff Dyffryn Tywi sylw yn eu rhifyn diweddaraf, sy’n annog y darllenwyr i fynd â fflasg a blanced gyda nhw i gael cinio gaeafol yn yr awyr agored yng nghanol y golygfeydd trawiadol.
Mae cylchgrawn Holiday Living yn awgrymu tro cerdded gaeafol ym Mae Scott yn Llansteffan a chiniawa mewn steil yn Llandeilo a Llanarthne.
Dewiswyd Traeth Pentywyn fel un o ‘ddarganfyddiadau’r flwyddyn’ gan ysgrifenwyr teithio’r Guardian, ar sail eu hoff deithiau yn ystod 2017. Cafodd y traeth sylw yn adran British Boltholes y papur nôl ym mis Medi.
Mae’r erthyglau hyn werth miloedd o bunnoedd o werth hysbysebu cyfatebol, a chawsant eu sicrhau gan dîm Marchnata a’r Cyfryngau’r Cyngor sy’n gweithio gyda chyhoeddiadau cenedlaethol i helpu i hybu economi twristiaeth Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:
“Yn ogystal â rhoi amlygrwydd i Sir Gaerfyrddin fel cyrchfan y mae’n rhaid mynd iddi yn 2018, mae’r erthyglau yn sicr o helpu i ddenu ymwelwyr newydd i’r ardal a fydd yn ei dro yn rhoi hwb i’r economi leol.”
Mae gwerth twristiaeth yn Sir Gaerfyrddin yn cynyddu bob blwyddyn, ac mae bellach werth £370 miliwn.
Mae’r ymwelwyr sy’n aros yn ein gwestai, ein darparwyr llety gwely a brecwast, llety hunanarlwyo ac mewn safleoedd carafanau i dwristiaid yn cyfrannu rhyw £260 miliwn, gyda £40 miliwn ychwanegol yn cael ei wario yn yr ardal gan bobl sy’n manteisio ar gael aros gyda ffrindiau a theulu.
- P’un a ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin neu’n bwriadu ymweld â hi, ewch i www.darganfodsirgar.com i weld pethau i’w gwneud, lleoedd i aros ynddynt, gwybodaeth dywys a theithiau i’ch ysbrydoli.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle