“Fy mlaenoriaeth yw eich boddhad… fe ddawn ni o hyd i’r crynodiad perffaith sy’n addas i chi”

0
1455

“Fy mlaenoriaeth yw eich boddhad… fe ddawn ni o hyd i’r crynodiad perffaith sy’n addas i chi” [1]

 

Mae dyn 25 oed o Gwent, a froliodd y gallai dderbyn archeb ar gyfer opioid synthetig gwenwynig a threfnu ei gludo unrhywle yn y byd ar yr un diwrnod, wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd.

 

Defnyddiodd Kyle Enos (25) o Maindee Parade, Casnewydd y ‘Rhyngrwyd Dywyll’ i hysbysebu ei fusnes o werthu pecynnau addasiedig o fentanyl – sydd rhyw 50 gwaith yn fwy cryf na heroin a 100 gwaith cryfach na morffin – i gwsmeriaid yn y DU a thramor.

 

Archebodd amrywiaeth o feintiau o fentanyl o ddosbarthwyr anghyfreithlon yn China ac wedi iddyn nhw gyrraedd, fe fyddai’n paratoi’r pecynnau i’w gwsmeriaid ac yn eu danfon trwy bost dosbarth neu awyren.

 

Os atafaelwyd y pecynnau gan dollfeydd, addawodd Enos y byddai’n ad-dalu ei gwsmeriaid neu’n ail-ddanfon yr archeb eto yn gwbwl rhad ac am ddim.

 

Amcanrifodd swyddogion fod y swm o fentanyl a werthwyd gan Enos wedi cynnwyd 45 gwaith y dôs llethol o fentanyl – yn gyfwerth â dros 25,800 dôs angheuol.

 

Yn amlwg yn ymwybodol o’r peryglon yn gysylltiedig â fentanyl, fe gyhoeddodd rybudd ar ei hysbyseb ar-lein yn gweud ‘mae gan bawb oddefiant gwahanol; gall un peth sy’n rhoi penysgafnder neis i fi fwrw rhywun arall lawr am hanner diwrnod’. Hefyd fe ddanfonodd allan nodiadau llawysgrif personol ynghŷd â’r pecynnau. Er hyn, parhaodd i geisio prynu meintiau uwch o’r cyffur o China.

 

Daeth ymchwilwyr o hyd i sgyrsiau gyda’i gyfatebwyr lle roedd Enos yn ceisio archebu hyd at dau gilo o fentanyl ar y tro, a’r ymateb iddo yn dod “mae cymaint â hyn yn beryglus iawn… rwyt ti’n beryglus iawn”.

 

Arestiwyd Enos yn ei gartref yn Mai 2017 gan swyddogion o’r NCA, gyda chymorth gan Heddlu Gwent. Cafodd ei dŷ ei archwilio ac atafaelwyd nifer o eitemau a ddefnyddiwyd ar gyfer paratoad a chyflwyniad cyffuriau, ynghŷd â sawl pecyn o fentanyl.

 

Cymaint yw cryfder fentanyl, bu’n rhaid i swyddogion wisgo siwtiau bioberygl ac anadlyddion tra’n archwilio ei dŷ.

 

Yn Awst 2017, plediodd Enos yn euog i fewnforio, darparu ac allforio cyffuriau dosbarth A i amrywiaeth o farchnadoedd yn y DU, UDA a Canada rhwng Mai 2016 a Mai 2017. Carcharwyd ef heddiw yn Llys Brenhinol Caerdydd.

 

Tra’n ei ddedfrydu, dywedodd HHJ Eleri Rees:

 

“Ymgyrch masnachol a soffistigedig oedd hwn. Roedd gennyt rôl arweiniol yn y fenter yma. Mae’n amlwg yr oeddet ti’n ceisio recriwtio ac ymledu dy fusnes”.

 

Dywedodd Colin Williams, Rheolwr Gweithrediadau o’r NCA:

 

“Mae’r ymholiadau yr ydym wedi gwneud i’w ddarpariaeth o gyffuriau wedi enwi 168 o gwsmeriaid – 92 yn y DU a 76 o dramor. Yn drasig, rydym yn ymwybodol o bedwar person o’i restr o gwsmeriaid sydd wedi marw o achos fentanyl, er ni allwn ddweud yn sicr mai Enos a ddarparodd y fentanyl a’u lladdodd.

 

“Roedd Kyle Enos yn ddarparwr sylweddol o fentanyl o fewn y DU a thramor. Roedd yn gwbwl ymwybodol o beryglon y cyffur, ond parhaodd i chwarae gêm â bywydau ei gwsmeriaid.

 

“Credwn fod ein gweithrediadau ni ynghŷd â’n partneriaid gorfodi’r gyfraith wedi cael dylanwad uniongyrchol ar gaffaeladwyedd fentanyl yn y DU, ond rydym yn ymwybodol nid yw’r bygythiad o opioidau synthetig wedi diflannu yn gyfangwbl. Mae gan yr NCA nifer o ymchwiliadau i ymwneud â fentanyl sy’n mynd ymlaen ac fe barhawn i dargedu ffynhonell y bygythiad ac i weithredi’n briodol.”

 

Dywedodd John Davies o Wasanaeth Erlyn y Goron:

 

“Creodd Kyle Enos fusnes ar-lein yn mewnforio a gwerthu dosau uchel o fentanyl ar raddfa rhyngwladol.

 

“Dangosodd y dystiolaeth a gyflwynwyd gan y CPS fod Enos yn gwbwl ymwybodol o’r risg o gymryd fentanyl o achos ei rybuddion i ddefnyddwyr tra’n gwerthu’r cynnyrch. Er gwaethaf yr adnabyddiaeth yma, parhaodd i werthu symiau mawr o’r cyffur, a gwahoddodd ei gwsmeriaid i ysgrifennu adolygiadau o’i wasanaeth, fel ar wefan eBay.

 

“Ceisiodd Enos i guddio’i weithgareddau gan ddefnyddio’r Rhyngrwyd Dywyll ond llwyddodd ymchwilwyr i gasglu tystiolaeth o’i sgyrsiau ar-lein â chyflenwyr i gefnogi’r erlyniad”.

 

Contact

 

Hannah Bickers

hannah.bickers@nca.x.gsi.gov.uk

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle