First Minister quizzed on securing Welsh branding for food post Brexit

0
593

Mid and West AM Simon Thomas demanded assurances from First Minister Carwyn Jones during a meeting in Newtown about how the Welsh Government will promote Welsh food and drink brand under any new future trade arrangements after Brexit.

The Committee for the Scrutiny of the First Minister was held in the Hafren Theatre, Newtown and investigated the food and drink industry in Wales, including the impact of Brexit on the sector.

Plaid Cymru Assembly Member Simon Thomas asked whether the Welsh Government would bring back a distinct Welsh food and drink award system and ensure Welsh country of origin labelling.

Shadow Cabinet Secretary for Energy, Climate Change and Rural Affairs Simon Thomas, said:

“There is widespread support in the Welsh food industry for further promotion of the Welsh brand.

“Plaid Cymru and those in the industry were disappointed that the previous Minister responsible for food Alun Davies axed the ‘Wales the True Taste’ awards five years ago. Awards raise people’s game and give a focus to the industry, so a Plaid Cymru Welsh Government would bring back a distinctive Welsh food award.

“NFU Cymru and Wildlife Trusts Wales have called for a renewed ‘Brand Wales’ to promote quality Welsh produce at home and overseas.

Many believe that labelling should clearly state a product’s country of origin.

“I’m worried the Welsh flags on our produce will disappear following Brexit. The Welsh Government has to wake up to this danger. We also need to ensure the continuation of the European Union’s protected food name status.  Fifteen Welsh products currently hold this accolade, with Caws Cenarth’s Caerphilly cheese having recently been awarded – but what happens next?”

HOLI’R PRIF WEINIDOG AR SICRHAU BRAND CYMRU AR GYFER BWYD AR ÔL BREXIT

Mynnodd AC y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas sicrwydd gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn ystod cyfarfod yn y Drenewydd am sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu hybu brand bwyd a diod Cymru o dan unrhyw drefniadau masnach newydd ar ôl Brexit.

Ymchwiliodd Pwyllgor Craffu ar y Prif Weinidog y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, gan gynnwys effaith Brexit ar y sector, mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Theatr Hafren, y Drenewydd

Gofynnodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru Simon Thomas a fyddai Llywodraeth Cymru yn ailgyflwyno system wobrwyo penodol bwyd a diod Cymru a sicrhau bod y labeli yn nodi Cymru yn wlad tarddiad.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet Cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Simon Thomas:

“Mae cefnogaeth eang yn niwydiant bwyd Cymru i hyrwyddo brand Cymru.

“Cafodd Plaid Cymru a’r rheiny yn y diwydiant siom bod y cyn-Weinidog oedd â chyfrifoldeb dros fwyd, Alun Davies AC, wedi cael gwared ar wobrau ‘Cymru: Y Gwir Flas’ hanner degawd yn ôl. Mae gwobrau yn rhoi tân ym moliau pobl ac yn rhoi ffocws i’r diwydiant, felly byddai Llywodraeth Cymru o dan ofal Plaid Cymru yn dod â gwobrau bwyd penodol i Gymru yn ôl.

“Mae NFU Cymru ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru wedi galw i adfywio ‘Brand Cymru’ er mwyn hyrwyddo cynnyrch Cymru sydd o safon, gartref a dros y môr. Credai llawer y dylai’r labeli nodi’n glir enw gwlad tarddiad y cynnyrch.

“Rwy’n poeni y bydd y Ddraig Goch yn diflannu oddi ar ein cynnyrch yn dilyn Brexit. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddeffro i’r perygl hwn. Hefyd, rhaid sicrhau parhad statws gwarchodedig enw bwyd yr Undeb Ewropeaidd.  Mae pymtheg cynnyrch o Gymru wedi ennill y statws hwn, gyda Caws Cenarth Caerffili y diweddaraf i gael ei wobrwyo – ond beth sy’n mynd i ddigwydd nesa?

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle