Young people in Carmarthenshire asked to be Fearless against crime

0
736

Young people in Carmarthenshire asked to be Fearless against crime

 

The independent charity Crimestoppers is promoting its educational Fearless service at a youth conference in Llanelli next month to raise awareness and tackle underreporting of crime by young people.

 

An initiative that has been funded by the Dyfed Powys Police and Crime Commissioner, the conference aims to inspire youth workers to empower children and young people to speak up about crime. The event follows a digital campaign running throughout February, which drew young people’s attention to the risks of exploitation, drugs and cybercrime.

 

Fearless provides educational tools and resources for 11 to 16 year old’s encouraging them to make positive, informed decisions around crime. It’s website – Fearless.org – enables them to pass on information about crime in English or Welsh language, completely anonymously and safely.

 

Ella Rabaiotti, Wales Regional Manager at Crimestoppers, said: “Young people can become victims, witnesses or participants in crime but often do not recognise the issues or feel confident to seek help.”

 

“Through the Fearless campaign and March’s event we hope more young people will be aware of the issues and report crime, either through the police, a trusted adult or through our website anonymously.”

 

To find out more information about the scheme or register for the conference held on 16th March, visit Fearless.org.

Gofyn i bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin i fod Heb Ofn am droseddu

 

Bydd elusen annibynnol Crimestoppers yn hyrwyddo’i gwasanaeth Fearless addysgol mewn cynhadledd i bobl ifanc a gynhelir yn Llanelli fis nesaf, er mwyn codi ymwybyddiaeth a mynd i’r afael â’r ffaith bod pobl ifanc yn gyndyn i adrodd am droseddau.

 

Mae’r gynhadledd yn fenter a ariannir gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, a’i nod yw ysbrydoli gweithwyr ieuenctid i rymuso plant a phobl ifanc i godi eu llais ynghylch troseddu.  Mae’r digwyddiad yn dilyn ymgyrch ddigidol a gynhaliwyd trwy gydol mis Chwefror, a oedd yn tynnu sylw pobl at risgiau camfanteisio, cyffuriau a seiberdroseddu.

 

Mae Fearless yn darparu offerynnau ac adnoddau addysgol i bobl ifanc 11 i 16 oed, sy’n eu hannog i wneud dewisiadau cadarnhaol a gwybodus ynghylch troseddu.  Mae ei wefan – Fearless.org – yn eu galluogi i gyfleu gwybodaeth am droseddu yn Gymraeg neu yn Saesneg, yn hollol ddienw ac mewn ffordd ddiogel.

 

Dywedodd Ella Rabaiotti, Rheolwr Rhanbarthol Cymru o fewn Crimestoppers:  “Gall pobl ifanc fod yn ddioddefwyr, yn dystion neu’n gyfranogwyr mewn troseddau, ond yn aml, ni fyddant yn adnabod y materion neu’n teimlo’n hyderus i geisio help.”

 

“Trwy gyfrwng ymgyrch Fearless a’r digwyddiad a gynhelir ym mis Mawrth, mawr obeithiwn y bydd mwy o bobl ifanc yn dod yn ymwybodol o’r materion ac y byddant yn adrodd am droseddau, naill ai trwy’r heddlu, oedolyn y maent yn ymddiried ynddynt neu trwy ein gwefan mewn ffordd ddienw.”

 

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun neu i gofrestru ar gyfer y gynhadledd a gynhelir ar 16 Mawrth, trowch at Fearless.org.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle