Carmarthenshire councillors back WASPI campaign | Cynghorwyr Sir Gaerfyrddin yn cefnogi ymgyrch WASPI

0
837

Carmarthenshire councillors back WASPI campaign

CARMARTHENSHIRE County Council has thrown its weight behind the Women Against State Pension Inequality (WASPI) campaign.

Councillors agreed to back 1950’s born women in Carmarthenshire who are affected by new state pension arrangements that mean many will have to work longer before they can retire.

The high-profile national campaign asks the Government to implement fair transitional pension arrangements for all women affected by the state pension laws.

A joint motion brought to council by Cllr Carl Harris and Cllr Tina Higgins, called on councillors to add their support to the campaign and recognise the hardship many women now face.

Around 10,000 Carmarthenshire women are said to be affected.

“We all know someone who is affected, and many of these are suffering financial hardship,” said Cllr Harris.

“The aim of the campaign is to achieve fair transitional arrangements. It’s important to note that 1950s born women are not asking for special treatment, but fair play. The state pension is not a benefit, it’s an entitlement for a lifetime of hard work.”

He added: “I’d like to pay tribute to WASPI women in Carmarthenshire who are working their socks off on this campaign.”

Cllr Tina Higgins said she was pleased to see the campaign had seen cross party consensus in Carmarthenshire and across Wales.

“For many women the decision to delay their pension has been a surprise to them,” she said.

“Many, due to ill health, are unable to work the extra years the government is asking them to. There are some women in this situation even resorting to using foodbanks.

“We must do everything we can to support the WASPI campaign.”

Leader of the council, Cllr Emlyn Dole, added: “I support the motion entirely. We are objecting to injustice.”

The full motion, agreed unanimously by council, stated:

 

That Carmarthenshire County Council

  • Recognises the Women Against State Pension Inequality (WASPI) campaign;
  • Acknowledges that many Carmarthenshire women, born in the 1950’s, now face remarkable challenges in making ends meet;
  • Appreciates that the WASPI women don’t want the state pension age lowered, but instead want fair transitional state pension arrangements for all women affected by the state pension laws;
  • Resolves to support the WASPI campaign and make representations on behalf of Carmarthenshire women to the UK Government

Watch the full debate online: http://www.carmarthenshire.public-i.tv/site/mg_bounce.php?mg_a_id=13120&mg_m_id=1433

 

Cynghorwyr Sir Gaerfyrddin yn cefnogi ymgyrch WASPI

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mynd ati i gefnogi’r ymgyrch Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth (WASPI).

Cytunodd y cynghorwyr i gefnogi menywod a anwyd yn y 1950au yn Sir Gaerfyrddin yr effeithir arnynt gan y trefniadau pensiwn gwladol newydd sy’n golygu bydd yn rhaid i lawer ohonynt weithio’n hirach cyn y gallant ymddeol.

Mae’r ymgyrch genedlaethol uchel ei phroffil yn gofyn i’r Llywodraeth weithredu trefniadau pensiwn trosiannol teg ar gyfer yr holl fenywod yr effeithiwyd arnynt gan y deddfau pensiwn gwladol.

Rhoddwyd cynnig ar y cyd gerbron y Cyngor gan y Cynghorydd Carl Harris a’r Cynghorydd Tina Higgins, a oedd yn galw ar gynghorwyr i ychwanegu eu cefnogaeth at yr ymgyrch a chydnabod y caledi y mae llawer o fenywod bellach yn ei wynebu.

Dywedir yr effeithir ar tua 10,000 o fenywod yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd y Cynghorydd Harris, “Rydym i gyd yn adnabod rhywun sydd wedi cael ei effeithio ac mae llawer o’r rhain yn dioddef caledi ariannol”

“Nod yr ymgyrch yw sicrhau trefniadau trosiannol teg. Mae’n bwysig nodi nad yw’r menywod a gafodd eu geni yn 1950au yn gofyn am driniaeth arbennig, ond yn hytrach chwarae teg. Nid yw pensiwn y wladwriaeth yn fudd-dal, mae’n hawl am oes o waith caled.”

Ychwanegodd: “Hoffwn dalu teyrnged i fenywod WASPI yn Sir Gaerfyrddin sy’n gweithio’n galed iawn ar yr ymgyrch hon.”

Dywedodd y Cynghorydd Tina Higgins ei bod yn falch o weld bod yr ymgyrch wedi denu consensws trawsbleidiol yn Sir Gaerfyrddin ac ar draws Cymru.

“I lawer o fenywod mae’r penderfyniad i oedi eu pensiwn wedi bod yn syndod iddyn nhw,” dywedodd.

“Nid yw llawer ohonynt, am resymau afiechyd, yn gallu gweithio’r blynyddoedd ychwanegol y mae’r Llywodraeth yn gofyn iddynt eu gwneud.  Mae rhai menywod yn y sefyllfa hon hyd yn oed yn gorfod defnyddio banciau bwyd.

“Mae’n rhaid i ni wneud popeth y gallwn i gefnogi ymgyrch WASPI.”

Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole: “Ryw’n gwbl gefnogol i’r cynnig. Rydym yn gwrthwynebu anghyfiawnder.”

Roedd y cynnig llawn, y gytunwyd arno yn unfrydol gan y Cyngor yn nodi:

 

Bod Cyngor Sir Caerfyrddin

  • Yn cydnabod yr ymgyrch Menywod erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth (WASPI);
  • Yn cydnabod bod llawer o fenywod Sir Gaerfyrddin, a gafodd eu geni yn y 1950au, bellach yn wynebu heriau aruthrol wrth geisio cael dau ben llinyn ynghyd;
  • Yn gwerthfawrogi nad yw menywod WASPI yn dymuno gostwng oedran pensiwn y wladwriaeth, ond yn hytrach yn dymuno cael trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg ar gyfer yr holl fenywod yr effeithiwyd arnynt gan ddeddfau’r pensiwn gwladol;
  • Yn penderfynu cefnogi’r ymgyrch WASPI a chyflwyno sylwadau ar ran menywod Sir Gaerfyrddin i Lywodraeth y DU

Gallwch wylio’r ddadl yn llawn ar-lein: http://www.carmarthenshire.public-i.tv/site/mg_bounce.php?mg_a_id=13120&mg_m_id=1433


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle