Daffodil Day – Diwrnod Cennin Pedr

0
2324

Daffodil Day

Daffodils will be the centre of attention for a special day devoted to Wales’ national flower – taking place at the National Botanic Garden of Wales on Sunday, March 25th.

With more than 50 varieties of daffodils on display, the Garden is a natural place to explore the difference between trumpets, tazettas and tête-a-têtes.

Come and discover how Welsh varieties have been pushed close to extinction and why daffodils are associated with our patron saint, St. David.

Renowned naturalist, Ray Woods, will be our special guide as he gives a free talk and guided walk about the history of daffodils and their Welsh connections.  The talk will take place in Theatr Botanica at 1pm and will be followed by a guided walk of the Garden’s daffodil collections.

There’ll be a fab daffodil competition on the day too, where little ones and grown-ups can take a photo with our ‘Daffodil Selfie-Frame’ among the Garden’s daffodils, with a children’s garden tools set as a prize for the children, and potted daffodils and a Growing the Future book for adults for our favourite entries!  Simply post your photos to the Garden’s or Growing the Future’s Facebook page to enter.

A self-led trail around the Garden’s various daffodil highlights will be available to visitors in the run-up to the day, as well as on Sunday, March 25th.

Daffodil Day is on from 10am until 4.30pm, with all daffodil-related activities included in the Garden admission price.

Admission to the Garden is £10.50 (including Gift Aid) for adults and £4.95 for children five to 16 years of age. Entry is free for Garden members and parking is free for all.

For more information about this or other events, visit our website, call 01558 667149 or email info@gardenofwales.org.uk

This event is part of the National Botanic Garden of Wales’ Growing the Future project.  This project has received funding through the Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.

Follow the Garden on Facebook, Twitter and Instagram

Follow the Growing the Future project on Facebook and Twitter

Diwrnod Cennin Pedr

Cennin Pedr fydd yng nghanol y sylw am ddiwrnod arbennig sydd wedi’i neilltuo i flodyn cenedlaethol Cymru yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sul, Mawrth 25ain.

Gyda dros 50 math gwahanol o gennin Pedr, mae’r Ardd yn lle naturiol i archwilio’r gwahaniaeth rhwng un narsisws â’r llall.

Dewch i ddarganfod pa rywogaethau Cymreig sydd mewn perygl o ddiflannu o’r tir a sut y datblygodd cysylltiad rhwng y blodau hyn a’n nawddsant, Dewi Sant.

Y naturiolwr, Ray Woods, fydd ein tywysydd arbennig wrth iddo roi sgwrs a thaith am ddim ar hanes y cennin Pedr a’u cysylltiadau Cymreig.  Bydd y sgwrs yn digwydd yn Theatr Botanica am 1yp wedi’i ddilyn gan daith tywys ar gasgliadau cennin Pedr yr Ardd.

Fe fydd yna gystadleuaeth cennin Pedr gwych ar y diwrnod hefyd, lle gall plantos bach ac oedolion cymryd llun gyda’n ‘ffrâm hun lun’ ymhlith cennin Pedr yr Ardd, gydag offer garddio i blant, a chennin Pedr mewn pot a llyfr Tyfu’r Dyfodol fel gwobr i’n hoff luniau!  Danfonwch eich lluniau i dudalen Facebook yr Ardd neu brosiect Tyfu’r Dyfodol i gystadlu.

Bydd llwybr hunan-arweiniol o amgylch uchafbwyntiau cennin Pedr yr Ardd ar gael i ymwelwyr yn y cyfnod sy’n arwain at y digwyddiad hwn yn ogystal â Dydd Sul, Mawrth 25ain.

Mae Diwrnod Cennin Pedr ymlaen o 10yb hyd at 4.30yp, gyda gweithgareddau’r diwrnod wedi’u cynnwys ym mhris mynediad yr Ardd.

Mae mynediad i’r Ardd yn £10.50 (gan gynnwys Cymorth Rhodd) i oedolion a £4.95 i blant pump i 16 mlwydd oed.  Mae mynediad am ddim i aelodau’r Ardd a pharcio am ddim i bawb.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn neu unrhyw ddigwyddiad arall, ewch i’n gwefan, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk

Mae’r digwyddiad hwn fel rhan o brosiect Tyfu’r Dyfodol gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.  Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.

Dilynwch yr Ardd ar Facebook, Twitter ac Instagram

Dilynwch prosiect Tyfu’r Dyfodol ar Facebook a Twitter


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle