Diweddariad ar gwasanaeth Tu-Allan-i-Oriau Dydd Gwener 16.3.18 / Update on GP Out-of-Hours service Friday 16.3.18

0
568

Rydym yn parhau i brofi anawsterau gyda llenwi rhai o’n rotas tu-allan-i-oriau yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro y penwythnos hwn oherwydd prinder meddygon teulu. Fel bob amser, byddwn yn ymdrechu tan y funud olaf un, ond efallai y byddwch chi’n profi gwasanaeth cyfyngedig yn y siroedd hyn, a dymunwn ymddiheuro am hyn.

Os ydych chi’n sâl tu allan i oriau dyda’r nos a’r penwythnos, gallwch wneud nifer o bethau: • am wybodaeth a chyngor iechyd, yn cynnwys gwiriwr symptomau ar-lein, trowch at Galw Iechyd Cymru: www.galwiechydcymru.wales.nhs.uk • ffonio 111 (Sir Gaerfyrddin yn unig) – gall y gwasanaeth hwn helpu eich cyfeirio at y gwasanaeth cywir, er enghraifft Meddyg Teulu, nyrs, fferyllydd neu Uned Mân Anafiadau, mae hefyd yn darparu gwybodaeth iechyd ar hunan-ofal ar gyfer ystod eang o gyflyrau, os yw’n briodol • defnyddio fferyllfa gymunedol – mae gan rai o’r rhain wasanaethau ychwanegol megis ‘brysbennu a thrin’ ar gyfer trin mân gyflyrau • DIM OND mewn argyfwng ac mewn cyflwr difrifol sy’n bygwth bywyd y dylech ffonio 999

Meddai Joe Teape, Cyfarwyddwr Gweithrediadau BIP Hywel Dda: “Dymunaf ymddiheuro am unrhyw bryder neu anghyfleustra a achosir oherwydd materion staffio parhaus yn y Gwasanaeth Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau. Ar hyn o bryd, mae hon yn duedd gyfarwydd ymhlith byrddau iechyd eraill ar draws Cymru. Gwyddom fod pob aelod o’n staff a’n meddygon teulu yn gweithio’n galed iawn i ddarparu gwasanaethau diogel ar gyfer ein cleifion a rydym yn gwerthfawrogi hyn. Rydym yn cyd-weithio ar draws ardal gyfan y bwrdd iechyd ac ar draws gwasanaethau gwahanol i ddarparu rhwyd ddiogelwch ar gyfer ein cleifion.

“Iechyd y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth ac er na allwn weithiau gyflawni popeth yr ydym yn dymuno ei gyflawni, rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau sy’n ddiogel a chadarn i’n cymunedau lleol.”

————————————————————————————-

We are continuing to experience difficulties in filling some of our Out-of-Hours rotas in Carmarthenshire and Pembrokeshire this weekend due to GP shortages.  As always, efforts are continuing until the last possible moment, however you may experience a limited service in these counties for which we would like to apologise.

If you are unwell out of hours during the evenings and weekend you can do a number of things:

  • for health information and advice, including online symptom checkers, please visit NHS Direct Wales: www.nhsdirect.wales.nhs.uk • call 111 (Carmarthenshire only) – they can help to signpost you to the right service, for example a GP, nurse, pharmacist or Minor Injury Unit, they also provide health information on a wide range of conditions for self care if appropriate • use your community pharmacy, some of these have enhanced services like ‘triage and treat’ for treatment of minor conditions  • ONLY in an emergency for serious or life-threatening conditions should you dial 999

Deputy Chief Executive and Director of Operations Joe Teape said: “I would like to apologise for any concern or inconvenience caused due to ongoing staffing issues in the Out of Hours GP service. This is currently a familiar trend among other health boards across the country.  We know that all of our staff and GPs are working really hard to provide safe services for our patients and we appreciate this. We are working together across the whole health board area and across different services to provide a safety net for our patients.

“The public’s health is our number one priority and although we sometimes cannot achieve everything that we want to achieve, we are doing our utmost to ensure that we can continue to provide services that are safe and robust for our local communities.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle