Farmers take action to address agricultural pollution in Wales/Ffermwyr yn gweithredu er mwyn mynd i’r afael â llygredd amaethyddol yng Nghymru

0
789

Over 1000 farmers have applied for funding for a Nutrient Management Plan (NMP) prepared through Farming Connect’s Advisory Service. The majority of these have been completed during the winter of 2017 – 18. These plans provide farmers with bespoke advice tailored to their individual farms which will benefit the environment, improve farm soils and reduce expenditure on inputs.

Soil testing is at the cornerstone of these plans, allowing farmers to target inputs only where they are needed thereby preventing run-off into watercourses.

Guto Owen, of the Farming Connect Farm Advisory Service, said NMPs scrutinised a farm’s existing use of fertiliser, slurry and manures and made recommendations on how these could be better used.

“Land is a farm’s biggest asset. Sampling soils provides important information on the nutrient status of fields and shows farmers what level of inputs the land actually needs, rather than using a blanket approach to spreading. It means that nutrients are not wasted and the risk of pollution is reduced,’’ he explained.

Not only is this good for the environment but for the farmer’s pocket too. “There is a potential to make huge savings from reducing the amount of fertilizer needed by following the advice in a Nutrient Management Plan” Mr Owen said.

Farmers registered with Farming Connect can receive up to 80% funding for NMPs or these can be fully-funded as group advice for Farming Connect registered businesses.

Many of the farms which requested NMPs are now tapping into another level of technical support provided by the Advisory Service, for example infrastructure advice and grassland management advice among other topics.

Several projects specifically addressing potential pollution triggers are also being considered at Farming Connect Innovation Sites, Demonstration Farms and Focus Sites. Open days at these farms allow farmers to learn from this trial work and implement changes on their own farms.

A Farming Connect Focus Site project at Lower Eyton identified management changes to improve soil efficiency that will pave the way for better productivity and profitability on a mixed livestock system. Whilst, Plas Demonstration site on Anglesey, is witnessing cost reductions and improved fertilizer efficiencies through using cutting edge technology in precision nutrient management planning.

The applications for nutrient management planning and demonstration network projects form part of Farming Connect’s ongoing campaign to assist Welsh farmers with reducing agricultural pollution and improving water quality.

Ffermwyr yn gweithredu er mwyn mynd i’r afael â llygredd amaethyddol yng Nghymru

 

Mae dros 1000 o ffermwyr wedi gwneud cais am arian ar gyfer Cynllun Rheoli Maetholion (NMP) a drefnir trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio. Cwblhawyd y mwyafrir o’r cynlluniau hyn ystod gaeaf 2017-18. Mae’r cynlluniau hyn yn darparu ffermwyr gyda chyngor wedi’i deilwra i’w ffermydd unigol a fydd er lles yr amgylchedd, yn gwella priddoedd ffermydd a lleihau’r gwariant ar fewnbynnau.

Profion pridd yw un o gonglfeini’rcynlluniau hyn sy’n galluogi ffermwyr i dargedumewnbynnau lle y maent eu hangen yn unig gan atal dŵr ffo rhag rhedeg i ddyfrffyrdd.

Dywedodd Guto Owen, sy’n gweithio i Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, bod NMP yn archwilio defnydd presennol ffermydd o wrtaith, slyri a thail ac yn cynnig awgrymiadau o ran sut y gellir gwneud gwell defnydd ohonynt.

“Tir yw trysor mwyaf ffermydd. Mae profi pridd yn darparu gwybodaeth bwysig ar statws maethynnau caeau ac yn dangos y lefel o fewnbynnau sydd ei angen ar y tir mewn gwirionedd, yn hytrachna defnyddio dull gwasgaru hollgynhawysfawr. Mae’n golygu nad yw maethynnau’n cael eu gwastraffu yn ogystal â lleihau’r risg o lygredd,” dywedodd.

Yn ogystal â bod yn dda ar gyfer yr amgylchedd, mae hyn hefyd o fantais i’r ffermwyr yn ariannol. “Mae modd gwneud arbedion sylweddol trwy leihau faint o wrtaith sydd ei angen yn dilyn y cyngor mewn Cynllun Rheoli Maetholion,” meddai Mr Owen.

Gall ffermwyr sydd wedi cofrestru gyda Chyswllt Ffermio dderbyn cymorthdal o hyd at 80% ar gyfer NMP neu gellir eu hariannu’nllawn fel cyngor grŵp ar gyfer busnesau sydd wedi cofrestru gyda Chyswllt Ffermio.

Mae nifer o’r ffermydd sydd wedi gwneud cais am NMP bellach yn manteisio ar gefnogaeth dechnegol wahanol a ddarperir gan y Gwasanaeth Cynghori, er engrhaifft cyngor ar bynciau megis isadeiledd a rheoli porfa i enwi ond ychydig.

Mae nifer o brosiectau sy’n mynd i’r afael yn benodol ag achosionllygredd posib hefyd yn cael sylw ar Safleoedd Arloesedd, Ffermydd Arddangos a Safleoedd Ffocws Cyswllt Ffermio. Mae diwrnodau agored ar y ffermydd hyn yn galluogi ffermwyr i ddysgu o’r treialon a gwneud newidiadau ar eu ffermydd eu hunain.

Fe wnaeth gwaith prosiect ar Safle Ffocws Lower Eyton adnabod newidiadau rheolaeth er mwyn gwella effeithlonrwydd pridd a fydd yn arwain at gwell cynhyrchedd a phroffidioldeb ar system da byw cymysg. Yn y cyfamser, mae Safle Arddangos Plas yn Ynys Môn yn gweld gostyngiadau mewn cost ac effeithlonrwydd gwrtaith gwell trwy ddefnyddio’r dechnolegddiweddaraf yn eu cynlluniau rheoli maethynnau manwl.

Mae’r ceisiadau ar gyfer cynlluniau rheoli maethynnau a phrosiectau’r rhwydwaith arddangos yn ffurfio rhan o ymgyrch parhaus Cyswllt Ffermio i gynorthwyo ffermwyr Cymru i leihaullygredd amaethyddol a gwella ansawdd dŵr.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle