A new service has been launched to support groups of farmers to apply for the Sustainable Management Scheme (SMS). The SMS offers grants of up to £700,000 for collaborative groups looking to improve the management of natural resources and in doing so contribute to the well-being of rural communities.
The support service will be delivered by Menter a Busnes under the flagship Farming Connect Programme on behalf of the Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014 – 2020, which is funded by the European Agriculture Fund for Rural Development and the Welsh Government.
Fifteen facilitators have been selected to provide support for groups of farmers to develop their ideas and to submit their expression of interest to Welsh Government. If groups are successful at the EOI stage and invited to submit a full proposal, the facilitator will be available to provide further support.
Eirwen Williams, Menter a Busnes Director said “This service will provide farmers with guidance and information as they develop their project ideas. Sometimes the process of applying for funding can seem rather daunting but with this service a facilitator will be at hand to provide continued support.”
Examples of successful projects in the past are the Eden Catchment programme which is a farmer led project centred on the improvement of the river Eden catchment by planting and managing native deciduous trees; and the Fferm Ifan project, a cooperation of 11 farmers who are implementing new targeted land management actions which will also deliver socio-economic benefits.
Profiles of facilitators can be seen on the Farming Connect website, and farmers can choose the facilitator that best suit their needs.
Interested farmers should contact the Farming Connect Service Centre on 0845 6000 813 or apply on-line at
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/SMS
Gwasanaeth newydd i gefnogi ffermwyr a choedwigwyr i ymgeisio am y Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS) – Rhaglen Datlygu Gwledig, Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru
Lansiwyd gwasanaeth newydd i gefnogi grwpiau o ffermwyr i ymgeisio am y Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS). Mae’r SMS yn cynnig grantiau o hyd at £700,000 ar gyfer grwpiau cydweithredol sy’n ceisio gwella rheolaeth adnoddau naturiol ac wrth wneud hynny yn cyfrannu at les cymunedau gwledig.
Bydd y gwasanaeth cefnogi yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes o dan y rhaglen Cyswllt Ffermio ar ran Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sydd wedi ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru o dan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Dewiswyd pymtheg o hwyluswyr i roi cymorth i grwpiau o ffermwyr i ddatblygu eu syniadau a chyflwyno eu ceisiadau datganiad o ddiddordeb i Lywodraeth Cymru. Os yw grwpiau’n llwyddiannus gyda’r cais datganiad o ddiddordeb ac yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais llawn, bydd yr hwylusydd ar gael i ddarparu cefnogaeth bellach.
Dywedodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Menter a Busnes “Bydd y gwasanaeth hwn yn rhoi arweiniad a gwybodaeth i ffermwyr wrth iddynt ddatblygu eu syniadau. Weithiau gall y broses o wneud cais am gyllid ymddangos yn anodd ond gyda’r hwylusydd wrth law bydd cefnogaeth barhaus ar gael i’r grwpiau.”
Enghreifftiau o brosiectau llwyddiannus yn y gorffennol yw rhaglen Dalgylch Eden sef prosiect sy’n cael ei arwain gan ffermwyr sy’n canolbwyntio ar wella dalgylch yr afon Eden trwy blannu a rheoli coed collddail brodorol; a phrosiect Fferm Ifan, cydweithrediad o 11 o ffermwyr sy’n defnyddio dulliau rheoli tir newydd wedi’u targedu’n benodol at wahanol ardaloedd ond sydd hefyd yn darparu buddion economaidd-gymdeithasol.
Gellir gweld proffiliau’r hwyluswyr sydd ar gael i helpu grwpiau ar wefan Cyswllt Ffermio, a gall ffermwyr ddewis yr hwylusydd sy’n gweddu orau i’w hanghenion.
Dylai ffermwyr sydd â diddordeb gysylltu â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 0845 6000 813 neu wneud cais ar-lein ar
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/gwasanaeth-cefnogi-cynllun-rheoli-cynaladwy-sms
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle