Six apprenticeship in the construction industry on offer
Next steps is back with up to six apprenticeships on offer.
Now in its ninth year, Next Steps is open to men and women living in Carmarthenshire aged 16 and over who have an interest in obtaining qualifications in groundworks, carpentry, bricklaying, plastering, electrics, plumbing and painting and decorating. No previous experience is required.
Working in partnership, Carmarthenshire County Council, Lloyd & Gravell, TRJ, Coleg Sir Gar, CCTAL and CWIC the Next Step Programme is looking for up to six people to become professionals of the future.
Shortlisted applicants will spend one week at Coleg Sir Gâr’s Ammanford campus to learn basic health and safety training for working on a building site; with a further five weeks of on-site work experience, where they will be mentored by qualified tradesperson on a community benefit project which will take place over the summer holidays.
The programme has already changed the lives of countless local people – including people who have gone on to set up their own business and win national skills competitions, as well as children and adults with severe disabilities who have benefitted from community projects built by the Next Steps teams.
The successful candidates will commence a minimum two year paid apprenticeship/training programme with Lloyd & Gravell Ltd, TRJ Ltd or Carmarthenshire County Council starting September 2018.
A basic knowledge of Welsh is required to accomplish this post. Support can be provided on appointment to reach this level. For further information and to download an application form visit www.nextstepscarmarthenshire.co.uk. Deadline for entries is May 14. For an informal discussion please contact Sally Bennett on 01267 246181.
Chwech o brentisiaethau yn y diwydiant adeiladu ar gael
Mae’r Camau Nesaf yn ôl ac mae hyd at chwech o brentisiaethau ar gael.
Mae prosiect y Camau Nesaf, sydd bellach yn cael ei gynnal am y nawfed tro, ar agor i fenywod a dynion sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin ac sy’n 16 oed a hŷn sydd â diddordeb mewn ennill cymwysterau o ran gwaith tir, gwaith saer, gosod brics, plastro, gwaith trydan, plymwaith a phaentio ac addurno. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.
Gan weithio ar y cyd â Chyngor Sir Caerfyrddin, Lloyd & Gravell, TRJ, Coleg Sir Gâr, CCTAL a CWIC mae Rhaglen y Camau Nesaf yn chwilio am hyd at chwech o bobl i fod yn weithwyr proffesiynol y dyfodol.
Bydd yr holl ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn treulio wythnos ar gampws Coleg Sir Gâr yn Rhydaman i gael hyfforddiant iechyd a diogelwch sylfaenol ar gyfer gweithio ar safle adeiladu; ac wedyn yn treulio pum wythnos yn ennill profiad gwaith ar safle prosiect cymunedol a fydd yn digwydd dros wyliau’r haf lle byddant yn cael eu mentora gan grefftwyr cymwys.
Mae’r rhaglen eisoes wedi newid bywydau nifer o bobl leol gan gynnwys pobl sydd wedi mynd yn eu blaenau i sefydlu eu busnesau eu hunain ac i ennill cystadlaethau sgiliau cenedlaethol. Ar ben hynny mae plant ac oedolion sydd ag anableddau difrifol ar eu hennill yn sgil y prosiectau cymunedol y bu’r timau Camau Nesaf yn eu cyflawni.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau rhaglen hyfforddiant/prentisiaeth â thâl am isafswm o ddwy flynedd gyda chwmni Lloyd & Gravell Ltd, TRJ Ltd neu Gyngor Sir Caerfyrddin ym mis Medi 2018.
Mae angen gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg i gyflawni’r swydd hon. Gellir darparu cefnogaeth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi. I gael rhagor o wybodaeth ac i lawrlwytho ffurflen gais, ewch i’r wefan: www.nextstepscarmarthenshire.co.uk. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 14 Mai. I gael sgwrs anffurfiol, ffoniwch Sally Bennett: 01267 246181.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle