Plaid Cymru tables Clean Air Bill for Wales – Plaid Cymru yn cyflwyno Bil Awyr Lân i Gymru

0
568

With Porth Talbot this week assessed as the worst polluted town in the UK according to the World Health Organisation, Plaid Cymru AM Simon Thomas has bid for a new law to tackle the polluted air we breathe.

 

Air pollution contributes to around 2,000 deaths per year in Wales. It has been described by Public Health Wales as an urgent public health crisis, second only to smoking.

 

Levels in several communities in Wales have breached European Union regulations for several years, culminating in the Labour Government in Wales being taken to the high court  by environmental campaigners Client Earth for its lack of action.

 

The Mid and West AM’s proposal for new legislation will protect the public from air pollution.

 

Shadow Cabinet Secretary for Energy, Climate Change and Rural Affairs Simon Thomas said:

 

“Dirty air is killing our citizens and ruining our children’s lives. We will clean up our air and force the pace of change by introducing a Clean Air Act for Wales.

 

“The Chief Medical Officer for Wales has identified air pollution as a public health problem. Air pollution is causing 2,000 premature deaths a year in Wales.

 

“We need air pollution monitors in our towns and cities, particularly outside schools and hospitals.

 

“Clear air zones need a legal underpinning and this bill if it became law would help.

It would ensure that only very low emission vehicles would be for sale after 2030.

 

“Local councils need to be empowered to issue pollution charges and encourage less polluting traffic, whether it be regulations on certain days or to certain areas.

 

“In Wales we need to improve our air quality monitoring, the Welsh Government should consider having real-time monitoring, linked to a website so people can gauge the impact that they are making by driving their non-hybrid cars and vans.

 

“The Bevan Foundation made an interesting proposal a few months ago to have free bus transport in our cities to cut emissions.

 

“We also should look at the use of hydrogen vehicles now in our towns and cities as a way certainly of improving air quality.

 

“We should consider banning heavy goods vehicles from our cities and town centres at particular times. At the moment heavy goods vehicles enter our towns and cities at the same time as children are walking to school.

 

“The new £20m Air Quality Fund has to be needs based that really deals with those most dreadful parts of Wales that are suffering from air pollution at the moment.”

 

This week Simon Thomas has met with Plaid Cymru MPs in Westminster to discuss the party’s Air Pollution week between 18th- 24th June.

Plaid Cymru yn cyflwyno Bil Awyr Lân i Gymru

 

 

 

 

Gyda Port Talbot yr wythnos hon yn cael ei hasesu fel y dref fwyaf llygredig yn y DG  yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae AC Plaid Cymru Simon Thomas wedi gwneud cais am gyfraith newydd i fynd i’r afael a’r aer llygredig yr ydym yn anadlu.

 

Mae llygredd aer yn cyfrannu at tua 2,000 o farwolaethau y flwyddyn yng Nghymru. Fe’i disgrifiwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fel argyfwng iechyd cyhoeddus dybryd, yn ail yn unig i ysmygu.

 

Mae lefelau mewn llawer cymuned yng Nghymru wedi torri rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd ers llawer blwyddyn, gan gyrraedd pinacl pan gymerwyd y Llywodraeth Lafur yng Nghymru i’r uchel lys gan yr ymgyrchwyr amgylcheddol Client Earth am eu diffyg gweithredu.

 

Bydd cynnig AC y Canolbarth a’r Gorllewin am ddeddfwriaeth newydd yn gwarchod y cyhoedd rhag llygredd aer.

 

Meddai’r Ysgrifennydd Cabinet cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Simon Thomas:

 

“Mae aer brwnt yn lladd ein dinasyddion ac yn difetha bywydau ein plant. Byddwn yn glanhau ein hawyr ac yn gorfodi newid trwy gyflwyno Deddf Awyr Lân i Gymru.

 

“Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi nodi llygredd aer fel problem iechyd cyhoeddus. Mae llygredd aer yn achosi 2,000 o farwolaethau cynamserol y flwyddyn yng Nghymru.

 

“Mae arnom angen taclau monitro aer yn ein trefi a’n dinasoedd, yn enwedig y tu allan i ysgolion ac ysbytai.

 

“Mae angen sylfaen gyfreithiol i barthau awyr lân, a byddai’r bil hwn, petai’n dod yn ddeddf, yn helpu hynny. Byddai’n sicrhau mai dim ond cerbydau allyriadau isel fyddai ar werth wedi 2030.

 

“Rhaid i gynghorau lleol gael y grym i osod taliadau llygredd ac annog traffig sy’n llygru llai, boed hynny yn rheoliadau ar rai dyddiau neu mewn rhai ardaloedd.

 

“Yng Nghymru, mae angen i ni wella’r ffordd yr ydym yn monitro ansawdd aer; dylai Llywodraeth Cymru ystyried cael monitro amser-gwirioneddol, wedi’i gysylltu â gwefan fel y gall pobl fesur yr effaith maent yn gael trwy yrru eu ceir a’u faniau nad ydynt yn hybrid.

 

“Gwnaeth Sefydliad Bevan gynnig diddorol rai misoedd yn ôl i gael cludiant am ddim ar fysus yn ein dinasoedd er mwyn torri i lawr ar allyriadau.

 

“Dylem hefyd ystyried defnyddio cerbydau hydrogen yn awr yn ein trefi a’n dinasoedd fel ffordd sicr o wella ansawdd aer.

 

“Dylem ystyried gwahardd cerbydau nwyddau trwm o ganol ein dinasoedd a’n trefi ar adegau penodol. Ar hyn o bryd, mae cerbydau nwyddau trwm yn dod i mewn i’n trefi a’n dinasoedd ar yr un pryd ag y mae plant yn cerdded i’r ysgol.

 

“Mae angen i’r Gronfa Ansawdd Aer o £20m fod yn seiliedig ar anghenion a mynd i’r afael mewn gwirionedd a’r rhannau enbyd hynny o Gymru sy’n dioddef llygredd aer ar hyn o bryd.”

 

Yr wythnos hon, cyfarfu Simon Thomas ag ASau Plaid Cymru yn San Steffan i drafod Wythnos Llygredd Aer y blaid rhwng Mehefin 18- 24.

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle