Rural volunteering scheme hubs launched | Lansio canolbwyntiau’r cynllun gwirfoddoli gwledig

0
432

Rural volunteering scheme hubs launched

 

THE recently launched Rural Volunteering Programme, led by Carmarthenshire Association of Voluntary Services (CAVS) and funded by RDP LEADER will be establishing specialist volunteering “hubs” in eight venues across the county over the coming months.

The Programme aims to tackle a range of issues around volunteering in rural areas, including providing volunteering opportunities, providing training for volunteers and promoting the health and wellbeing, social and community values of volunteering.

The project’s hubs will offer opportunities as a drop in centre for anyone wanting an informal chat about volunteering, whether they are looking for volunteers for an event or project they are running or whether they are interested in volunteering opportunities.

Information on free training will also be on offer.

Carmarthenshire County Council’s executive board member for communities and rural affairs, Cllr Cefin Campbell, said: “The benefits of volunteering are numerous. It can broaden horizons and skill sets for those volunteering and improving employability. Volunteers can also be a great asset to organisations and companies who recruit them.

“This is a fantastic project to help our rural areas and we are delighted to be supporting it.

“I would urge anyone with an interest in volunteering or who can provide opportunities for volunteers, to drop in to their nearest hub”.

The hubs are located across rural Carmarthenshire, in Glanaman, The Gwendraeth, St. Clears, Whitland, Drefach Felindre, Llanybydder, Llandeilo and Llanelli.

To find out more, contact CAVS on (01267) 245555/ e-mail admin@cavs.org.uk or visit their website www.cavs.org.uk/rural-volunteering/the-hubs/

This project has received funding through the Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014-2020 (RDP), which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.

Lansio canolbwyntiau’r cynllun gwirfoddoli gwledig

 

BYDD y Rhaglen Gwirfoddoli Gwledig a lansiwyd yn ddiweddar, sy’n cael ei harwain gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS) a’i hariannu gan LEADER y Cynllun Datblygu Gwledig yn sefydlu “canolbwyntiau” mewn wyth lleoliad ledled y sir yn ystod y misoedd nesaf.

Nod y Rhaglen Gwirfoddoli Gwledig yw mynd i’r afael ag ystod o faterion sy’n ymwneud â gwirfoddoli mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys cynnig cyfleoedd i wirfoddoli, darparu hyfforddiant i wirfoddolwyr a hyrwyddo’r gwerthoedd o ran iechyd a llesiant a’r gwerthoedd cymdeithasol a chymunedol sydd ynghlwm wrth wirfoddoli.

Bydd canolbwyntiau’r prosiect yn gweithredu fel canolfannau galw heibio i bobl sydd am gael sgwrs anffurfiol am wirfoddoli, pa un a ydynt yn chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer digwyddiad neu brosiect y maent yn eu cynnal neu fod ganddynt ddiddordeb mewn cyfleoedd gwirfoddoli.

Bydd gwybodaeth am hyfforddiant am ddim hefyd ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Gymunedau a Materion Gwledig:  “Mae manteision niferus i wirfoddoli. Gall gwirfoddoli ehangu gorwelion a sgiliau yn ogystal â gwella cyflogadwyedd. Gall gwirfoddolwyr hefyd fod yn gaffaeliad arbennig i sefydliadau a chwmnïau sy’n eu recriwtio.

“Mae hwn yn brosiect gwych i helpu ein hardaloedd gwledig ac rydym yn falch iawn o gael ei gefnogi.

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli neu sy’n gallu darparu cyfleoedd i wirfoddolwyr, i alw heibio i’w ganolbwynt agosaf”.

Lleolir y canolbwyntiau ar draws ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin, sef yn Sanclêr, Glanaman, Hendy-gwyn ar Daf, Cwm Gwendraeth, Drefach Felindre, Llanybydder, Llandeilo a Llanelli.

I gael gwybod mwy, cysylltwch â CAVS drwy ffonio (01267) 245555 neu drwy anfon e-bost at admin@cavs.org.uk neu ewch i’w gwefan: www.cavs.org.uk/rural-volunteering/the-hubs/?lang=cy

Mae’r prosiect hwn wedi cael cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 ‘Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru’, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle