Carms teen to debate in House of Commons/Llanc yn cynrychioli Sir Gâr ar lawr Tŷ’r Cyffredin

0
458
Thomas Vaughan-Jones, who has been elected by members of the Carmarthenshire Youth Council (CYC) to represent the county at the UK Youth Parliament for 2018. Y llun: Thomas Vaughan-Jones, sydd wedi'i ethol gan aelodau Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin i gynrychioli'r sir yn Senedd Ieuenctid y DU 2018.

Carms teen to debate in House of Commons

 

AN Ammanford teenager will be representing Carmarthenshire at the House of Commons later this year.

Thomas Vaughan-Jones, aged 14, has been elected by members of the Carmarthenshire Youth Council (CYC) to represent the county at the UK Youth Parliament for 2018.

He will be joining over 300 members who will take part in the UKYP’s annual sitting which is a national debate in the House of Commons, Westminster, in November.

Thomas, a pupil at Amman Valley School, will hold the prestigious position of UKYP member for 18 months.

Over Easter Thomas had the opportunity to take part in the National Youth Voice Leadership Development Programme in Swindon which was aimed at helping him develop his skills that he will be using as the new UKYP representative for Carmarthenshire.

Thomas said: “I’m really happy to have been elected as Carmarthenshire’s 2018 member for the UK Youth Parliament and want to continue to listen to young people’s ideas and views, making sure that I represent Carmarthenshire on a national and UK platform. I would like to thank the Youth Council for giving me this opportunity. I haven’t done anything like this before and I’m really looking forward to the year ahead.”

Thomas will be leading on this year’s Make Your Mark ballot this Summer and encouraging other young people in the county to get involved in having a say nationally. Make Your Mark is the largest youth consultation across the UK with 954,766 young people taking part last year across the UK.

Last year CYC encouraged 4,635 young people aged 11-18 across Carmarthenshire to get involved in the ballot, Thomas is going to attempt to beat last year’s total, by encouraging young people across the county to vote on the issues that are important to them.

Executive board member for education and children’s service, Cllr Glynog Davies, said: “I would like to wish Thomas all the best as he takes on the role of UKYP member for the next 18-months, and particularly when he takes part in the national debate in the House of Commons, Westminster, in November.”

Llanc yn cynrychioli Sir Gâr ar lawr Tŷ’r Cyffredin

 

BYDD llanc o Rydaman yn cynrychioli Sir Gaerfyrddin yn Nhŷ’r Cyffredin yn hwyrach eleni.

Mae Thomas Vaughan-Jones, 14 oed, wedi’i ethol gan aelodau Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin i gynrychioli’r sir yn Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig 2018.

Bydd yn ymuno â thros 300 o aelodau a fydd yn cymryd rhan yng nghynulliad blynyddol a chenedlaethol y Senedd yn Nhŷ’r Cyffredin, San Steffan ym mis Tachwedd.

Bydd Thomas, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman, yn dal y swydd nodedig ar Senedd Ieuenctid y DU am 18 mis.

Dros y Pasg cafodd Tom gyfle i fynd i Swindon i gymryd yn Rhaglen Datblygu Arweinwyr Youth Voice gyda’r nod o’i helpu i ddatblygu sgiliau ar gyfer bod yn gynrychiolydd newydd Sir Gaerfyrddin ar Senedd Ieuenctid y DU.

Dywedodd Thomas: “Rwyf yn hapus iawn fy mod wedi cael fy ethol yn aelod Sir Gaerfyrddin ar Senedd Ieuenctid y DU 2018 ac rwyf am barhau i wrando ar syniadau a sylwadau pobl ifanc, gan sicrhau fy mod yn cynrychioli Sir Gaerfyrddin ar lwyfan genedlaethol ac ar lwyfan y Deyrnas Unedig. Hoffwn ddiolch i’r Cyngor Ieuenctid am roi’r cyfle hwn i mi. Nid wyf wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o’r blaen felly rwy’ wir yn edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod.”

Bydd Thomas yn arwain pleidlais Make Your Mark yr haf hwn ac yn annog pobl ifanc eraill yn y sir i gymryd rhan a dweud eu dweud. Make your Mark yw’r ymgynghoriad mwyaf ymhlith pobl ifanc yn y Deyrnas Unedig ac roedd 954,766 o bobl ifanc wedi cymryd rhan y llynedd.

Roedd Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wedi annog 4,635 o bobl ifanc 11-18 oed o bob cwr o Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan yn y bleidlais y  llynedd. Nod Thomas yw ceisio curo cyfanswm y llynedd drwy annog pobl ifanc y sir i bleidleisio ar y materion sy’n bwysig iddynt.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaeth Plant: “Dymunaf y gorau i Thomas wrth iddo ymgymryd â’r rôl o fod yn aelod o Senedd Ieuenctid y DU am y 18 mis nesaf, yn enwedig wrth iddo gymryd rhan yn y ddadl genedlaethol yn Nhŷ’r Cyffredin yn San Steffan ym mis Tachwedd.”

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle