Return of Tenant 2 Tenant awards/Gwobrau Tenant i Denant yn dychwelyd

0
638

Return of Tenant 2 Tenant awards

THE prestigious Tenant 2 Tenant awards are returning this year.

The awards are all about shining a light on the many unsung heroes who make estate and neighbourhoods great places to live.

The 2018 awards will be another chance to say a big thank you to people who go the extra mile for the benefit of their neighbours, friends and community, and those that make an extra effort to keep their homes and gardens looking their best.

There are 12 categories up for grabs, ranging from Community project / event of the year, to volunteer of the year; Family project to Good neighbour. There’s also best kept garden, and best room makeover, as well as Housing Legend award and Lifetime Achievement Award.

An awards ceremony will be held in November, but before then, tenants have until June 28 to nominate worthy winners in each award category.

A judging panel, led by Cllr Linda Evans, executive board member for housing, will choose from the nominations submitted.

“These awards are a great way to celebrate tenants and community projects,” said Cllr Evans. “Nominations have been flooding in for this year’s awards and I am looking forward to meeting everyone at the awards evening in November. It really is a fantastic opportunity to say thank you to the tenants and the efforts they make to go the extra mile to make other people’s lives better.”

 

Do you know someone who deserves a T2T award? Check out all the categories and find out how to enter below:

  • Community Project/event of the year:

Recognising a group of volunteers who have gone the extra mile to bring some community spirit back to your area

 

  • Best older person’s initiative or event award:

Celebrating a project that has involved sheltered scheme tenants working together to benefit others

 

  • Family Project of the year:

Shining a spotlight on a project that has brightened the lives of your children and families.

 

  • Volunteer of the year:

Celebrating the fantastic efforts a fellow tenant has made to bring joy and wellbeing to the lives of people living in your community

 

  • Time Credits Champion:

Recognising the exceptional efforts of someone who has gone above and beyond to promote, earn or spend Time Credits

 

  • Good Neighbour of the year:

Everyone needs good neighbours, and this award is a big Thank You to one special neighbour who goes the extra mile to help you in times of need

 

  • Lifetime achievement award:

Celebrating the achievements of a tenet who has dedicated considerable time to make a difference in their community

 

  • Housing Legend award:

Embracing a household legend who currently, or who has previously lived, in a council home.

 

  • True Grit award:

Recognising an individual tenant who has overcome personal battles to make a difference to their own lives, or many lives.

 

  • Green Fingers award:

A chance to shine a light on the talents of a keen gardener who has made their garden bloom

 

  • Grand Designs award for best room makeover:

Recognising the creativity of an individual tenant who has transformed a room in their home

 

  • Tenants’ Choice Award:

An opportunity for you to reward someone who gives their time to help improve your life – someone who has put a smile on your face, helped you into training or employment, helped at a community group etc. This award could be won by anyone who is not a Carmarthenshire County Council tenant

 

TO NOMINATE:

 

Simply tell us, in no more than 100 words, why the person you are nominating deserves the award.

The closing date for nominations is Thursday, June 28, 2018.

You can enter the same person/project in as many categories as you like, but please note that you cannot nominate yourself or your own project.

 

For further information, email MLTucker@carmarthenshire.gov.uk or call 01554 899288.

 

Enter online here (https://www.carmarthenshire.gov.wales/home/council-services/housing/tenant-2-tenant-awards/#.WxFWhBUrKUk )

Send your written entries to: Tenant2Tenant Awards 20168 c/o Carmarthenshire County Council Housing Services, 3 Spilman Street. Carmarthen. SA31 1LE.

 

Earn Time Credits for helping make the Tenant 2 Tenant Awards 2018 happen!

 

We are looking for volunteers to help us promote the awards, make arrangements for the awards evening, and even help out on the night. Earn one Time Credit for every one hour volunteered.

 

Can you help? Contact us at MLTucker@carmarthenshire.gov.uk or call 01554 899288

 

Gwobrau Tenant i Denant yn dychwelyd

 

MAE’R gwobrau mawreddog Tenant i Denant yn dychwelyd eleni.

Pwrpas y gwobrau yw rhoi sylw i’r nifer o arwyr nad ydynt eisoes wedi cael clod, sy’n gwneud ystadau a chymdogaethau yn lleoedd gwych i fyw ynddynt.

Bydd gwobrau 2018 yn cynnig cyfle arall i ddiolch yn fawr i’r bobl sy’n gwneud eu gorau glas er budd eu cymdogion, eu ffrindiau a’r gymuned, a’r rheiny sy’n gwneud ymdrech ychwanegol i sicrhau bod eu cartrefi a’u gerddi ar eu gorau.

Mae 12 o gategorïau’n rhan o’r gwobrau, sy’n amrywio o brosiect/digwyddiad cymunedol y flwyddyn, i wirfoddolwr y flwyddyn; prosiect teuluol i gymydog da. Yn ogystal ceir wobrau am yr ardd orau, yr ystafell sydd wedi’i gweddnewid orau, ynghyd â gwobr arwr y gwasanaethau tai a gwobr cyflawniad oes.

Cynhelir seremoni wobrwyo ym mis Tachwedd, ond cyn hynny, mae gan denantiaid tan 28 Mehefin i enwebu enillwyr teilwng ym mhob categori.

Bydd panel o feirniaid, o dan arweiniad y Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai, yn dewis yr enillwyr o’r enwebiadau a gyflwynwyd.

“Mae’r gwobrau hyn yn ffordd wych o ddathlu tenantiaid a phrosiectau cymunedol,” meddai’r Cynghorydd Evans. “Mae llu o enwebiadau wedi ein cyrraedd ar gyfer y gwobrau eleni ac rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â phawb yn y noson wobrwyo ym mis Tachwedd. Yn wir, mae’n gyfle gwych i ddweud diolch i’r tenantiaid am eu hymdrechion i fynd yr ail filltir i wneud bywydau pobl eraill yn well.”

 

A ydych chi’n adnabod rhywun sy’n haeddu gwobr Tenant i Denant? Gallwch weld yr holl gategorïau a chael gwybod sut i gymryd rhan isod:

  • Prosiect/digwyddiad cymunedol y flwyddyn:

Cydnabod grŵp o wirfoddolwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i ddod ag ysbryd cymunedol yn ôl i’ch ardal

 

  • Gwobr ar gyfer y digwyddiad neu’r fenter orau ar gyfer pobl hŷn:

Dathlu prosiect lle mae tenantiaid cynllun gwarchod wedi cydweithio i roi budd i eraill

 

  • Prosiect Teuluol y flwyddyn:

Rhoi sylw i brosiect sydd wedi gwneud bywydau eich plant a theuluoedd yn fwy disglair.

 

  • Gwirfoddolwr y flwyddyn:

Dathlu’r ymdrech gwych y mae cyd-denant wedi’i wneud i ddod â llawenydd a llesiant i fywydau pobl sy’n byw yn eich cymuned

 

  • Hyrwyddwr Credydau Amser:

Cydnabod ymdrech eithriadol rhywun sydd wedi mynd yr ail filltir i hyrwyddo, i ennill neu i gyfnewid Credydau Amser

 

  • Cymydog Da y flwyddyn:

Mae angen cymdogion da ar bawb, ac mae’r wobr hon i Ddiolch yn Fawr i un cymydog arbennig sy’n mynd yr ail filltir i’ch helpu pan fydd angen

 

  • Gwobr Cyflawniad Oes:

Dathlu cyflawniadau tenant sydd wedi rhoi cryn amser i wneud gwahaniaeth yn ei gymuned

 

  • Gwobr Arwr y Gwasanaethau Tai:

Dathlu arwr aelwyd, sydd ar hyn o bryd yn byw mewn tŷ cyngor, neu sydd wedi byw mewn tŷ cyngor yn y gorffennol.

 

  • Gwobr Dewrder:

Cydnabod tenant unigol sydd wedi goresgyn brwydrau personol i wneud gwahaniaeth i’w fywyd ei hun, neu i nifer o fywydau.

 

  • Gwobr Bysedd Gwyrdd:

Cyfle i roi sylw i ddoniau tenant sy’n arddwr brwdfrydig ac sydd wedi gwneud i’w ardd flodeuo

 

  • Gwobr Ddylunio am yr ystafell sydd wedi’i gweddnewid orau:

Cydnabod creadigrwydd tenant unigol sydd wedi trawsnewid ystafell yn ei gartref

 

  • Gwobr Dewis y Tenantiaid:

Cyfle i chi wobrwyo rhywun sy’n rhoi o’i amser i helpu i wella eich bywyd – rhywun sydd wedi gwneud i chi wenu, eich helpu i gael hyfforddiant neu waith, helpu mewn grŵp cymunedol, ac ati. Gallai unrhyw un nad yw’n denant Cyngor Sir Caerfyrddin ennill y wobr hon.

 

SUT I ENWEBU:

 

Yn syml, dywedwch wrthym mewn 100 o eiriau ar y mwyaf, pam y mae’r person rydych chi’n ei enwebu’n haeddu’r wobr.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw Dydd Iau, 28 Mehefin 2018.

Gallwch enwebu’r un person/prosiect ar gyfer cynifer o gategorïau ag y dymunwch ond cofiwch na allwch chi enwebu eich hunan na’ch prosiect eich hunan.

 

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at MLTucker@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01554 899288.

 

Gallwch gyflwyno enwebiad ar-lein fan hyn: ( https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/tai/gwobrau-tenant-i-denant/#.WxFXMRUrKUk )

 

Anfonwch eich cynigion ysgrifenedig at: Gwobrau Tenant i Denant 20168, d/o Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Caerfyrddin, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.

 

Enillwch Gredydau Amser am helpu i gynnal Gwobrau Tenant i Denant 2018!

 

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i’n helpu ni i hybu’r gwobrau, i wneud trefniadau ar gyfer y noson wobrwyo, ac i helpu ar y noson. Am bob awr rydych yn gwirfoddoli, cewch un Credyd Amser.

 

A allwch chi helpu â’r gwaith hwn? Cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost at MLTucker@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01554 899288.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle