CARMARTHENSHIRE County Council has launched the first round of its Events Support Fund by supporting 14 events across the county.
Events ranging from a Promotion of the Tour of Britain Festival, celebrating the visit of the well-known national cycling event to the county in September, to the Welsh Dairy Show and a Year of the Sea themed carnival in Laugharne are amongst the successful applicants benefitting from the fund.
More than £12,000 has been committed across the 14 events in the first round.
In order to qualify, applicants must hit certain criteria such as meeting priorities within local and national strategies and showing how their event will benefit the local economy.
Last year, the £20,000 pot was awarded to 16 events which contributed over £1.17 million to the county’s economy.
Executive board member for culture, sport and tourism, Cllr Peter Hughes Griffiths, said: “We recognise the importance of events in supporting our communities and towns, the contribution they can make to the local economy and how they attract visitors to Carmarthenshire.
“This fund is just one way we are supporting events in our county which have the most potential to meet our objectives.
“We would urge those interested who meet the criteria to apply.”
Cronfa Cymorth Digwyddiadau
MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio cylch cyntaf ei Gronfa Cymorth Digwyddiadau drwy gefnogi 14 digwyddiad ar draws y sir.
Ymhlith yr ymgeiswyr llwyddiannus sy’n elwa o’r gronfa y mae digwyddiadau sy’n amrywio o Hyrwyddo Gŵyl Taith Prydain i ddathlu’r ras feicio genedlaethol enwog sy’n dod i’r sir ym mis Medi, i Sioe Laeth Cymru a charnifal â thema Blwyddyn y Môr yn Nhalacharn.
Mae mwy na £12,000 wedi’i glustnodi ar draws y 14 digwyddiad yn y cylch cyntaf.
Er mwyn bod yn gymwys, mae’n rhaid i ymgeiswyr fodloni meini prawf penodol megis cyflawni blaenoriaethau mewn strategaethau lleol a chenedlaethol a dangos sut y bydd eu digwyddiad o fudd i’r economi leol.
Y llynedd, dyfarnwyd y gronfa o £20,000 i 16 o ddigwyddiadau a gyfrannodd dros £1.17 miliwn i economi’r sir.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rydym yn cydnabod pwysigrwydd digwyddiadau o ran cefnogi ein cymunedau a’n trefi, y cyfraniad y gallant ei wneud i’r economi lleol a’r modd y maent yn denu ymwelwyr i Sir Gaerfyrddin.
“Mae’r gronfa hon ond un o’r ffyrdd yr ydym yn cefnogi digwyddiadau yn ein sir sydd â’r mwyaf o botensial i gyflawni ein hamcanion.
“Rydym yn annog y rheini sydd â diddordeb ac sy’n bodloni’r meini prawf i wneud cais.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle