Annual grass cutting underway
WORK has started on cutting more than 6,000km of grass verges adjacent to the main highways in the rural and inter urban areas of Carmarthenshire. Highway officers carefully monitor the growth of vegetation on these highway verges around the county to ensure the verges are cut at the optimum time for safety and conservation reasons.
One cut is carried out annually by the local authority, although in some areas a second cut may be needed later in the season, depending on the weather and growing conditions.
Motorists are being urged to be mindful whilst the grass cutting work takes place and to take particular care when passing cutting operations.
The County Council’s cutting operation is designed to continue to support role of highway verges as important networks for nature conservation. The roadside verges provide a rich and varied wildlife habitat offering shelter, a supply of food and corridors along which wildlife can travel.
Executive Board Member with responsibility for environment, Cllr Hazel Evans said: “The cutting of some verges may be delayed in the interests of conservation as long as highway safety is not jeopardised. These ‘late cut’ verge areas where clearly identified and marked will not be cut.”
Gwaith blynyddol o dorri’r borfa yn dechrau
Mae’r gwaith o dorri mwy na 6,000 cilometr o ymylon ffyrdd ger priffyrdd yn ardaloedd gwledig a threfol Sir Gaerfyrddin wedi dechrau. Mae swyddogion priffyrdd yn monitro llystyfiant yn ofalus ar yr ymylon ffyrdd hyn ledled y sir er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu torri ar yr adeg orau posibl am resymau diogelwch a chadwraeth.
Caiff y borfa ei thorri o leiaf unwaith bob blwyddyn gan yr Awdurdod Lleol, er ei bod yn bosibl y bydd angen torri’r borfa am yr ail waith yn ddiweddarach yn y tymor mewn rhai ardaloedd, yn dibynnu ar y tywydd a’r amodau tyfu.
Mae gyrwyr yn cael eu hannog i fod yn ystyriol tra bydd y gwaith torri porfa yn digwydd ac i gymryd gofal ychwanegol wrth basio gweithwyr ac offer sy’n torri’r borfa.
Nod gwasanaeth torri porfa’r Cyngor Sir yw parhau i gefnogi rôl ymylon ffyrdd fel rhwydwaith pwysig ar gyfer cadwraeth natur. Mae’r ymylon ffyrdd yn gynefin toreithiog ac amrywiol sy’n cynnig cysgod, bwyd a choridorau y gall anifeiliaid gwyllt deithio ar hyd-ddynt.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am yr Amgylchedd: “Mae’n bosibl, am resymau cadwraeth, y byddwn yn oedi cyn torri rhai ymylon, os na fydd hynny’n amharu ar ddiogelwch priffyrdd. Ni fyddwn yn torri’r ymylon ffyrdd hyn lle y maent wedi’u nodi a’u marcio’n glir.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle