Part time nursery places now open for Ysgol Parc y Tywyn
PARENTS have until July 31 to apply for part time places at a new nursery class which opens in Ysgol Parc y Tywyn this September.
Carmarthenshire County Council’s full council has today (June 13) approved that part time nursery provision be introduced at the new Parc y Tywyn school building in Burry Port.
From September 4, part-time nursery provision will be provided at the school, which up until now has only accepted pupils from the age of four.
The new provision will provide 45 part time nursery places.
Cllr Glynog Davies, executive board member for education and children’s services, said: “Providing part time nursery provision at Ysgol Parc y Tywyn ensures that the school falls in line with all the other primary schools in the area.
“The new provision will ensure that children in the area have a smooth transition into the foundation phase, giving them the best possible start to their education.”
Current pupils will be moving into the new school building from Monday, July 9.
Parents have until July 31 to apply for a place for their children to start part-time this September. Go to the education and school pages on Carmarthenshire County Council’s website www.carmarthenshire.gov.uk to apply.
Lleoedd dosbarth meithrin rhan-amser ar gael yn Ysgol Parc y Tywyn
MAE gan rieni hyd at 31 Gorffennaf i wneud cais am leoedd rhan-amser mewn dosbarth meithrin newydd sy’n agor yn Ysgol Parc y Tywyn ym mis Medi.
Mae cyngor llawn Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo heddiw (13 Mehefin) fod darpariaeth feithrin ran-amser yn cael ei chyflwyno yn adeilad ysgol newydd Parc y Tywyn ym Mhorth Tywyn.
O 4 Medi ymlaen, bydd darpariaeth feithrin ran-amser yn cael ei darparu yn yr ysgol, nad ydyw wedi derbyn disgyblion dan 4 oed tan nawr.
Bydd gan y ddarpariaeth newydd 45 o leoedd meithrin rhan-amser.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Mae cael darpariaeth feithrin ran-amser yn Ysgol Parc y Tywyn yn sicrhau bod yr ysgol yr un peth â’r holl ysgolion cynradd eraill yn yr ardal.
“Bydd y ddarpariaeth newydd yn sicrhau bod plant yr ardal yn symud ymlaen yn hwylus i’r cyfnod sylfaen, gan roi’r dechrau gorau posib iddyn nhw mewn addysg.”
Bydd y disgyblion presennol yn symud i adeilad newydd yr ysgol ddydd Llun 9 Gorffennaf.
Mae gan y rhieni tan 31 Gorffennaf i wneud cais am le rhan-amser i’w plant ym mis Medi. I wneud cais, ewch i’r tudalennau addysg ac ysgolion ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin www.sirgar.llyw.cymru
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle