Official opening of new Seaside ‘superschool’

0
687

AN official opening for Llanelli’s new £10.2million Ysgol Pen Rhos takes place this week.

The new school, in the Seaside area of the town, is one of Carmarthenshire County Council’s new ‘superschools’ with modern education and recreational facilities to cater not only for its 420 pupils, but also for the local community, which has been jointly funded under Welsh Government’s 21st Century Schools and Education Programme.

Designed by Carmarthenshire County Council’s own property design team, it is one of county’s most eco-friendly schools – designed to retain heat and keep down the school’s running costs.

Externally, a new 3G pitch and multi-use games area has been included for the benefit of pupils and members of the public.

Pupils returned from their Easter break to start life in their new school, which brings together and replaces the former Copperworks infant and Lakefield primary schools.

It is a dual-stream bilingual school, offering education through English and Welsh and caters for children aged between three to 11, with 60 nursery places and a Flying Start centre.

Ysgol Pen Rhos has been delivered through Carmarthenshire County Council’s Modernising Education Programme, with funding through the Welsh Government’s 21st Century Schools initiative.

Education Secretary, Kirsty Williams said: “I’m delighted that staff and pupils are enjoying this ultra-modern and eco-friendly school building. This is an excellent example of what can be achieved through our 21st Century Schools and Education Programme – an inspiring new learning environment that is fit for the future and funded with £5 million from the Welsh Government.

“This project is part of the first wave of the Welsh Government’s 21st Century Schools and Education Programme, which will see the rebuild and refurbishment of over 150 schools and colleges across Wales, representing the largest investment in our schools and colleges since the 1960s.”

Executive board member for education, Cllr Glynog Davies, said: “This is yet another fine example of a 21st century school with an environment and facilities that support children to learn and play in fantastic surroundings.

“We are grateful to TRJ Ltd for their dedicated workmanship and delivering a school that looks and works fantastically well.

“We hope that pupils and staff are starting to settle in and enjoy many happy years ahead.”

Headteacher Joe Cudd added: “Ysgol Pen Rhos is a wonderful school that is at the centre of many exciting developments in the area. The children and their families have waited a long time for their new school.

“Without doubt this is an exceptional facility that will greatly enrich the lives of many, many children. Ysgol Pen Rhos is a 21st century school with the community leaders of tomorrow at the centre of what we do.”

What the children think…

Keira Davies: “My new classroom is fantastic. The chairs are really comfy and when you go outside the teachers can watch you from inside.”

Grace Woods: “This school is fabulous, there’s new stuff in the classroom – the doors slide open when you want to go outside.”

Harri Hale: “I like the 3G pitch, I like playing football on it, and I like the new computers.”

Harry Williams-Hill: “I like how at playtimes we can do different things like playing football, running around or sitting on the chairs under the umbrellas. When it’s nice we can work on the balcony because we have some chairs.”

Imogen Palethorpe: “When I first entered the school it was very spacious and I also love the classes because they’re big. In the dinner hall it’s very clean and we can have a good dinner time.”

VIDEO

Link: https://vimeo.com/266486053

 

Agoriad swyddogol uwch-ysgol newydd Seaside

 

BYDD ysgol newydd Llanelli, gwerth £10.2 miliwn, sef Ysgol Pen Rhos, yn cael ei hagor yn swyddogol yr wythnos hon.

Yr ysgol newydd hon, yn ardal Seaside y dref, yw un o uwch-ysgolion newydd Cyngor Sir Caerfyrddin sy’n cynnwys cyfleusterau addysg a hamdden modern i ddiwallu anghenion ei 420 o ddisgyblion yn ogystal â’r gymuned leol. Ariannwyd yr ysgol ar y cyd gan Raglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

Mae’r ysgol, a ddyluniwyd gan dîm dylunio eiddo Cyngor Sir Caerfyrddin, yn un o ysgolion mwyaf eco-gydnaws y sir – dyluniwyd i gadw’r gwres yn yr ysgol a chadw ei chostau cynnal yn isel.

Mae’r cae chwarae 3G newydd a’r ardal gemau amlddefnydd sydd y tu allan i’r ysgol, er budd y disgyblion ac aelodau’r cyhoedd.

Ar ôl gwyliau’r Pasg, dychwelodd y disgyblion i ddechrau bywyd yn eu hysgol newydd, sy’n cyfuno ac yn disodli hen ysgol fabanod Copperworks ac ysgol gynradd Lakefield.

Mae’n ysgol ddwy ffrwd, ddwyieithog, sy’n cynnig addysg yn y Saesneg neu’r Gymraeg i blant rhwng 3–11 oed, ac mae 60 o leoedd meithrin yno, ynghyd â chanolfan Dechrau’n Deg.

Adeiladwyd Ysgol Pen Rhos drwy gyfrwng Rhaglen Moderneiddio Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin, gyda chyllid gan fenter Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams: “Rwyf wrth fy modd fod staff a disgyblion yn mwynhau’r adeilad ysgol modern ac eco-gydnaws hwn. Mae hon yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy ein Rhaglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif – mae’n amgylchedd dysgu newydd ysbrydoledig sy’n addas ar gyfer y dyfodol ac a ariannwyd gan £5 miliwn o Lywodraeth Cymru.

“Mae’r prosiect hwn yn rhan o gam cyntaf Rhaglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, lle bydd dros 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru yn cael eu hailadeiladu a’u hadnewyddu, gan gynrychioli’r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a’n colegau ers y 1960au.”

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg: “Mae hon yn enghraifft wych arall o ysgol yr 21ain ganrif sydd ag amgylchedd a chyfleusterau sy’n cynorthwyo plant i ddysgu a chwarae mewn amgylchedd gwych.

“Rydym yn ddiolchgar i gontractwyr TRJ Ltd am eu gwaith rhagorol ac am adeiladu ysgol sy’n edrych ac yn gweithio yn anhygoel o dda.

“Rydym yn gobeithio bod disgyblion a staff yn dechrau ymgartrefu ac y byddant yn mwynhau’r blynyddoedd sydd i ddod.”

Ychwanegodd y Pennaeth, Joe Cudd: “Mae Ysgol Pen Rhos yn ysgol ardderchog sydd yn ganolbwynt i nifer o ddatblygiadau cyffrous yn yr ardal. Mae’r plant a’u teuluoedd wedi aros am gyfnod hir am eu hysgol newydd.

“Yn ddi-os, mae hwn yn gyfleuster eithriadol a fydd yn cyfoethogi bywydau nifer sylweddol o blant. Mae Ysgol Pen Rhos yn ysgol y 21ain ganrif ac mae arweinwyr cymunedol y dyfodol yn ganolog i’n gwaith.”

 

Beth yw barn y plant?

Keira Davies: “Mae fy ystafell ddosbarth newydd yn anhygoel. Mae’r cadeiriau yn gyfforddus iawn a phan fyddwn ni’n mynd y tu allan, mae’r athrawon yn gallu ein gwylio o’r tu mewn.”

Grace Woods: “Mae’r ysgol yma yn wych, mae pethau newydd yn yr ystafell ddosbarth – mae’r drysau yn llithro ar agor pan fyddwch am fynd y tu allan.”

Harri Hale: “Rwy’n hoffi’r cae chwarae 3G, rwy’n hoffi chwarae pêl-droed arno, ac rwy’n hoffi’r cyfrifiaduron newydd.”

Harry Williams-Hill: “Rwy’n hoff iawn ein bod yn gallu gwneud gwahanol bethau yn ystod amser chwarae fel chwarae pêl-droed, rhedeg neu eistedd ar y cadeiriau o dan yr ymbarelau. Pan fo’r tywydd yn braf, rydym yn gallu gweithio ar y balconi oherwydd mae gennym gadeiriau.”

Imogen Palethorpe: “Pan wnes i ddechrau yn yr ysgol roedd hi’n fawr iawn ac rwy’n hoffi’r ystafelloedd dosbarth yn fawr iawn hefyd am eu bod yn fawr. Mae’r neuadd fwyta yn lân iawn ac rydym yn gallu cael amser cinio da.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle