Carmarthenshire County Council recognised as an Investor in People | Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei gydnabod yn fuddsoddwr mewn pobl

0
723

CARMARTHNSHIRE County Council has been awarded silver accreditation against the Investors in People Standard, demonstrating its commitment to high performance through good people management.

Investors in People is the international standard for people management, defining what it takes to lead, support and manage people effectively to achieve sustainable results.

Underpinning the Standard is the Investors in People framework, reflecting the latest workplace trends, essential skills and effective structures required to outperform in any industry.

Investors in People enables organisations to benchmark against the best in the business on an international scale.

The council has held IIP accreditation for the past eight years but only five per cent of organisations assessed are awarded the Silver standard.

The strongest areas identified from the assessment were:

  • Since the last assessment, there were quantifiable improvements in every aspect of good people practice.
  • the Council has invested in a new approach to leadership, has made challenging decisions while recruiting and restructuring, and is continuing to respond to its challenging context positively and with determination.
  • Structuring Work and Living the Values and Behaviours are the Council’s stronger indicators.
  • In the main people were positive about Carmarthenshire County Council, seeing it as a great place to work This recognition showcases the council’s commitment to continually improve and build on its previous success of achieving accreditation in 2010.Cllr Emlyn Dole, Leader of the Council, said: “We are very proud of this achievement which demonstrates the council’s commitment to being an employer of choice, developing and supporting the workforce.”Mark James, Chief Executive, said: “Our Staff are at the heart of the council. This award is a great milestone. It’s part of a continuing improvement journey. With Silver accreditation, Carmarthenshire County Council is certainly seen to be helping our people reach their full potential. This really is a great achievement for the Council, and I would like to congratulate all those involved.”
  • For more information about Investors in People please visit www.investorsinpeople.com

 

 

Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei gydnabod yn fuddsoddwr mewn pobl  

 

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi derbyn achrediad arian y Safon Buddsoddwyr mewn Pobl, sy’n dangos ymrwymiad y cyngor i berfformiad uchel drwy reoli pobl yn dda.

Buddsoddwyr mewn Pobl yw’r safon ryngwladol ar gyfer rheoli pobl, sy’n diffinio’r hyn sydd ei angen i arwain, cefnogi a rheoli pobl yn effeithiol i sicrhau canlyniadau cynaliadwy.

Yn sail i’r safon y mae’r fframwaith Buddsoddwyr mewn Pobl, sy’n adlewyrchu’r tueddiadau diweddaraf yn y gweithle, sgiliau hanfodol a’r strwythurau effeithiol sy’n ofynnol er mwyn perfformio’n well mewn unrhyw ddiwydiant.

Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn galluogi sefydliadau i feincnodi yn erbyn y gorau yn y maes ar raddfa ryngwladol.

Mae’r Cyngor wedi sicrhau achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl am yr wyth mlynedd diwethaf ond dim ond pump y cant o sefydliadau sy’n ennill y safon arian yn dilyn y broses asesu.

Y meysydd cryfaf a nodwyd yn ystod y broses asesu oedd:

  • Ers yr asesiad diwethaf, bu gwelliannau mesuradwy ym mhob agwedd ar arferion da o ran pobl.
  • Mae’r Cyngor wedi buddsoddi mewn ymagwedd newydd at arweinyddiaeth, wedi gwneud penderfyniadau heriol wrth recriwtio ac ailstrwythuro, ac mae’n parhau i ymateb i’w gyd-destun heriol mewn modd cadarnhaol a phenderfynol.
  • Strwythuro Gwaith a Byw yn unol â’r Gwerthoedd a’r Ymddygiad yw dangosyddion cryfach y Cyngor.
  • Ar y cyfan roedd pobl yn gadarnhaol ynghylch Cyngor Sir Caerfyrddin, gan ei ystyried yn lle gwych i weithio. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dangos ymrwymiad y Cyngor i wella’n barhaus ac adeiladu ar ei lwyddiant blaenorol o sicrhau’r achrediad yn 2010.Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor: “Rydym yn falch iawn o’r cyflawniad hwn sy’n dangos ymrwymiad y Cyngor i fod yn gyflogwr o ddewis, sy’n datblygu ac yn cefnogi’r gweithlu.”Dywedodd Mark James, y Prif Weithredwr:  “Mae ein staff wrth wraidd y Cyngor. Mae’r wobr hon yn garreg filltir wych, ac mae’n rhan o’r daith tuag at welliant parhaus.  Drwy sicrhau’r achrediad Arian, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn sicr yn helpu ein pobl i gyrraedd eu potensial llawn. Mae hwn yn gyflawniad gwych i’r Cyngor, a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi bod yn rhan ohono.”
  • I gael rhagor o wybodaeth ynghylch Buddsoddwyr mewn Pobl, ewch i www.investorsinpeople.com

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle