With just one week to go before Hywel Dda’s Big NHS Change consultation comes to an end on Thursday, 12th July, residents across Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire are being urged to get involved and have their say on the health board’s three proposals to fundamentally change the way that we provide local healthcare services for the better.
Over the last eleven weeks we’ve heard from thousands of people about our plans to radically overhaul healthcare services to ensure that they are safe, sustainable, accessible and kind for current and future generations. Each proposal has been tested by our clinicians and members of the public have been asked to provide their feedback in a multitude of different ways, which will be independently analysed and considered before any formal proposal is put before the Health Board later this year.
Hywel Dda’s Chief Executive, Steve Moore, said: “I’d like to thank everyone who has been involved in our consultation so far, whether they’ve taken the time to fill in a questionnaire, attended one of our public drop-in or stakeholder events, or provided feedback in other ways.
“There is now one week left to go until the end of what has been the biggest and most important public consultation ever undertaken on the future of NHS services in west Wales, and every last sentiment counts. That’s why I am urging anyone who hasn’t already done so to read through our proposals and tell us what you think.
“I can’t stress enough how important it is for us to hear your views – now is the time to make your voices heard.”
Among the biggest challenges the health board currently faces are an ageing population, difficulty for many people in accessing services close to home, significant recruitment challenges – particularly specialist medical staff – and ageing hospital buildings which require a lot of maintenance to keep running.
To overcome these we want to radically change the way we provide local health care services so that people are accessing most of the care and treatment they need in their local community, and are able to stay at home while they are getting treatment rather than having to go into hospital. Reducing the number of main hospitals will mean having fewer medical rotas to fill, making it easier to attract clinicians to come and work for us; it will also mean shorter waiting times and fewer cancellations, and more money for local and community health services.
In all three of the proposals, Bronglais District General Hospital will continue to provide services for mid Wales; a new major hospital will be built somewhere between Narberth and St Clears, and there will be 10 community hubs across the Health Board area.
The proposals are:
Proposal A
- A new urgent care and planned care hospital between Narberth and St Clears
- Community hospitals in Glangwili, Prince Philip Hospital in Llanelli and Withybush
- A general hospital in Aberystwyth on the Bronglais Hospital site
Proposal B
- A new urgent care and planned care hospital between Narberth and St Clears
- Community hospitals in Glangwili and Withybush
- General hospitals at Prince Philip Hospital in Llanelli and Aberystwyth on the Bronglais Hospital site
Proposal C
- A new urgent care hospital between Narberth and St Clears
- A planned care hospital on Glangwili site
- A community hospital in Withybush
- General hospitals at Prince Philip Hospital in Llanelli and Aberystwyth on the Bronglais Hospital site
Hywel Dda’s Executive Medical Director & Director of Clinical Strategy, Dr Phil Kloer, added: “Since we launched Our Big NHS Change consultation we’ve heard a huge range of different views about our proposals and I would like to personally thank everyone who has shared these with us. The conversation that you have been involved in has been critical in terms of helping to challenge and shape our way of thinking – these are the biggest changes that we as a health board have ever proposed and it’s essential that we don’t leave any stone unturned.
“The challenges we face are really significant. People are living longer, some with long lasting health conditions, and we expect there to be many more older people who will need regular health care and social care.
“In our area some people live in towns and some in country areas, making it difficult for us to ensure that services are in the right place for people to access. Many people live a long way from services, so helping people to live at home while they have treatment can involve a lot of travel for health workers.
“We know that people want to be supported to manage their health in their own homes – about 4 out of every 10 hospital beds are filled by people who could be treated at home. Added to this is the fact that we’re finding it hard to get enough permanent staff, especially specialist medical staff, to come and work for us, and we also need to make fuller use of new technology such as computers, phones, telehealth and telecare.
“We all have a shared passion for the NHS, our services, our history and our staff and we want to harness this to design, together with you, the best health service for our population.”
Please tell us your views by:
Completing the online questionnaire at: www.hywelddahb.wales.nhs.uk/hddchange
Emailing us at: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk
Telephone: 01554 899 056
Coming to one of our drop-in events:
Thursday 5th July 2pm-7pm / Pill Social Centre, Milford Haven SA73 2QT
Monday 9th July 2pm-7pm / Tumble Hall, Tumble SA14 6HR
————————————————————————————-
Gydag wythnos yn unig i fynd nes y daw ymgynghoriad Hywel Dda ynghylch ‘Trawsnewid ein Gwasanaeth Iechyd’ i ben ar Dydd Iau, 12 Gorffenaf, mae trigolion Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael eu hannog i fynegi eu barn am dri chynnig y bwrdd iechyd i wella’r ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau gofal iechyd yn lleol.
Dros yr 11 wythnos diwethaf, rydym wedi cael adborth gan filoedd o bobl am ein cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau gofal iechyd i sicrhau eu bod yn ddiogel, yn gynaliadwy, yn hygyrch ac yn garedig ar gyfer y genhedlaeth bresennol, yn ogystal â chenedlaethau’r dyfodol. Mae pob cynnig wedi cael ei brofi gan ein clinigwyr, ac rydym wedi gofyn i’r cyhoedd roi adborth mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Bydd yr adborth hwn yn cael ei ddadansoddi a’i ystyried yn annibynnol cyn i unrhyw gynnig ffurfiol gael ei roi gerbron y Bwrdd Iechyd yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Prif Weithredwr Hywel Dda, Steve Moore: “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’n hymgynghoriad hyd yn hyn, p’un a ydynt wedi neilltuo amser i lenwi holiadur, mynychu un o’n digwyddiadau galw heibio cyhoeddus neu ddigwyddiadau ar gyfer rhanddeiliaid, neu wedi rhoi adborth mewn ffyrdd eraill.
“Dim ond wythnos sydd i fynd nes i’r ymgynghoriad hwn, sef yr ymgynghoriad cyhoeddus mwyaf a phwysicaf a gynhaliwyd erioed ynghylch dyfodol gwasanaethau’r GIG yng ngorllewin Cymru, ddod i ben, ac mae pob safbwynt olaf yn cyfrif. Felly, rwy’n annog unrhyw un nad yw eisoes wedi darllen ein cynigion i fynd ati i wneud hynny, ac i fynegi ei farn.
“Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig ydyw ein bod yn clywed eich barn – dyma’r amser i ddweud eich dweud.”
Ymhlith yr heriau mwyaf y mae’r bwrdd iechyd yn eu hwynebu ar hyn o bryd y mae’r boblogaeth sy’n heneiddio, yr anawsterau y mae nifer o bobl yn eu hwynebu wrth geisio cael gwasanaethau yn agos at y cartref, heriau recriwtio sylweddol – yn enwedig staff meddygol arbenigol – ac adeiladau ysbytai sy’n heneiddio, y mae arnynt angen llawer o waith cynnal a chadw.
Er mwyn goresgyn yr heriau hyn, rydym am drawsnewid y modd yr ydym yn darparu gwasanaethau gofal iechyd lleol, fel bod pobl yn gallu cael y gofal a’r driniaeth y mae arnynt eu hangen yn eu cymuned leol, ac yn gallu aros gartref tra’u bod yn cael triniaeth yn hytrach na gorfod mynd i’r ysbyty. Bydd lleihau nifer y prif ysbytai yn golygu bod yna lai o rotâu meddygol i’w llenwi, gan ei gwneud yn haws denu clinigwyr i ddod i weithio i ni; bydd hefyd yn golygu amseroedd aros byrrach a llai o achosion o ganslo apwyntiadau, yn ogystal â mwy o arian ar gyfer gwasanaethau iechyd lleol a chymunedol.
Ym mhob un o’r tri chynnig, bydd Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais yn parhau i ddarparu gwasanaethau ar gyfer Canolbarth Cymru; bydd ysbyty mawr newydd yn cael ei adeiladu rhywle rhwng Arberth a Sanclêr, a bydd yna 10 canolfan gymunedol ledled ardal y Bwrdd Iechyd.
Dyma’r cynigion:
Cynnig A
- Prif ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd, wedi’i leoli rhwng Arberth a Sanclêr
- Ysbytai cymunedol ar safleoedd Llwynhelyg, Tywysog Philip a Glangwili
- Ysbyty cyffredinol yn Aberystwyth, ar safle Ysbyty Bronglais
Cynnig B
- Prif ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd, wedi’i leoli rhwng Arberth a Sanclêr
- Ysbytai cymunedol ar safleoedd Glangwili a Llwynhelyg
- Ysbytai cyffredinol yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, ac yn Aberystwyth, ar safle Ysbyty Bronglais
Cynnig C
- Prif ysbyty gofal brys newydd, wedi’i leoli rhwng Arberth a Sanclêr
- Ysbyty gofal wedi’i gynllunio ar safle Glangwili
- Ysbyty cymunedol ar safle Llwynhelyg
- Ysbytai cyffredinol yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, ac yn Aberystwyth, ar safle Ysbyty Bronglais
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a Chyfarwyddwr Strategaeth Glinigol Hywel Dda, Dr Phil Kloer: “Ers i ni lansio ein hymgynghoriad ynghylch Trawsnewid ein Gwasanaeth Iechyd, rydym wedi clywed amrywiaeth enfawr o safbwyntiau gwahanol am ein cynigion, a hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb sydd wedi rhannu’r rhain â ni. Mae’r sgwrs yr ydych wedi bod yn rhan ohoni wedi bod yn hanfodol o ran helpu i herio ein ffordd o feddwl, a’i llywio – dyma’r newidiadau mwyaf yr ydym ni fel bwrdd iechyd erioed wedi eu cynnig, ac mae’n hanfodol nad ydym yn gadael yr un garreg heb ei throi.
“Mae’r heriau yr ydym yn eu hwynebu yn fawr. Mae pobl yn byw’n hirach, rhai ohonynt â chyflyrau iechyd hirdymor, ac rydym yn disgwyl y bydd yna lawer mwy o bobl hŷn y bydd arnynt angen gofal iechyd a gofal cymdeithasol rheolaidd.
“Yn ein hardal, mae rhai pobl yn byw mewn trefi a rhai mewn ardaloedd gwledig, sy’n golygu ei bod yn anodd i ni sicrhau bod gwasanaethau yn y mannau iawn. Mae llawer o bobl yn byw ymhell i ffwrdd oddi wrth wasanaethau, felly mae helpu pobl i fyw gartref tra’u bod yn cael triniaeth yn gallu golygu bod yn rhaid i weithwyr iechyd deithio llawer.
“Gwyddom fod pobl am gael eu cefnogi i reoli eu hiechyd yn eu cartrefi eu hunain – gallai tua 4 o bob 10 o gleifion sy’n cael gwely mewn ysbyty gael eu trin gartref. Yn ychwanegol at hyn y mae’r ffaith ein bod yn ei chael hi’n anodd denu digon o staff parhaol, yn enwedig staff meddygol arbenigol, i ddod i weithio i ni, ac mae angen i ni hefyd wneud defnydd llawnach o dechnoleg newydd, er enghraifft cyfrifiaduron, ffonau, teleiechyd a theleofal.
“Mae pob un ohonom yn rhannu brwdfrydedd dros y GIG, ein gwasanaethau, ein hanes a’n staff, ac rydym am fanteisio ar hyn i fynd ati, ar y cyd â chi, i ddylunio’r gwasanaeth iechyd gorau posibl ar gyfer ein poblogaeth.”
Dywedwch eich barn wrthym trwy:
Lenwi’r holiadur ar-lein yn: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/95250
Anfon neges e-bost atom: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk
Ein ffonio: 01554 899 056
Bod yn rhan o’n digwyddiadau galw heibio:
Dydd Iau 5 Gorffenaf 2pm-7pm / Canolfan Cymdeithasol Pill, Aberdaugleddau SA73 2QT
Dydd Llun 9 Gorffennaf 2pm-7pm, Neuadd y Tymbl, Y Tymbl, SA14 6HR
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle