Young Ambassadors celebration event | Digwyddiad Dathlu Llysgenhadon Ifanc

0
607

Young Ambassadors celebration event

 

A CELEBRATION day for Carmarthenshire Young Ambassadors has taken place with pupils from Carmarthenshire schools.

The event was hosted by Carmarthenshire County Council’s Actif Sport and Leisure team and celebrated the achievements and dedication of Carmarthenshire’s Young Ambassadors as well as inspire them to continue along the programme.

The pupils, aged from eight to 21, are part of a national programme that aims to empower and inspire young people to become leaders through sport, and to help encourage their peers to become hooked on sport.

Carmarthenshire’s programme is hailed as sector-leading and has over 300 active Young Ambassadors in primary, secondary schools and colleges.

They are champions of PE and school sport in their school / college, working closely with teachers to organise sporting events, lead and organise lunchtime activities and supporting older leaders to deliver sessions in their school and community.

Commonwealth athlete and marathon runner Caryl Jones was in attendance at the event, held at Pembrey Country Park, along with a number of other young athletes, including gymnasts Nikara Jenkins, Abigail Hanford and Lauren Carmon, as well as wheelchair basketballer Oliver Griffith.

They spoke to the Young Ambassadors about their experiences of representing Wales and Great Britain.

The children also took part in several activities delivered by a number of partners including Scarlets, Hockey Wales, Ski Pembrey and Actif Club and a question and answer session led by silver and gold ambassadors who spoke about their ambassadorial experience.

Leader Cllr Emlyn Dole was also present. He said: “It has been a pleasure to see the Young Ambassador programme grow and move from strength to strength here in Carmarthenshire and to see the opportunities that it creates for young people, by empowering them to be role models for sport, health and wellbeing in their own schools.

“Thanks also to key partners for their support on the day including Youth Sport Trust, Sport Wales, Carmarthenshire County Council’s Family Information Services, Brecon Carreg and Tesco (Llanelli).”

Digwyddiad Dathlu Llysgenhadon Ifanc

 

CYNHALIWYD diwrnod dathlu Llysgenhadon Ifanc Sir Gaerfyrddin gyda disgyblion o ysgolion Sir Gaerfyrddin.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan dîm Chwaraeon a Hamdden Actif Cyngor Sir Caerfyrddin, a oedd yn cynnwys dathlu llwyddiannau ac ymrwymiad Llysgenhadon Ifanc Sir Gaerfyrddin yn ogystal â’u hysbrydoli nhw i barhau â’r rhaglen.

Mae’r disgyblion, rhwng wyth a 21 oed, yn rhan o raglen genedlaethol sydd â’r nod o rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i ddod yn arweinwyr drwy chwaraeon, ac annog eu cyfoedion i fwynhau chwaraeon.

Cydnabuwyd bod rhaglen Sir Gaerfyrddin yn arwain y sector ac mae gan y rhaglen dros 300 o Lysgenhadon Ifanc egnïol mewn colegau ac ysgolion cynradd ac uwchradd.

Maen nhw’n hyrwyddwyr ymarfer corff a chwaraeon ysgol yn eu hysgolion / colegau, yn gweithio’n agos gydag athrawon i drefnu digwyddiadau chwaraeon, yn arwain a threfnu gweithgareddau amser cinio ac yn cefnogi arweinwyr hŷn i gynnal sesiynau yn eu hysgolion a’u cymunedau.

Roedd Caryl Jones, athletwraig y Gymanwlad a rhedwraig marathon, yn bresennol yn y digwyddiad a gynhaliwyd ym Mharc Gwledig Pen-bre ynghyd â nifer o athletwyr ifanc eraill, gan gynnwys y gymnastwyr Nikara Jenkins, Abigail Hanford a Lauren Carmon, yn ogystal ag Oliver Griffith, y chwaraewr pêl-fasged cadair olwyn.

Buont yn siarad â’r Llysgenhadon Ifanc am eu profiadau yn cynrychioli Cymru a Phrydain Fawr.

Cymerodd y plant hefyd ran mewn nifer o weithgareddau a gynhaliwyd gan nifer o bartneriaid gan gynnwys y Scarlets, Hoci Cymru, Canolfan Sgïo Pen-bre a Chlwb Actif, yn ogystal â sesiwn holi ac ateb dan arweiniad Llysgenhadon Arian ac Aur a siaradodd am eu profiadau o fod yn llysgenhadon.

Roedd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor hefyd yn bresennol. Dywedodd: “Mae wedi bod yn bleser gweld y rhaglen Llysgenhadon Ifanc yn datblygu ac yn mynd o nerth i nerth yma yn Sir Gaerfyrddin ac i weld y cyfleoedd y mae’n creu ar gyfer pobl ifanc, drwy eu grymuso i fod yn esiamplau arbennig o ran chwaraeon, iechyd a llesiant yn eu hysgolion eu hunain.

“Diolch yn fawr i bartneriaid allweddol hefyd am eu cymorth ar y diwrnod gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, Chwaraeon Cymru, Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Cyngor Sir Caerfyrddin, Brecon Carreg a Tesco (Llanelli).”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle