Young mother Jordan was in the Senedd today talking about the positive impact Milford Youth Matters has had on her life.
Milford Youth Matters, based in Milford Haven are using their £240,190 grant from the Big Lottery Fund to support young people like Jordan to grow in confidence, gain qualifications and successfully find work.
Milford Youth Matters is one of six organisations and charities who the Big Lottery Fund bought to the Senedd today to meet Assembly Members to share their stories and pride in how they have taken control of their lives and wellbeing.
Another local project, Down to Earth, is using its £423,329.00 Big Lottery Fund grant to work around Swansea, Neath Port Talbot and Carmarthenshire. They are building an electric vehicle transport pool for refugees and asylum seekers.
The Big Lottery Fund today announced £34 million funding raised through the National Lottery, which will be available as grants to communities across Wales up to the end of March 2019. Recently the Big Lottery Fund re-organised into three regional teams to cover North Wales; Mid and West Wales and South East and Central Wales. This will enable the Big Lottery Fund to be more accessible and better connected to the people and communities of Wales, which in turn will help maximise the impact of National Lottery funding.
Plaid Cymru Mid and West AM Simon Thomas said: ““It was a pleasure to welcome Milford Youth Matters to the Assembly today and to hear of the hard work they are doing to help young people gain skills for further training or employment. It was particularly good to see that much of the work was done in skills dealing with reuse and recycling”.
AC yn cwrdd â phrosiectau lleol Milford Youth Matters a Down to Earth yn y Senedd wrth i’r Gronfa Loteri Fawr gyhoeddi £34m eleni yng Nghymru
Roedd mam ifanc Jordan yn y Senedd heddiw yn siarad am yr effaith gadarnhaol y mae Milford Youth Matters wedi’i chael ar ei bywyd. Mae Milford Youth Matters, a leolir yn Aberdaugleddau, yn defnyddio eu grant o £240,190 gan y Gronfa Loteri Fawr i gefnogi pobl ifainc fel Jordan i gynyddu eu hyder, cael cymwysterau a dod o hyd i waith yn llwyddiannus. Mae Milford Youth Matters yn un o chwe mudiad ac elusen y mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi dod â nhw at y Senedd heddiw i gwrdd ag Aelodau Cynulliad i rannu eu storïau ac ymfalchïo yn y ffordd y maent wedi mynnu rheolaeth ar eu bywydau a’u lles. Mae prosiect lleol arall, Down to Earth, yn defnyddio ei grant o £423,329.00 gan y Gronfa Loteri Fawr i weithio yn ardaloedd Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Gâr. Maent yn adeiladu cronfa cludiant cerbydau trydan ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Heddiw cyhoeddodd y Gronfa Loteri Fawr £34 miliwn a godwyd trwy’r Loteri Genedlaethol, a fydd ar gael ar ffurf grantiau i gymunedau ar draws Cymru hyd at ddiwedd mis Mawrth 2019. Yn ddiweddar, aildrefnodd y Gronfa Loteri Fawr ei hun i dri thîm rhanbarthol i gynnwys Gogledd Cymru; Canolbarth a Gorllewin Cymru a De-ddwyrain a De Canolbarth Cymru. Bydd hyn yn galluogi’r Gronfa Loteri Fawr i fod yn fwy hygyrch ac â chysylltiadau gwell gyda phobl a chymunedau Cymru, a fydd yn ei dro yn helpu mwyafu effaith grantiau’r Loteri Genedlaethol.
Meddai Simon Thomas AC Plaid Cymru:
“Roedd yn bleser croesawu Milford Youth Matters i’r Cynulliad heddiw a chlywed am y gwaith caled y maent yn ei wneud i helpu pobl ifainc i fagu’r sgiliau ar gyfer hyfforddiant pellach neu gyflogaeth. Roedd yn arbennig o dda gweld bod llawer o’r gwaith wedi’i wneud mewn sgiliau sy’n ymdrin ag ailddefnyddio ac ailgylchu.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle