Hefty bill for fly tipper/Dirwy sylweddol am dipio anghyfreithlon

0
481

Hefty bill for fly tipper

 

Fly tipping at a service station in Llanelli has cost one man nearly £1,200.

Rennie Price was ordered to pay the money after he was caught on camera dumping rubbish behind the Shell garage in Dafen.

In a prosecution led by Camarthenshire Council, Llanelli magistrates heard that CCTV had picked up a loaded white Ford Transit tipper driving to the rear of petrol station at just after 9pm in August last year. Three minutes later the Treefellas truck was captured parked in the garage forecourt empty. The 47-year-old was the passenger.

Carmarthenshire Council enforcement officers caught up with the driver two days later and admitted that he and Price committed the crime thinking the location was a tip.

Despite two letters hand delivered to the address provided as Lleidi Crescent, there was no response. Two weeks later officers visited the address and the landlord confirmed it had been empty for a couple of weeks.

Contact was made with Dyfed Powys Police for assistance in tracing the male and Price.  Officers were informed that the vehicle had been stopped and the address provided by the driver was Creswell Road in Swansea. Another letter was sent to this address but no reply was received. Price claimed he no longer lived at this address.

Price was arrested on warrant on July 2 and appeared before Llanelli Magistrates Court. He admitted fly tipping and was fined £745, and told to pay £360 costs and £70 victim surcharge

The other male remains on a warrant.

The council’s executive board member for public protection, Cllr Philip Hughes said: “There is no place for fly tippers in this county. Dumped rubbish is unsightly and has a huge impact on the environment. We are determined to clean up our streets in Carmarthenshire and will continue to use our powers accordingly.”

Dirwy sylweddol am dipio anghyfreithlon

 

Mae tipio anghyfreithlon mewn gorsaf betrol yn Llanelli wedi costio bron i £1,200 i un dyn.

Cafodd Rennie Price orchymyn i dalu’r arian ar ôl iddo gael ei ddal ar gamera yn gwaredu sbwriel y tu ôl i’r orsaf betrol Shell yn Nafen.

Mewn erlyniad dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, clywodd ynadon Llanelli fod teledu cylch cyfyng wedi dangos cerbyd Ford Transit Tipper gwyn llwythog yn gyrru tuag at gefn yr orsaf betrol ychydig ar ôl 9pm ym mis Awst y llynedd. Dri munud yn ddiweddarach, gwelwyd y tryc Treefellas wedi’i barcio yng nghwrt blaen yr orsaf betrol ond erbyn hyn roedd yn wag. Y dyn 47 oed oedd y teithiwr.

Siaradodd swyddogion gorfodi Cyngor Sir Caerfyrddin â’r gyrrwr ddau ddiwrnod yn ddiweddarach a chyfaddefodd mai ef a Price oedd wedi cyflawni’r drosedd gan gredu mai tip oedd y lleoliad.

Er bod dau lythyr wedi eu dosbarthu â llaw i Gilgant Lliedi – sef y cyfeiriad a ddarparwyd, nid oedd dim ymateb. Bythefnos yn ddiweddarach, aeth swyddogion i’r cyfeiriad a chadarnhaodd y landlord ei fod yn wag ers ychydig o wythnosau.

Cysylltwyd â Heddlu Dyfed-Powys i ofyn am gymorth i olrhain y dyn a Price.  Hysbyswyd swyddogion fod y cerbyd wedi’i stopio ac mai’r cyfeiriad a roddwyd gan y gyrrwr oedd Heol Creswell yn Abertawe. Anfonwyd llythyr arall i’r cyfeiriad hwn, ond ni chafwyd ymateb. Honnodd Price nad oedd yn byw yn y cyfeiriad hwn bellach.

Cafodd Price ei arestio ar warant ar 2 Gorffennaf ac ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Llanelli. Cyfaddefodd iddo dipio gwastraff yn anghyfreithlon a chafodd ddirwy o £745 ac mae’n rhaid iddo dalu £360 o gostau a £70 o ordal dioddefwr.

Mae’r dyn arall yn parhau ar warant.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Nid oes lle i bobl sy’n tipio’n anghyfreithlon yn y sir hon. Mae sbwriel sy’n cael ei adael yn edrych yn anniben ac mae’n cael effaith arswydus ar yr amgylchedd. Rydym yn benderfynol o lanhau ein strydoedd yn Sir Gaerfyrddin a byddwn ni’n parhau i ddefnyddio ein pwerau yn unol â hynny.”

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle