Pupils move into new Burry Port school

0
1748

THE new Ysgol Parc y Tywyn in Burry Port has opened its doors to pupils for the first time.

Current pupils moved into their new £9.6 million school on Monday (July 9) at its new home near the harbour.

The Welsh medium school, which from September will include a new nursery offering part-time nursery provision, has been built to the highest energy efficiency standards, becoming the latest Passivhaus and BREEAM Excellent school building in Wales designed by the county council’s in-house Property Design team.

Welsh home grown timber is the principal structural material, and locally sourced softwoods provide the majority of the external rain cladding.

The council appointed Dawnus contractors to carry out the development.

The new school has been delivered through Carmarthenshire County Council’s Modernising Education Programme, and jointly funded by the Welsh Government.

Education executive board member Cllr Glynog Davies said: “What a great day today has been for staff and pupils in Burry Port and the surrounding areas as they move into their exciting and vibrant new school.

“Work has been completed in time for pupils to adjust to their new surroundings ahead of the start of the new school year in September.”

Headteacher Donna Jenkins, who will be retiring at the end of this term after 22-years, added: “It’s great to see this fantastic new school for Ysgol Parc y Tywyn. The school opened on October 4, 1965 with 49 pupils being enrolled on the first day, under the leadership of Mr Ken Jones. With this new school it’s safe to say that the future of Welsh education in Burry Port will continue to thrive. I would like to thank parents, governors and the council for securing this new school. It’s a very emotional time for me as I prepare to leave, but this is an exciting new chapter for the school. I am very proud of what we have achieved.”

Parents have until July 31 to apply for part time places at a new nursery class which opens in Ysgol Parc y Tywyn this September.

Visit the education pages on the council’s website to apply for a place.

Disgyblion yn symud i Ysgol newydd Porth Tywyn   

 

MAE ysgol newydd Parc y Tywyn ym Mhorth Tywyn wedi agor ei drysau i ddisgyblion am y tro cyntaf.

Symudodd disgyblion presennol i’w hysgol newydd, gwerth £9.6 miliwn, dydd Llun, (9 Gorffennaf) yn y lleoliad newydd ger yr harbwr.

Mae’r ysgol newydd cyfrwng Cymraeg, a fydd o fis Medi ymlaen yn cynnwys dosbarth meithrin newydd sy’n cynnig darpariaeth feithrin ran-amser, wedi cael ei hadeiladu yn unol â’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, sy’n golygu mai hon yw’r ysgol ddiweddaraf i gyrraedd safon ardderchog BREEAM a safon Passivhaus yng Nghymru, wedi’i dylunio gan Dîm Dylunio Eiddo mewnol y Cyngor Sir.

Pren o Gymru yw prif ddeunydd y strwythur a phren meddal lleol yw y rhan fwyaf o’r cladin allanol rhag y glaw.

Penodwyd contractwyr Dawnus gan y Cyngor i wneud y gwaith ar y datblygiad.

Mae’r ysgol newydd wedi cael ei darparu drwy Raglen Moderneiddio Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin ac wedi’i hariannu ar y cyd â Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg: “Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod gwych i staff a disgyblion ym Mhorth Tywyn a’r ardaloedd cyfagos wrth iddynt symud i’w hysgol newydd fodern a chyffrous.

“Mae’r gwaith wedi cael ei gwblhau mewn pryd i’r disgyblion ymgyfarwyddo â’u cartref newydd cyn dechrau’r flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi.”

Ychwanegodd Donna Jenkins, y Pennaeth, a fydd yn ymddeol ar ddiwedd y tymor hwn ar ôl 22 mlynedd: “Mae’n wych gweld Ysgol newydd ffantastig Parc y Tywyn. Agorodd yr ysgol ar 4 Hydref, 1965.  Cofrestrodd 49 o ddisgyblion ar y diwrnod cyntaf o dan arweinyddiaeth Mr Ken Jones. Yn sgil yr ysgol newydd hon, does dim amheuaeth y bydd dyfodol addysg Gymraeg yn ardal Porth Tywyn yn parhau i ffynnu. Carwn ddiolch i rieni, llywodraethwyr a’r cyngor am sicrhau bod yr ysgol newydd hon yn cael ei hadeiladu. Mae’n amser emosiynol iawn i mi wrth i mi baratoi i adael ond mae hon yn bennod newydd cyffrous i’r ysgol. Rwy’n falch iawn o’r hyn rydym wedi ei gyflawni.”

Mae gan rieni hyd at 31 Gorffennaf i wneud cais am lefydd rhan-amser mewn dosbarth meithrin newydd sy’n agor yn Ysgol Parc y Tywyn ym mis Medi.

Ewch i’r tudalennau addysg ar wefan y cyngor i wneud cais am le.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle